
Trawsnewid Iechyd Ysgolion Namibia: Y Dechreuad
Yn 2022, fe wnaeth Dr Honor Young – Pobl – Prifysgol Caerdydd a’r Athro Rhiannon Evans o DECIPHer Prifysgol Caerdydd groesawu chwe Chymrawd y Gymanwlad o Brifysgol Namibia | Open your mind (UNAM) a’r Weinyddiaeth Addysg, y Celfyddydau a Diwylliant (MoEAC) yn Namibia.
Fe wnaeth yr ymweliad tri mis hwn, a oedd yn rhan o Brosiect Phoenix Prifysgol Caerdydd, nodi dechrau taith drawsnewidiol yn natblygiad Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion Namibia. Yn sgil yr ymweliad hwn, mae Dr Young a’r Athro Evans wedi ymgymryd â sawl taith ymchwil a hyfforddiant i Namibia, wedi’u hariannu gan ERASMUS a Taith, i gefnogi datblygiad Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion Namibia (NSHRN).
Cyflawniadau Allweddol: Rhwydwaith Iechyd a Lles Namibia
Gyda chefnogaeth Dr Young a’r Athro Evans trwy fentora misol, ymweliadau cyfnewid a hyfforddiant, mae cydweithwyr yn UNAM a MoEAC wedi llwyddo i sicrhau cyllid rhyngwladol gan UNICEF ac USAID i ddatblygu’r Rhwydwaith yn Namibia. Yn ogystal, cafwyd cyllid gan Gymorth Datblygu Swyddogol Cyngor Cyllid Addysg Uwch Cymru (HEFCW ODA) i beilota NSHRN.
Ar sail model llwyddiannus y Rhwydwaith, mae’r tîm yn Namibia wedi llwyddo i sicrhau cefnogaeth gan randdeiliaid allweddol ar draws Namibia i ddatblygu arolwg i fyfyrwyr uwchradd yn Namibia er mwyn mesur iechyd, lles a mesurau addysgol. Mae’r tîm wedi addasu’r arolwg i’w ddefnyddio gyda grwpiau amrywiol ac mae 32 o ysgolion ar draws 4 rhanbarth yn Namibia wedi cytuno i gasglu data trwy holiaduron a grwpiau ffocws i ganfod lefel, ansawdd a derbynioldeb y dulliau. Mae’r seilwaith data peilot hwn yn ategu cynllunio polisi ac ymarfer integredig yn gysylltiedig ag iechyd, lles ac addysg pobl ifanc.

Beth sydd nesaf i NSHRN?
Mae cam nesaf y prosiect yn cynnwys:
- Ymgysylltu ymhellach ag ysgolion a rhanddeiliaid perthnasol.
- Cynnal cefnogaeth ysgolion.
- Cyd-gynhyrchu allbwn.
- Uwchraddio’r fethodoleg.
- Sicrhau cyllid ychwanegol i greu seilwaith cenedlaethol.
Mentrau sy’n mynd rhagddynt: Cryfhau Rhwydwaith Iechyd a Lles Namibia
Mae ein cydweithrediad parhaus yn cynnwys cyfarfodydd anogaeth a mentora rheolaidd gyda thîm NSHRN. Rydym yn parhau i archwilio cyfleoedd cyllido byd-eang i gefnogi ehangu’r rhwydwaith. Hefyd, rydym yn ymchwilio i fwy o gyfleoedd cyfnewid er mwyn cael partneriaeth ystyrlon â thîm NSHRN ac rydym wedi cychwyn cyhoeddiad academaidd cydweithredol.

Twf Personol: Dysgu o’r NSHRN
“Mae ymweld â Namibia wedi cryfhau partneriaeth ystyrlon gyda thîm y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion Namibia ac mae wedi ein helpu i ddeall y cyd-destun ar gyfer y rhwydwaith. Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau darpariaeth hirdymor NSHRN, sef seilwaith data sy’n caniatáu i randdeiliaid gyflwyno ymatebion amser-sensitif i broblemau iechyd a lles pobl ifanc; y cyntaf o’i fath yn Affrica.””
Effaith Sefydliadol: Twf Prifysgol Caerdydd

“Mae’r gwaith yn cryfhau ac yn ymestyn y Memorandwm Dealltwriaeth presennol rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Namibia, a ganolbwyntiodd yn flaenorol ar feddygaeth a’r biowyddorau. Mae ein gwaith yn hanfodol wrth ymestyn cydweithrediad mewn gwyddorau cymdeithasol ac iechyd cyhoeddus, a datblygu cydweithrediadau newydd rhwng Cymru ac Affrica.”
– Yr Athro Rhiannon Evans a Dr Honor Young Prifysgol Caerdydd
Darllenwch astudiaeth achos Namibia.
Darllenwch newyddion gan Brifysgol Caerdydd.
Am ragor o wybodaeth, ewch i shrn.org.uk/cy.
I ddysgu rhagor, e-bostiwch Dr Honor Young: youngh6@cardiff.ac.uk.