Trwy ei defnydd o’i data gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (y Rhwydwaith) ac ymyriadau targedig, mae Ysgol Uwchradd Whitmore wedi cymryd camau cadarnhaol ymlaen wrth wella iechyd a lles dysgwyr.
Trwy ddadansoddi data’r Rhwydwaith, nododd yr ysgol feysydd allweddol i’w gwella a rhoddodd strategaethau penodol ar waith i fynd i’r afael â nhw, gan hoelio’i sylw ar ar foddhad dysgwyr, cysylltedd yr ysgol, a boddhad cyffredinol â bywyd. Mae’r ymyriadau targedig hyn wedi arwain at welliannau yn iechyd a lles dysgwyr, gan ddangos ymrwymiad yr ysgol i roi lle blaenllaw i iechyd a lles yn ei chenhadaeth. O ganlyniad, mae dysgwyr mewn sefyllfa well i ffynnu yn yr ysgol a’r tu hwnt, gan sicrhau eu bod yn cael y cyfle gorau posibl i lwyddo.
Cliciwch isod i ddarganfod mwy
Ysgol Uwchradd Whitmore: Lle mae’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, Iechyd a Lles a Chysylltiadau Ystyrlon yn Llywio Cymuned yr Ysgol