Croeso i’n casgliad cynhwysfawr o Adroddiadau a Data Manwl Ysgolion Cynradd ac Uwchradd
Yn y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (y Rhwydwaith), rydym yn ymrwymo i wella iechyd a lles plant a phobl ifanc ar draws Cymru. Mae’r Rhwydwaith, a sefydlwyd fel ymdrech gydweithredol rhwng ysgolion, ymchwilwyr academaidd a llunwyr polisi iechyd, yn canolbwyntio ar gynhyrchu tystiolaeth o ansawdd uchel i lywio strategaethau gwella iechyd a lles mewn lleoliadau addysgol.
Cipolygon er Dysgu a Lles Iachach
Mae ein hadroddiadau’n cynnig cipolygon gwerthfawr a gasglwyd o arolygon helaeth a gynhelir mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Mae’r arolygon hyn yn canolbwyntio ar fetrigau iechyd a lles hanfodol, gan ddarparu’r data y mae ei angen i wneud penderfyniadau gwybodus. Trwy fanteisio ar y wybodaeth hon, ein nod yw meithrin amgylcheddau iachach sy’n cefnogi lles a llwyddiant pob dysgwr.
Trwy ymgysylltu â 100% o ysgolion uwchradd a thros 50% o ysgolion cynradd yng Nghymru (yn unol â’n harolwg cyntaf mewn ysgolion cynradd yn 2024), mae’r Rhwydwaith nid yn unig yn meincnodi data ond hefyd yn helpu i weithredu ymyriadau iechyd a lles effeithiol trwy gydol teithiau addysgol dysgwyr.
Adroddiadau Ysgolion Cynradd
Iechyd a Lles Myfyrwyr yng Nghymru: Canfyddiadau allweddol o Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr Ysgolion Cynradd y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion 2022/23
Iechyd a Lles Myfyrwyr yng Nghymru: Canfyddiadau allweddol o Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr Ysgolion Cynradd y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion 2021
Holiadur Amgylchedd yr Ysgol y Rhwydwaith mewn Ysgolion Cynradd
Adroddiad Cryno ar Holiadur Amgylchedd yr Ysgol peilot y Rhwydwaith mewn Ysgolion Cynradd yng Nghymru – 2023
Adroddiadau Ysgolion Uwchradd
SYLWCH: O Hydref 2023 ymlaen, ni fydd y Rhwydwaith yn cyhoeddi adroddiadau data ysgolion uwchradd mwyach oherwydd bydd yr holl ddata ar gael ar Ddangosfwrdd Iechyd a Lles Plant Ysgolion Uwchradd: Data Arolwg y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion.
I weld adroddiadau ysgolion uwchradd cyn 2023, sgroliwch ymhellach i lawr y dudalen hon.
Iechyd a Lles Myfyrwyr yng Nghymru: Adroddiad Arolwg Ymddygiad Iechyd mewn Plant Oed Ysgol ac Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion 2021/22
SIechyd a Lles Myfyrwyr yng Nghymru: Adroddiad Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion 2019/20
Iechyd a Lles Myfyrwyr yng Nghymru: Adroddiad Arolwg Ymddygiad Iechyd mewn Plant Oed Ysgol ac Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion 2017/18
Holiadur Amgylchedd yr Ysgol y Rhwydwaith mewn Ysgolion Uwchradd
Mae’r adroddiad hwn yn cynnig cipolygon gwerthfawr i’r ffordd y mae polisïau ysgol – fel arweinyddiaeth, ethos ac ymgysylltu â’r gymuned – yn effeithio ar iechyd a lles myfyrwyr.
Adroddiad Canfyddiadau Holiadur Amgylchedd yr Ysgol y Rhwydwaith mewn Ysgolion Uwchradd 2023
Adroddiad ar Holiadur Amgylchedd yr Ysgol 2022 i Gynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru (bellach Rhwydwaith Ysgolion Cymru sy’n Hybu Iechyd a Lles (WNHWPS))
Adroddiad ar Holiadur Amgylchedd yr Ysgol 2019/20 i Gynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru
Adroddiadau Enghreifftiol y Rhwydwaith
Adroddiad Enghreifftiol i Ysgolion Cynradd
Dyma adroddiad model neu enghreifftiau sy’n ganllaw i’r dull o fformatio adroddiadau’r Rhwydwaith. Yn nodweddiadol, mae’n cynnwys yr holl elfennau angenrheidiol, felly mae’n bwynt cyfeirio rhagorol.
Papurau briffio’r Rhwydwaith
Mae ein papurau briffio yn hanfodol ar gyfer rhannu canfyddiadau a chipolygon allweddol o’n data. Maent yn darparu gwybodaeth gryno, seiliedig ar dystiolaeth, sy’n cynorthwyo addysgwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol a llunwyr polisi i wneud penderfyniadau gwybodus. Trwy grynhoi deilliannau ymchwil ac amlygu arferion gorau, mae’r papurau hyn yn meithrin cydweithredu ac yn hybu mentrau iechyd effeithiol mewn ysgolion. Yn ein barn ni, mae rhannu’r wybodaeth hon yn hanfodol ar gyfer creu amgylcheddau dysgu iachach a gwella lles dysgwyr ar draws Cymru.
Iechyd meddwl a lles pobl ifanc yng Nghymru: Cymharu canfyddiadau o Arolygon Iechyd a Lles Myfyrwyr 2019 a 2021 y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion
Awst 2022
Parodrwydd ar gyfer cyflwyno’r diwygiadau cenedlaethol i ysgolion o safbwyntiau staff ysgol: Canfyddiadau o Holiadur Amgylchedd yr Ysgol 2020 y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion
Mawrth 2022
Ysmygu a fepio gan bobl ifanc yng Nghymru: Canfyddiadau o arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr 2019 y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion
Hydref 2020
Pobl Ifanc sy’n ‘Derbyn Gofal’ yng Nghymru: canfyddiadau o Arolwg Ymddygiad Iechyd mewn Plant Oedran Ysgol ac Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (2017/18)
Ionawr 2020
Animeiddiad y Rhwydwaith
Mae’r animeiddiad hwn yn cynnig crynodeb gweledol bywiog o ganfyddiadau adroddiadau’r Rhwydwaith. Mae’r adnodd difyr hwn yn grymuso ysgolion a llunwyr polisi â chipolygon i wella lles dysgwyr, gan wneud gwybodaeth gymhleth yn haws cael ati a meithrin dealltwriaeth fanylach o heriau dysgwyr heddiw.