Yn y byd sydd ohoni, sy’n gyfoethog o ran gwybodaeth, mae ffeithluniau’n adnodd grymus ar gyfer gweddnewid data cymhleth yn ddarluniau diddorol sy’n taro deuddeg gyda chynulleidfaoedd amrywiol, gan wneud data yn fwy hygyrch. Yn y blog hwn, mae Huw Eifion Evans, Cydlynydd Ysgolion Iach Conwy, yn rhannu ei Ddeg Awgrym Gorau ar gyfer defnyddio ffeithluniau i ddod â chipolygon o ddata’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn fyw.
P’un a ydych chi’n anelu at gyfleu canfyddiadau allweddol i ddysgwyr, staff, rhieni/gofalwyr neu lywodraethwyr ysgol, gall y syniadau hyn helpu i sicrhau bod data’r Rhwydwaith yn cael effaith ac yn hawdd ei ddeall.
Difyrru a Hysbysu: 10 Awgrym am Ffeithluniau Dynamig gan y Rhwydwaith
1. Llai, ond Gwell
Diffiniwch amcan clir i’ch ffeithlun a chyfyngu eich cynnwys i hyn. Er bod ychwanegu mwy o liwiau, testun a manylion yn demtasiwn, gall gormod o wybodaeth wneud i’r dyluniad edrych yn flêr a chuddio’ch neges graidd.
2. Creu Trefn Glir a Chyson
Trefnwch wybodaeth yn rhesymegol, gan rannu data yn adrannau i osgoi llethu’r sawl sy’n edrych arno. Gall strwythur grid neu golofnau sicrhau ei bod hi’n hawdd edrych dros y dyluniad.
3. Cofleidio Hierarchaeth Weledol
Defnyddiwch ffontiau, lliwiau a meintiau gwrthgyferbyniol i dynnu sylw at y rhannau pwysicaf o’r ffeithlun. Mae canrannau mewn print bras, eiconau neu amlygu ffigurau yn helpu i bwysleisio canfyddiadau allweddol.
4. Dewis y Data Perthnasol
Dewiswch bwyntiau data a fydd yn taro deuddeg gyda’ch cynulleidfa. Er enghraifft, os ydych chi’n mynd i’r afael â deilliannau iechyd meddwl, amlygwch ystadegau allweddol sy’n cyd-fynd â’r pwnc hwn.
5. Blaenoriaethu Lliwiau a Ffontiau Hygyrch
Sicrhewch fod eich ffeithlun yn gynhwysol trwy ddewis ffontiau y gallwch eu darllen a lliwiau â chyferbynnedd uchel. Mae hyn yn gwella hygyrchedd i unigolion ag amhariad ar y golwg ac yn peri bod y dyluniad yn apelio i bawb sy’n edrych arno. Anelwch at ffont sydd â maint hawdd ei ddarllen, hyd yn oed ar sgriniau llai.
6. Defnyddio Eiconau a Delweddau yn Effeithiol
Cynhwyswch eiconau, darluniadau neu graffigwaith syml i gynrychioli categorïau data. Gall darluniadau ei gwneud hi’n haws uniaethu â chynnwys a’i gofio, yn enwedig i gynulleidfa iau a all ffafrio darluniadau yn hytrach na gwybodaeth gyda llawer o destun. Er enghraifft, mae’n haws uniaethu â data cysylltiedig ag iechyd pan fydd eicon calon yn amlygu’r wybodaeth.
7. Testun Cryno
Cyfyngwch destun i ddisgrifiadau neu ymadroddion byr i gadw’r ffocws ar y darluniadau. Defnyddiwch bwyntiau bwled neu frawddegau byr yn lle paragraffau hir. Mae hyn yn cadw’r ffocws ar ddarluniadau ac, felly mae’n haws deall y wybodaeth. Anelwch at eglurder yn eich disgrifiadau. Defnyddiwch y gweithredol ac iaith ddifyr i gynnal diddordeb. Mae defnyddio ymadroddion fel “Darganfyddwch sut …” neu “Dysgwch pam …” yn gallu denu sylw’ch darllenwyr.
8. Arbrofi â Graffiau a Siartiau
Ystyriwch wahanol arddulliau siart – siartiau bar, siartiau cylch neu graffiau – ar sail y math o ddata. Rhoi prawf ar amrywiol fformatau fydd yn cyfleu stori eich data orau.
9.Cynnwys Galwad Clir i Weithredu
Rhowch arweiniad ar beth allant ei wneud gyda’r wybodaeth i’r sawl sy’n edrych arni. P’un a yw hynny’n ymuno â thrafodaeth, cefnogi menter ysgol, neu fyfyrio ar y canfyddiadau, gall galwad i weithredu olygu bod mwy o allu i weithredu ar eich data.
10. Gwahodd Adborth ac Annog Rhannu
Gwahoddwch eich cynulleidfa i ymddiddori yn y ffeithlun a’i rannu, gan groesawu eu hadborth. Gall hyn arwain at gipolygon newydd a chryfhau eu cysylltiad â’r data a nodau’r ysgol. Hyrwyddwch ddata’r Rhwydwaith trwy gynnwys botymau cyfryngau cymdeithasol neu godau QR sy’n ei gwneud hi’n hawdd i’r sawl sy’n edrych arno rannu’r ffeithlun gyda’u rhwydweithiau. Gall annog rhannu ymestyn eich cyrhaeddiad a’ch effaith.
Creu Ffeithlun yn Hawdd: Offer ac Adnoddau Defnyddiol
(Sylwch – hoffwn egluro nad yw cyfeiriadau at y feddalwedd uchod yn gymeradwyaeth. Yn hytrach, rwy’n rhannu eitemau rwy’ wedi’u defnyddio’n bersonol ac sydd wedi bod yn effeithiol. Fy amcan yw cynnig cipolygon dilys ar sail fy mhrofiadau fy hun).
I gloi
Trwy ddilyn y syniadau hyn, gall data’r Rhwydwaith gael ei weddnewid ymhellach yn gipolygon gwerthfawr sy’n cefnogi iechyd a lles ar draws cymunedau ysgolion a chynulleidfaoedd ehangach. Mae ffeithluniau yn fwy na dim ond cynrychioliadau gweledol o ddata’r Rhwydwaith; maen nhw’n ffordd rymus o adrodd stori sy’n gallu pontio’r bwlch rhwng gwybodaeth gymhleth a dealltwriaeth y cyhoedd. Wrth i chi ddechrau ar eich taith creu ffeithlun, mae’n bwysig cadw’ch cynulleidfa mewn cof wrth wneud eich penderfyniadau dylunio.
A ydych chi wedi creu ffeithluniau ar gyfer eich data chi gan y Rhwydwaith? A ydyn nhw’n gwneud gwahaniaeth yn y ffordd y mae dysgwyr a chymuned ehangach yr ysgol yn ymwneud â’r data? Byddem wrth ein bod yn darganfod rhagor!
Rhannwch eich profiadau trwy e-bostio Rheolwr Ymgysylltu’r Rhwydwaith, Charlotte Wooders.