Ffeithluniau: Gwneud Data’r Rhwydwaith yn Hygyrch ac yn Ddiddorol i Gynulleidfaoedd Ehangach
Mae ffeithluniau yn adnodd grymus ar gyfer gweddnewid data cymhleth yn ddarluniau diddorol sy’n taro deuddeg gyda chynulleidfaoedd amrywiol. Yn y blog hwn, mae Huw Eifion Evans, Cydlynydd Ysgolion Iach Conwy, yn rhannu ei Ddeg Awgrym Gorau ar gyfer defnyddio ffeithluniau i ddod â chipolygon o ddata’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn fyw. P’un a ydych chi’n anelu at gyfleu canfyddiadau allweddol i ddysgwyr, staff, rhieni/gofalwyr neu lywodraethwyr ysgol, gall y syniadau hyn helpu i sicrhau bod data’r Rhwydwaith yn cael effaith ac yn hawdd ei ddeall.
Dyblu’r Weledigaeth, Dwbl yr Effaith: Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr SHRN a Holiadur Amgylchedd Ysgolion SHRN (SEQ)
Yn y blog hwn, mae Maria yn archwilio buddion sylweddol arolygon y Rhwydwaith i ysgolion a sut gallant drawsnewid yr amgylchedd addysgol er gwell.
Chwalu rhwystrau rhag ymarfer corff – yn barhaol
Darganfu astudiaeth ddiweddar fod merched a menywod yn llai tebygol o gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol rheolaidd na bechgyn a dynion ar draws Cymru. Ond beth yw rôl y mislif yn hyn o beth?
Aeth Dr Kelly Morgan, Dirprwy Gyfarwyddwr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, i weithdy yn ddiweddar i ddysgu rhagor am fynd i’r afael â thlodi mislif a deall effaith y mislif ar weithgarwch corfforol merched.
Gwneud Data’n Anhysbys ac Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion (SHRN) mewn Ysgolion Cynradd
Yn yr erthygl hon, mae Maria Boffey (Rheolwr Gwybodaeth a Chyfnewid SHRN) yn egluro manteision data anhysbys yr SHRN, a sut y gall ysgolion, awdurdodau lleol, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru ei ddefnyddio i ddatblygu polisïau ac arferion i wella iechyd a lles plant a phobl ifanc.