Mae’r astudiaeth achos ysgol hon yn rhan o gyfres barhaus sy’n archwilio arferion arloesol sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn seiliedig ar ddata SHRN.
Amlinelliad o’r Astudiaeth Achos
Yn Ysgol Aberconwy, mae’r ymrwymiad i ddefnyddio data’r Rhwydwaith wedi annog ymagwedd ragweithiol ac ataliol at iechyd a lles, sydd wedi bod yn ganolog i’w hymdrechion i gefnogi dysgwyr. Trwy asesu canfyddiadau a thueddiadau allweddol, nododd yr ysgol fod cwsg yn flaenoriaeth arwyddocaol. Gan ddefnyddio data’r Rhwydwaith i lywio cynllunio gweithredu a chydweithredu â dysgwyr a phartneriaid allanol, mae’r ysgol wedi rhoi amrywiaeth eang o fentrau ar waith i wella ansawdd a lefel cwsg ac, yn ei dro, gwella iechyd cyffredinol dysgwyr. Mae’r astudiaeth achos hon yn amlinellu’r camau a gymerwyd ganddynt i wreiddio data’r Rhwydwaith yn eu hunanwerthuso a’u cynlluniau datblygu, a’r effaith gadarnhaol y mae hyn wedi’i chael ar gymuned gyfan yr ysgol.
Cliciwch isod i ddarganfod mwy
Ysgol Aberconwy: Arwain y Ffordd o ran Cwsg a Lles i Ddysgwyr