Mae pob ysgol uwchradd prif ffrwd yng Nghymru, ynghyd â dros hanner ysgolion cynradd Cymru (ers lansio’r arolwg SHRN cyntaf o ysgolion cynradd yn 2024) yn aelodau o’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion. Mae’r partneriaid canlynol yn ymuno â nhw:
Mae ymchwilwyr DECIPHer sy’n gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd yn gweithio gydag ysgolion er mwyn datblygu Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion ac yn sicrhau ei fod yn bodloni eu hanghenion. Mae ALPHA, sef grŵp ymgynghorol i bobl ifanc yn DECIPHer, yn darparu cyngor a chefnogaeth ychwanegol.
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cymorth i’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion (SHRN) drwy fuddsoddiad trawsweinidogol, cymorth strategol gan ei Is-adran Ymchwil a Gwybodaeth Gymdeithasol drwy Dr Chris Roberts a Dr Semele Mylona, a swydd Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi wedi’i gwreiddio yn y Rhwydwaith – Freya Price.
Mae Ymchwil Canser y DU yn cynnig adnoddau i ysgolion yn y rhwydwaith i gefnogi addysg iechyd ac addysgu gwyddoniaeth yn y cwricwlwm a hybu iechyd yn yr amgylchedd ysgol ehangach.
Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru rôl goruchwylio yn Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion ac mae’n sicrhau bod y rhwydwaith yn datblygu mewn modd sy’n gyson â blaenoriaethau a rhaglenni iechyd cyhoeddus cenedlaethol, megis Rhwydwaith Cynlluniau Ysgolion Iach Cymru.
Mae SHRN yn cefnogi astudiaeth Ymddygiad Iechyd mewn Plant Ysgol (HBSC) Sefydliad Iechyd Y Byd sy’n cael ei chynnal yng Nghymru bob pedair blynedd. Mae’r astudiaeth yn cynnig data rhyngwladol o 51 o wledydd y gall Cymru eu defnyddio i wneud gwaith cymharol.
Mae Tîm Ymgysylltu Cymunedol Prifysgol Caerdydd yn cydlynu amrywiaeth eang o adnoddau sydd ar gael i ysgolion yn y rhwydwaith gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r rhain yn cynnwys cefnogaeth ar gyfer addysg iechyd ac addysgu gwyddoniaeth mewn ysgolion, yn ogystal ag ar gyfer annog ymgysylltiad pobl ifanc ag addysg uwch drwy gydweithredu rhwng yr ysgol a’r brifysgol.
Mae WISERD yn darparu cyswllt strategol â chanolfan ymchwil addysg arweiniol yng Nghymru.