Gall pontio o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd fod yn garreg filltir arwyddocaol ym mywyd person ifanc. Er bod llawer o fyfyrwyr yn mynd trwy’r newid hwn yn hwylus, gall fod yn heriol i eraill. Mae astudiaeth ddiweddar sy’n defnyddio data’r Rhwydwaith yn treiddio i sut y gall statws economaidd gymdeithasol, h.y. sefyllfa economaidd a chymdeithasol teulu, sy’n cael ei phenderfynu gan ffactorau fel incwm, addysg a galwedigaeth, fod yn gysylltiedig â’r profiad pontio ac iechyd meddwl pobl ifanc a’u profiadau o fwlio.
Yn y blog hwn, mae Dr Caitlyn Donaldson, Cydymaith Ymchwil yng Nghanolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Pobl Ifanc, Prifysgol Caerdydd, yn archwilio sut mae statws economaidd gymdeithasol yn effeithio ar y ffactorau hyn wrth bontio rhwng ysgolion yn system addysg Cymru.

Ffocws yr Astudiaeth
Yng Nghymru, mae gennym nifer gynyddol o ysgolion ‘pob oed’, lle gall pobl ifanc aros yn yr un ysgol o 3 i 16 neu 18 oed. Mae hyn yn cynnig profiad naturiol diddorol er mwyn archwilio p’un a yw deilliannau iechyd meddwl a bwlio yn wahanol rhwng plant sy’n pontio i’r ysgol uwchradd yn 11 oed a’r rhai sy’n aros mewn ysgolion pob oed yng Nghymru. Mae’n defnyddio dulliau ystadegol datblygedig i gymharu’r deilliannau ar gyfer myfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf yn yr ysgol uwchradd.

Canfyddiadau Allweddol
- Statws Economaidd Gymdeithasol a’r Math o Ysgol:
- Myfyrwyr â Statws Economaidd Gymdeithasol isel: Darganfu’r astudiaeth rywfaint o dystiolaeth y gallai myfyrwyr o gefndiroedd statws economaidd gymdeithasol isel gael llai o broblemau gyda chymheiriaid, materion ymddygiad ac erledigaeth bwlio wrth fynd i ysgolion pob oed o gymharu ag ysgolion uwchradd.
- Myfyrwyr â Statws Economaidd Gymdeithasol uchel: I’r gwrthwyneb, roedd myfyrwyr o gefndiroedd statws economaidd gymdeithasol uchel yn tueddu i fod â deilliannau mwy cadarnhaol mewn ysgolion uwchradd.
- Cysylltedd â’r ysgol:
- Archwiliodd yr ymchwil p’un a allai cysylltedd â’r ysgol esbonio’r gwahaniaethau mewn deilliannau ond ni chanfu unrhyw dystiolaeth ei fod yn cyfryngu’r berthynas rhwng y math o ysgol a deilliannau iechyd meddwl neu fwlio. Fodd bynnag, roedd lefelau uchel o gysylltedd â’r ysgol yn gysylltiedig ag iechyd meddwl gwell a llai o fwlio yn y ddau fath o ysgol.
Goblygiadau i Addysgwyr a Llunwyr Polisi
Mae’r canfyddiadau’n awgrymu y gallai ysgolion pob oed helpu i leihau anghydraddoldebau iechyd wedi’u hachosi gan statws economaidd gymdeithasol. I fyfyrwyr o gefndir â statws economaidd gymdeithasol isel, gallai’r parhad y mae ysgolion pob oed yn ei roi gynnig amgylchedd mwy sefydlog a chefnogol, gan leihau rhai o’r heriau sy’n gysylltiedig â phontio i ysgol newydd. Awgrymwn y gallai hyn fod oherwydd bod symud i ysgol newydd ar ddiwedd blwyddyn 6 yn cynnig mwy o gyfleoedd am dwf a datblygiad personol, ond dim ond os oes gan blentyn yr adnoddau ymdopi a’r gwydnwch y mae eu hangen i bontio’n llwyddiannus i’r amgylchedd newydd.
Casgliad
Mae’r astudiaeth hon yn cynnig cipolygon gwerthfawr i sut gall gwahanol strwythurau ysgolion effeithio ar iechyd meddwl myfyrwyr a’u profiadau o fwlio. Trwy ddeall y ddynameg hon, gall addysgwyr a llunwyr polisi gefnogi myfyrwyr yn well yn ystod cyfnodau pontio pwysig, gan sicrhau bod pob person ifanc yn cael cyfle i ffynnu.
Rhannwch eich profiadau a dadlau dros bolisïau sy’n annog cysylltedd â’r ysgol a lles meddyliol trwy e-bostio mailto:shrn@cardiff.ac.uk
Rhannwch eich profiadau a dadlau dros bolisïau sy’n annog cysylltedd â’r ysgol a lles meddyliol trwy e-bostio mailto:shrn@cardiff.ac.uk

Gwybodaeth am yr Awdur
Mae Dr. Caitlyn Donaldson yn Gydymaith Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd, yn arbenigo yn y croestoriad rhwng statws economaidd gymdeithasol, cysylltedd â’r ysgol, ac iechyd a lles plant. A chanddi PhD mewn pontio o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd a’i effaith ar iechyd meddwl pobl ifanc, mae ymchwil Dr. Donaldson yn canolbwyntio ar ddeall a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd ymhlith plant. Mae ei gwaith diweddar yn cynnwys dadansoddiad cynhwysfawr o Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith mewn Ysgolion Cynradd, gan amlygu rôl hanfodol statws economaidd gymdeithasol yr ysgol a’r teulu o ran llywio deilliannau iechyd plant.