
Ers 2013, mae’r Rhwydwaith wedi bod mewn partneriaeth strategol gadarn gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Nod ein cydweithrediad yw gwella iechyd a lles plant a phobl ifanc ar draws Cymru trwy fanteisio ar ddata a thystiolaeth gadarn.
Mae Bwrdd y Rhaglen Ysgolion sy’n Hybu Iechyd (HPSPB) yng Nghymru yn gwella iechyd a lles cymunedau ysgolion trwy gefnogi Rhwydwaith Ysgolion Cymru sy’n Hybu Iechyd a Lles (WNHWPS) a’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (y Rhwydwaith). Mae’r bwrdd yn cynnig cyngor a throsolwg strategol, gan gysoni nodau’r rhwydweithiau hyn â pholisïau addysg ac iechyd presennol. Mae’r arweinyddiaeth gydweithredol hon, sydd wedi’i chadeirio ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Gwella Iechyd yn iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyfarwyddwr DECIPHer, yn sicrhau cysondeb â pholisïau iechyd a pholisïau addysgol.

Agweddau Allweddol ar ein Partneriaeth – Integreiddio Ymchwil ac Ymarfer
- Casglu a Dadansoddi Data yn Drylwyr
Mae’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn casglu data iechyd a lles helaeth gan ysgolion, y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei ddefnyddio i lywio polisïau a strategaethau. Mae’r data hwn yn cwmpasu:
- Bwyd, ffitrwydd a gweithgarwch corfforol
- Iechyd meddwl a lles emosiynol
- Rhyw a pherthnasoedd
- Ymddygiadau risg
- Polisïau lles ysgolion a’u heffaith
- Seilwaith Gwerthuso
Mae’r Rhwydwaith yn cynnig system ar gyfer gwerthuso rhaglenni iechyd, gan ddarparu tystiolaeth hanfodol sy’n cael ei defnyddio gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i wella polisïau cenedlaethol ar gyfer iechyd a lles plant a phobl ifanc.
- Datblygu Polisi
Mae ein partneriaeth yn helpu i greu polisïau seiliedig ar dystiolaeth, fel y Dull Ysgol Gyfan ar gyfer Llesiant Emosiynol a Meddyliol. Nodwyd bod data’r Rhwydwaith yn ffynhonnell allweddol ar gyfer cynorthwyo ysgolion i weithredu’r Fframwaith.
- Ymyriadau Targedig
Trwy amlygu meysydd â’r angen mwyaf, gall y Rhwydwaith ac Iechyd Cyhoeddus Cymru roi ymyriadau iechyd targedig ar waith, gan sicrhau bod adnoddau’n cael eu neilltuo’n effeithiol.
- Datblygiad Proffesiynol
Mae’r cydweithrediad hwn yn cynnwys digwyddiadau rhwydweithio a datblygiad proffesiynol ar y cyd, gan ddarparu’r ymchwil a’r arfer da diweddaraf i addysgwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol.
- Datblygu’r Gweithlu: Nod menter hyfforddiant ADEPT dan arweiniad DECIPher yw gwella sgiliau Cydlynwyr Ysgolion Iach wrth ddefnyddio data iechyd a lles yn effeithiol. Mae DECIPHer yn cynnig cyrsiau a rhaglenni byr amrywiol sy’n anelu at wella dulliau ymyrryd iechyd cyhoeddus, yn enwedig mewn meysydd fel iechyd meddwl a lles.
- Adrodd Cynhwysfawr
Mae’r Rhwydwaith yn darparu adroddiadau adborth manwl i ysgolion ac awdurdodau lleol, gan eu helpu i ddeall eu data iechyd a lles er mwyn gwneud penderfyniadau gwybodus a chynllunio ymyriadau effeithiol.
- Datblygu’r Cwricwlwm
Mae ein partneriaeth yn cynorthwyo ysgolion i ddatblygu cwricwlwm sy’n cyd-fynd â Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles gorfodol Llywodraeth Cymru.
- Datblygu a Darparu WNHWPS
Mae’r Rhwydwaith wedi’i integreiddio â darparu rhaglen WNSWPS. Darllenwch fwy.
- Defnyddio Data yn Well: Mae’r Rhwydwaith ac Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi creu dangosfwrdd iechyd cyhoeddus i ddilyn trywydd iechyd a lles dysgwyr uwchradd yng Nghymru. Mae’r dangosfwrdd hwn yn cwmpasu meysydd fel gweithgarwch corfforol, iechyd meddwl, bwlio a deiet. Mae’n defnyddio darluniau rhyngweithiol i ddangos tueddiadau a phatrymau yn nata’r Rhwydwaith. Mae’r diweddariadau wedi gwella sut caiff data ei rannu rhwng ysgolion uwchradd, gan roi darlun llawnach o iechyd pobl ifanc. Mae hyn yn helpu i fonitro a gwerthuso polisïau iechyd a lles yn fwy effeithiol. Darllenwch fwy.

Effaith ar Bolisi ac Ymarfer:
Mae’r Rhwydwaith ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydweithio i lywio polisïau ac ymarfer cenedlaethol, gan sicrhau bod strategaethau iechyd a lles wedi’u seilio ar dystiolaeth gadarn a’u bod yn cyflawni canlyniadau ystyrlon.

Enghreifftiau Allweddol
- Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi mabwysiadu dull newydd i fynd i’r afael ar frys â’r defnydd o gynhyrchion fepio ymhlith plant a phobl ifanc.
- Fepio a Smygu ymhlith Dysgwyr ym Mlwyddyn 7 i 11 yng Nghymru Dadansoddiad o Arolwg Iechyd a Llesiant Myfyrwyr (SHW) mewn ysgolion uwchradd y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN), 2023 Fersiwn 1.0
- Mae 48% o blant oedran cynradd yng Nghymru yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd, yn ôl adroddiad
- Croesawu rheoliadau fepio newydd wrth i’r defnydd o fêps gynyddu ymhlith pobl ifanc
- Cynnydd mewn gweithgarwch corfforol ymhlith disgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru, ond mae’r data hefyd yn datgelu cynnydd mewn bwlio
- Adroddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru yn archwilio sut i wneud y gorau o rôl bwyd ysgol wrth hyrwyddo maeth a lleihau anghydraddoldebau iechyd
Mae Cymru a WNHPWS yn cael effaith arwyddocaol ar iechyd a lles dysgwyr ar draws Cymru, gan greu amgylchedd addysgol iachach a mwy cefnogol i bawb.

Dysgwch Ragor am Ein Heffeithiau
I ddysgu mwy am yr amryw ffyrdd rydym ni’n gwneud gwahaniaeth, dychwelwch i’n tudalen ‘Prif Effaith’ i gael cipolygon a diweddariadau manwl am ein heffeithiau lleol, cenedlaethol a byd-eang.

Diweddariadau
Cadwch i fyny â’r newyddion, yr ymchwil a’r cipolygon diweddaraf gan y Rhwydwaith trwy gofrestru ar gyfer ein Crynhoad Misol. Dysgwch am ein datblygiadau diweddaraf, digwyddiadau sydd ar ddod a mentrau newydd sy’n anelu at wella iechyd a lles dysgwyr.
Ymunwch â’n cymuned a byddwch yn rhan o’r newid cadarnhaol!