HBSC a’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion: Partneriaeth Strategol Ryngwladol sy’n Hybu Iechyd a Lles Pobl Ifanc

Ynglŷn â’r Astudiaeth Ymddygiad Iechyd mewn Plant Oed Ysgol (HBSC)
Mae’r astudiaeth Ymddygiad Iechyd mewn Plant Oed Ysgol (HBSC) yn rhaglen ymchwil ryngwladol bwrpasol ar gyfer deall a gwella iechyd a lles pobl ifanc ar draws Ewrop, Asia ganolog a Chanada.
Darllenwch fwy am astudiaeth HBSC.
Ers ei chychwyn ym 1982, mae astudiaeth HBSC wedi bod yn flaenllaw yn ymchwil iechyd pobl ifanc, gan gynnig cipolygon gwerthfawr sy’n llunio polisïau ac ymarfer ar draws y byd. Fe’i cynhelir mewn dros 51 o wledydd a rhanbarthau yn rhyngwladol, ar y cyd â Sefydliad Iechyd y Byd (WHO).
Mae arolygon cynhwysfawr HBSC, a gynhelir bob pedair blynedd, yn cynnig ffenestr unigryw i fywyd pobl ifanc, gan helpu i nodi tueddiadau iechyd allweddol a ffactorau sy’n effeithio ar eu lles.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan HBSC.

Sut mae’r Rhwydwaith yn cyfrannu at HBSC
Mae Llywodraeth Cymru wedi arwain Astudiaeth HBSC yng Nghymru ers 1985. Yn 2013, sefydlwyd partneriaeth y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion gyda Llywodraeth Cymru ac, ers hynny, mae data HBSC wedi cael ei gasglu bob pedair blynedd yn rhan o’n harolygon rheolaidd.
Mae gwreiddio astudiaeth HBSC yn y Rhwydwaith yng Nghymru wedi arwain at gyfraddau ymateb gwell o lawer, sampl genedlaethol fwy o lawer i Gymru a mwy o ymgysylltu ar draws y system addysg, gan ddefnyddio’r data i gynllunio gweithredu ym maes iechyd.
Mae astudiaeth HSBC bob amser wedi bod yn rhan annatod o Astudiaeth Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith.
Rydym yn falch bod ein hymchwil yma yng Nghymru yn llunio rhan o astudiaeth ryngwladol o iechyd pobl ifanc.

Grym Cydweithredu: Ein Heffaith
Rydym yn cydweithredu â thimau ymchwil eraill ar draws y byd wrth ymgymryd ag astudiaeth HBSC i gefnogi ymchwil a mentrau sy’n anelu at wella iechyd a lles pobl ifanc. Mae buddion y bartneriaeth hon yn cynnwys:
- Defnyddio data: Mae HSBC yn defnyddio’r data (gan gynnwys y data a gesglir gan y Rhwydwaith) i lywio canllawiau polisi ar raglenni iechyd ac addysg pobl ifanc.
- Integreiddio data: Mae bod yn aelod o HBSC yn cynnig mynediad at ddata cynhwysfawr sy’n gynrychiolaidd yn rhyngwladol, ar iechyd a lles pobl ifanc, yr ydym yn ei integreiddio i’n fframwaith ymchwil ni yng Nghymru. Mae’r data hwn yn ein galluogi i olrhain dangosyddion iechyd allweddol a gwneud ymchwil wyddonol fanwl, sy’n berthnasol i bolisi, tra’n hwyluso cymariaethau rhyngwladol hefyd â gwledydd eraill. Dysgwch ragor am yr aelod wledydd.
- Dosbarthu data: Rydym ni’n rhannu canfyddiadau gyda phartneriaid ein rhwydwaith. At hynny, mae HBSC yn cynnal digwyddiadau sy’n canolbwyntio ar rannu’r datblygiadau methodolegol yn yr arolwg, datblygiad polisi ac ymgysylltu â phobl ifanc. Mae digwyddiadau o’r fath yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i ddysgu o wledydd eraill. Yn y gorffennol, rydym wedi dangos effeithiolrwydd model y Rhwydwaith i gynulleidfaoedd rhyngwladol.
- Gwell ymchwil: Mae ein partneriaeth yn cefnogi ymchwil gynhwysfawr i iechyd pobl ifanc, gan ddarparu cipolygon manwl a gwerthfawr.
- Effaith ar bolisi ac ymarfer: Mae HBSC yn gydweithrediad â Sefydliad Iechyd y Byd. Defnyddir y data ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a rhyngwladol i lywio polisi ac ymarfer. Mae hyn yn cyd-fynd â nod y Rhwydwaith, sef trosi tystiolaeth ymchwil yn ymarfer. Darllenwch fwy yma: Effaith ar bolisi | Astudiaeth HBSC
- Ymgysylltu â phobl ifanc: Mae’r Rhwydwaith a HBSC yn canolbwyntio ar gynnwys pobl ifanc yn eu hymchwil. Gofynnwn i bobl ifanc ein helpu i greu cwestiynau, casglu data a deall y canlyniadau. Mae hyn yn gwneud yr ymchwil yn fwy perthnasol a defnyddiol i bobl ifanc. Trwy wneud hyn, nod y ddau rwydwaith yw creu polisïau a rhaglenni gwell sy’n bodloni anghenion pobl ifanc.
- Effaith ar y gymuned: Mae ein partneriaeth yn helpu i gynyddu effaith canfyddiadau HBSC, gan arwain at ddeilliannau iechyd gwell i bobl ifanc.
I gadw i fyny â’r newyddion diweddaraf gan HSBC, cliciwch yma.
Cyhoeddiadau

Tueddiadau Allweddol o Adroddiad Saith Tuedd HBSC 2024: Cyd-destunau Cymdeithasol a Lles y Glasoed
Mae Adroddiad Saith Tuedd HBSC 2024, ‘Ffocws ar Gyd-destunau Cymdeithasol y Glasoed yn Ewrop, Asia Ganolog a Chanada’, yn amlygu nifer o dueddiadau allweddol o arolwg HBSC 2021/2022. Mae’n datgelu dirywiad sylweddol mewn cymorth teuluol a chymheiriaid, yn enwedig ymhlith merched, o gymharu â blynyddoedd blaenorol. Yn ogystal, mae cynnydd yn y pwysau y mae dysgwyr yn ei deimlo, yn enwedig pobl ifanc hŷn a merched, oherwydd gwaith ysgol. Hefyd, mae’r adroddiad yn pwysleisio effaith y newidiadau cymdeithasol hyn ar iechyd meddwl a lles pobl ifanc. Mae’n galw am gydlynu gweithgarwch ar amrywiol lefelau i greu amgylcheddau mwy cefnogol a mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau sy’n effeithio ar y glasoed.
Browse more HBSC reports, journal articles which feature HBSC data, and HBSC research protocols.

Gweledigaeth Gyffredin er Dyfodol Iachach
Gyda’i gilydd, mae HBSC a’r Rhwydwaith yn ymrwymo i ddatblygu iechyd a lles pobl ifanc. Mae ein partneriaeth strategol yn manteisio ar ymchwil gynhwysfawr, cipolygon wedi’u gyrru gan ddata, a mentrau cydweithredol i greu newid ystyrlon. Trwy gydweithio, rydym yn helpu i lywio polisïau ac ymarfer sy’n cynorthwyo pobl ifanc i fyw bywyd iachach.
Mae dyfodol ein partneriaeth â HBSC yn ein cyffroi’n fawr. Cadwch olwg i gael gwybodaeth am fentrau a phrosiectau i ddod a fydd yn gwella ymhellach ein hymdrechion i gefnogi iechyd pobl ifanc.
