Swyddi Gwag

Rheolwr Ymgysylltu, Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN), DECIPHer (18777BR)

Mae Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Caerdydd yn ceisio recriwtio Rheolwr Ymgysylltu i weithio o fewn y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion sy’n cael ei redeg o fewn Canolfan Ymchwil y Ganolfan Datblygu, Gwerthuso, Cymhlethdod a Gweithredu mewn Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) sydd wedi’i lleoli yn yr ysgol.

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol a SPARK. Bydd y rôl hon yn darparu cyfnewid gwybodaeth a gweithgaredd ymgysylltu, ac yn darparu arweiniad a chefnogaeth, gan arwain prosiectau o fewn y maes hwn.

Fel Rheolwr Ymgysylltu Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion, byddwch yn gyfrifol am bedwar prif faes gweithgaredd gan gynnwys datblygu strategaethau, materion allanol, cyfnewid gwybodaeth ac effaith.

Mae’r swydd hon yn llawn amser (35 awr yr wythnos), yn gyfnod sefydlog tan 31st Mawrth 2026 ac mae ar gael yn syth.

Cyflog: £39,347 – £44,263 y flwyddyn (Gradd 6), gyda 4 o gynyddrannau blynyddol hyd at £44,263 y flwyddyn (cyflog terfynol ar frig y raddfa).

Yn gyfrifol am Ms Maria Boffey, Rheolwr Cyfnewid Gwybodaeth a Materion Allanol, SHRN

Am drafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Maria Boffey, BoffeyM1@cardiff.ac.uk.

Mae gweithio cyfunol yn bosibl wrth wneud y swydd hon. Mae hynny’n golygu, yn ogystal â threulio amser yn gweithio ar y campws, y gallwch dreulio rhywfaint o amser yn gweithio o leoliad arall, e.e. eich cartref. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnig yr hyblygrwydd yma, lle bynnag y bydd anghenion y swydd a’r busnes yn caniatáu hynny, er mwyn cefnogi cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.

Mae gan Brifysgol Caerdydd yr hawl i gau‘r hysbyseb hon yn gynnar trwy roi rhybudd o 24 awr os oes digon o geisiadau wedi‘u derbyn.

Dyddiad hysbysebu: 25 Gorffennaf 2024
Dyddiad cau: 24 Awst 2024

Am fanylion llawn ac i wneud cais, cliciwch isod.

Gwneud cais