Grymuso Ysgolion er Dyfodol a Lles Iachach
Mae ymuno â’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (y Rhwydwaith) yn cynnig cyfle unigryw i ysgolion prif ffrwd yng Nghymru wella iechyd a lles eu dysgwyr. Trwy ddod yn rhan o’r rhwydwaith cydweithredol unigryw hwn, gall ysgolion fanteisio ar gyfoeth o adnoddau a chymorth sy’n anelu at feithrin dyfodol a lles iachach.
Dysgwch fwy yn ein llyfryn gwybodaeth.
Mae’r Rhwydwaith yn chwarae rhan arwyddocaol wrth ddatblygu a chyflwyno Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles y Cwricwlwm i Gymru, yn ogystal â chynllunio, cyflwyno, monitro a gwerthuso’r Dull Ysgol Gyfan ar gyfer Lles Emosiynol a Meddyliol.
Darllenwch fwy am beth rydym ni’n ei wneud…
Sut mae ysgolion yn elwa o Aelodaeth o’r Rhwydwaith
1. Mynediad at Adnoddau Cynhwysfawr
Fel aelodau, mae ysgolion yn cael at amrywiaeth eang o adnoddau gydag astudiaethau gwyddonol yn eu cefnogi, i wella iechyd a lles myfyrwyr.
Archwiliwch ein llyfryn effaith a thudalen ein blog i ennill cipolygon ac ysbrydoliaeth werthfawr.
Tanysgrifiwch i e-newyddion misol y Rhwydwaith heddiw a grymuso cymuned eich ysgol â’r wybodaeth a’r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer llwyddiant!
Darganfyddwch ein straeon llwyddiant ar dudalen ein hastudiaethau achos (ar gael yn fuan)
2. Deilliannau Iechyd a Lles Gwell i Fyfyrwyr
Mae cysylltiad rhwng aelodaeth o’r Rhwydwaith a deilliannau iechyd a lles gwell i ddysgwyr. Trwy roi mentrau effeithiol ar waith, gall ysgolion weld gostyngiad mewn absenoliaeth a gwelliannau ym mherfformiad cyffredinol dysgwyr.
Defnyddio’u Data gan y Rhwydwaith i Wneud Penderfyniadau Gwybodus am Iechyd a Lles Dysgwyr
Ysgolion â’r offer a’r gefnogaeth i gasglu a dadansoddi data iechyd a lles. Mae hyn yn galluogi ysgolion i amlygu anghenion iechyd penodol o fewn eu poblogaethau dysgwyr a theilwra ymyriadau yn unol â hynny.
Ewch i’r Adran data ac adroddiadau (ar gael yn fuan) nawr i rymuso ymdrechion iechyd a lles eich ysgol.
Cyfleoedd Datblygu Proffesiynol
Mae athrawon yn elwa o hyfforddiant a chyfleoedd dysgu i wella’u medrau, gan gynnwys gweithdai a gweminarau, gan eu helpu i wybod am y tueddiadau a’r arfer gorau diweddaraf.
Gwyliwch ein gweminarau a mynd â’ch datblygiad proffesiynol i’r lefel nesaf.
Cysylltu a Chydweithio
Mae bod yn rhan o’r Rhwydwaith yn caniatáu i ysgolion gysylltu ag ysgolion a sefydliadau iechyd eraill. Mae’r cydweithrediad hwn yn meithrin rhannu syniadau, adnoddau a strategaethau llwyddiannus ar gyfer hyrwyddo iechyd a lles..
Dylanwadu ar Bolisïau Iechyd
Mae ein partneriaeth strategol gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac integreiddio â Rhwydwaith Ysgolion Cymru sy’n Hybu Iechyd a Lles (WNHWPS), ynghyd â buddsoddiad sylweddol a pharhaus gan Lywodraeth Cymru, wedi galluogi’r Rhwydwaith i dyfu’n rhwydwaith cenedlaethol o ymchwil a gwerthuso.
Mae dros 30 o bolisïau a strategaethau Llywodraeth Cymru yn enwi’r Rhwydwaith yn gysylltiedig â darparu cymorth i gyflwyno a gwerthuso agendau ac ymyriadau polisi iechyd a lles. Mae’r rhain yn cynnwys y Dull Ysgol Gyfan ar gyfer Iechyd Meddwl a Llesiant (2021) ac Adroddiad Iach a Hapus Estyn (2019).
Darllenwch fwy am ein gwaith ar lefel ranbarthol a chenedlaethol
Gwell Ymgysylltu â’r Gymuned
Mae aelodaeth yn annog ysgolion i ymgysylltu â’u cymuned, gan feithrin partneriaethau â sefydliadau iechyd lleol, dysgwyr a theuluoedd. Mae hyn yn cryfhau’r rhwydwaith cymorth i ddysgwyr ac mae’n hyrwyddo diwylliant o iechyd a lles yn y gymuned.
Helpu Dysgwyr i Wneud Dewisiadau Iach Trwy Gydol eu Bywyd
Trwy gymryd rhan yn y Rhwydwaith, mae ysgolion yn paratoi dysgwyr â gwybodaeth a sgiliau hanfodol i wneud dewisiadau iechyd gwybodus trwy gydol eu bywyd. Mae’r ffocws hwn yn helpu i dyfu cenhedlaeth o unigolion sy’n ymwybodol o’u hiechyd.
Cydnabyddiaeth a Hygrededd
Mae bod yn aelod o’r Rhwydwaith yn ychwanegu at hygrededd ysgol fel sefydliad sy’n hybu iechyd a lles, gan ddenu teuluoedd a chefnogaeth y gymuned
Amgylchedd Ysgol Cadarnhaol
Yn y pen draw, mae aelodaeth o’r Rhwydwaith yn cyfrannu at greu amgylchedd ysgol cadarnhaol, sy’n blaenoriaethu iechyd a lles.
Ymunwch â ni Heddiw!
Trwy ddod yn rhan o’r Rhwydwaith, gall ysgolion fanteisio ar adnoddau, cydweithredu â chymheiriaid ac, yn y pen draw, creu amgylchedd dysgu iachach, mwy cefnogol. I gael mwy o wybodaeth neu i ymuno, cysylltwch â ni.