Archwilio ein Heffaith

Cyrhaeddiad Byd-eang: Effaith Drawsnewidiol y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion o Gymunedau Ysgolion i’r Maes Rhyngwladol
Croeso i’n taith drwy’r effeithiau arwyddocaol a gawsom ar ymchwil sy’n llywio llunio polisïau, arferion addysgol, a deilliannau iechyd a lles i blant a phobl ifanc. Mae ein gwaith yn ymestyn o gymunedau ysgolion i’r llwyfan rhyngwladol.

Effaith Leol – Gwella Cymunedau Ysgolion
Ar lefel leol, rydym yn grymuso ysgolion ar draws Cymru trwy eu galluogi i gael at ddata ac ymchwil werthfawr, gan alluogi gwneud penderfyniadau ac ymyriadau teilwredig ar sail tystiolaeth. Mae’r effaith hon ar lawr gwlad yn hanfodol ar gyfer mynd i’r afael â heriau iechyd a lles penodol o fewn ysgolion a hybu amgylchedd addysgol cefnogol.
Darllenwch fwy am ein gwaith trwy ddarllen ein storïau llwyddiant ac effaith ysgolion

Effaith Ranbarthol – Ymarfer a Chydweithredu
Rydym ni’n helpu ysgolion a’n partneriaid rhanbarthol i rannu arfer gorau a chydweithio. Trwy gysylltu syniadau a data lleol â chynlluniau rhanbarthol, mae’r Rhwydwaith yn helpu i wella iechyd a lles myfyrwyr ar lefel strategol. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi integreiddio’r Rhwydwaith yn llawn yn natblygiad Rhwydwaith Ysgolion Cymru sy’n Hybu Iechyd a Lles (WNHWPS) a’i werthuso. Y cynllun hwn yw ffynhonnell allweddol cymorth i ysgolion ledled Cymru o ran rhoi dull ysgol gyfan ar waith sy’n cynnwys cymorth gan y teulu a’r gymuned a mynediad i wasanaethau iechyd a lles priodol.
Darllenwch fwy am ein cydweithredu â WNHWPS (yn dod yn fuan)

Effaith Genedlaethol – Dylanwadu ar Bolisi a’i Ddiwygio
Yn genedlaethol, mae ein data a’n dadansoddiadau cynhwysfawr a’n hastudiaethau gwerthuso yn llywio penderfyniadau polisi a diwygiadau addysgol, gan sicrhau bod iechyd a lles yn cael blaenoriaeth yn yr agenda genedlaethol. Mae’r lefel effaith hon yn helpu i lywio dyfodol iachach i ddysgwyr ar draws Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio data’r Rhwydwaith i gynllunio a monitro polisi a gwerthuso polisïau allweddol yn genedlaethol. Cydnabyddir bod y Rhwydwaith yn ffynhonnell ddata hanfodol i ddiwygiadau Llywodraeth Cymru i’r cwricwlwm a’r Dull Ysgol Gyfan ar gyfer Iechyd Meddwl. Yn ogystal, chwaraeodd ran arwyddocaol yn y gwerthusiad o lunio polisïau adfer yn sgil COVID.
Darganfyddwch ein heffaith ar bolisi gyda Llywodraeth Cymru.
Dysgwch am ein mentrau gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru (yn dod yn fuan).
Archwiliwch sut mae data’r Rhwydwaith yn dylanwadu gydag Estyn (yn dod yn fuan).

Effaith Ymchwil – Arloesi Methodolegol a Gwella Gwerthuso
Mae’r Rhwydwaith wedi defnyddio’i set ddata unigryw i ddatblygu mesurau arolwg trwy astudiaethau dilysu gyda grwpiau oedran a phoblogaethau newydd, wedi cynnal dadansoddiadau amser, tuedd a hydredol i ddeall llwybrau iechyd o ran effeithiau anghydraddoldebau, wedi cyfrannu at ddatblygu gwybodaeth am yr effeithiau gaiff ysgolion ar iechyd a lles, ac mae’n darparu seilwaith ymchwil a data parod i gynnal astudiaethau gwerthuso dylanwadol.
Annog Cydweithredu ac Arloesi ar draws y DU
Buom yn allweddol wrth gefnogi rhwydwaith SHINE yn yr Alban, sef cydweithrediad ymchwil rhwng Prifysgol Glasgow a Phrifysgol St Andrews. Mae SHINE yn fodel wedi’i seilio ar seilwaith y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, sy’n anelu at gasglu data ar arferion iechyd a lles mewn ysgolion ledled yr Alban.
Rydym hefyd yn cefnogi Bee Well, sef rhaglen a lansiwyd yn 2019 i wella lles pobl ifanc. Mae’n cydweithredu ag ysgolion, sefydliadau cymunedol a llywodraethau lleol i gasglu data a gweithredu ar sail adborth pobl ifanc, gan annog newid cadarnhaol a dathlu lles pobl ifanc. Mae’r fenter hon wedi ennyn diddordeb dros 85,000 o bobl ifanc ar draws Manceinion Fwyaf; Swydd Hampshire; Ynys Wyth, Portsmouth a Southampton.
Rydym ni’n cydweithredu trwy rannu data, cynnal prosiectau ymchwil ar y cyd, eiriol dros bolisïau iechyd a lles, rhannu adnoddau ac ymgysylltu â chymunedau. Mae ein partneriaethau yn y DU yn gwella ymyriadau iechyd a lles, yn darparu cipolygon cynhwysfawr ac yn creu ymagwedd unedig at wella lles plant a phobl ifanc ar draws y DU.
Darllenwch ragor am sut rydym ni’n gweithio gyda SHINE a Bee Well i wneud gwahaniaeth mewn ysgolion a chyfrannu at y ddealltwriaeth ehangach o iechyd a lles pobl ifanc (yn dod yn fuan).
Ein Dylanwad Byd-eang ar Iechyd a Lles Plant a Phobl Ifanc

Internationally, our research and findings contribute to the Yn rhyngwladol, mae ein hymchwil a’n canfyddiadau yn cyfrannu at y sgwrs fyd-eang ar iechyd a lles plant a phobl ifanc, gan ddylanwadu ar bolisïau ac ymarfer rhyngwladol.
Ewch i’n tudalennau ymchwil i ddysgu mwy am ein heffaith (yn dod yn fuan)
Trwy gymryd rhan mewn rhwydweithiau a rhannu gwybodaeth yn fyd-eang, rydym ni’n gwella iechyd a lles myfyrwyr ar draws y byd.
Darllenwch fwy am ein partneriaeth â HBSC a gweld sut rydym ni’n cael effaith ar fentrau iechyd byd-eang

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf trwy ein Crynhoad Chwarterol!
Cofrestrwch ar gyfer ein crynhoad chwarterol i gael y newyddion diweddaraf am ymchwil, storïau llwyddiant a digwyddiadau sydd ar ddod gan y Rhwydwaith. Trwy danysgrifio, cewch gipolygon a diweddariadau gwerthfawr yn uniongyrchol i’ch e-bost.