Rydym yn hynod falch o’r gwaith rydym ni’n ei wneud a’n cyflawniadau. Ers ein sefydlu yn 2013, rydym wedi tyfu’n rhwydwaith cynhwysfawr sy’n cysylltu ysgolion ag ymchwilwyr, llunwyr polisi ac ymarferwyr iechyd. Ein cenhadaeth yw hyrwyddo gwelliannau i iechyd a lles, seiliedig ar dystiolaeth, mewn lleoliadau ysgol ar draws Cymru, gan sicrhau bod gan bob plentyn gyfle i ffynnu.
Dyma olwg fanylach ar ein hanes:
2013: Y Blynyddoedd Sylfaen a’r Blynyddoedd Cynnar
Dechreuodd y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion gyda chyllid gan bartneriaeth drwy’r Cyngor Ymchwil Meddygol ac fe’i gweithredwyd fel rhan o astudiaeth Ymddygiad Iechyd mewn Plant Ysgol (HBSC) Sefydliad Iechyd y Byd (WHO). Fe wnaeth y bartneriaeth hon gynnwys Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Caerdydd.
I ddechrau, gwahoddwyd holl ysgolion uwchradd HBSC yng Nghymru i ymuno, gyda 69 ysgol yn cymryd rhan. Nod y rhwydwaith oedd gweld a fyddai’n ymarferol ac yn cael ei groesawu, casglu tystiolaeth yn amlach, a defnyddio’r wybodaeth hon i wella polisïau ac ymarfer iechyd mewn ysgolion. Prif nod y Rhwydwaith yw cysylltu ysgolion ag ymchwilwyr academaidd, llunwyr polisi ac ymarferwyr iechyd i hybu gwelliannau i iechyd, seiliedig ar dystiolaeth, mewn lleoliadau ysgol. Mae arolwg HBSC, a gynhelir bob pedair blynedd, wedi bod yn rhan barhaus o’r ymdrech hon yng Nghymru.
2015-2016: Ehangu mewn Ysgolion Uwchradd
Yn ystod y cyfnod hwn, tyfodd y rhwydwaith yn sylweddol i gynnwys 115 ysgol uwchradd a sefydlodd ei olion troed rhanbarthol cyntaf, gyda chefnogaeth cyllid gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Caniataodd yr ehangu hwn am gasglu data iechyd a lles ar draws fwy o ysgolion uwchradd bob dwy flynedd.
Mae’r arolwg yn seiliedig ar fframwaith HBSC Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), gan sicrhau bod y data a gesglir yn berthnasol ac yn gymaradwy yn rhyngwladol bob pedair blynedd. Hefyd, casglodd y rhwydwaith Holiadur Amgylchedd yr Ysgol y Rhwydwaith, ar sail arolwg HBSC, ond mae’n ddigon hyblyg i fesur polisïau a gweithdrefnau newydd. Mae hyn yn helpu ymchwilwyr i ddeall sut mae polisïau ysgol yn effeithio ar iechyd dysgwyr ac mae’n helpu llunwyr polisi ac ymarferwyr i weld pa mor dda mae’r polisïau hyn yn cael eu mabwysiadu a’u rhoi ar waith.
2017: Cwblhau Integreiddio Ysgolion Uwchradd
Agorwyd recriwtio i bob ysgol uwchradd yng Nghymru, gan arwain at gynnwys pob ysgol uwchradd arferol yn y rhwydwaith. Roedd hwn yn gam mawr tuag at ddwyn casglu data iechyd a lles at ei gilydd ar draws Cymru.
2020: Ehangu i Ysgolion Cynradd
Darparodd Llywodraeth Cymru gyllid ar gyfer gwaith i ddatblygu model i ehangu’r Rhwydwaith i ysgolion cynradd ac i werthuso nifer o faterion allweddol yn gysylltiedig â hyfywedd. Fe wnaeth hyn gynnwys arolwg cenedlaethol o ddisgyblion Blwyddyn 6, gyda samplau ychwanegol gan awdurdodau lleol, i adrodd ar les disgyblion ar lefelau ysgol, awdurdod lleol a chenedlaethol.
2021: Cynnwys Ysgolion Prif Ffrwd yn Gynhwysfawr
Mae pob ysgol uwchradd yn aelodau o’r Rhwydwaith, gyda thros 100,000 o ddysgwyr yn cymryd rhan yng nghasgliad data 2023 ac mae dros 50% o ysgolion cynradd wedi ymuno â ni ym mlwyddyn gyntaf yr arolwg ysgolion cynradd. Mae eu cynnwys fel hyn yn ein helpu i ddeall newidiadau i iechyd a lles o blentyndod i’r glasoed yn well. Hefyd, mae’n cefnogi dysgwyr â phontio pwysig, fel symud o ysgol gynradd i ysgol uwchradd.
2023: Dangosfwrdd Data Canolog
Datblygwyd prototeip o Ddangosfwrdd Data Lefel Ysgolion y Rhwydwaith. Mae’r offeryn rhyngweithiol hwn, a grëwyd gan y Rhwydwaith gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn cynnig mynediad at ddata iechyd a lles manwl ar gyfer plant ysgolion uwchradd yng Nghymru, gan eu helpu i wneud penderfyniadau gwybodus ar sail tystiolaeth gadarn. Bwriedir ei ryddhau yn 2025-2026.
Cyfeiriad yn y Dyfodol
Rydym yn parhau i esblygu, gan ganolbwyntio ar greu tystiolaeth ymchwil newydd a hwyluso cydweithredu ymhlith ysgolion, ymarferwyr, llunwyr polisi ac ymchwilwyr.
Mae ein cyfeiriad yn y dyfodol yn cynnwys ehangu i ysgolion cynradd yng Nghymru; archwilio integreiddio ysgolion nad ydynt yn ysgolion prif ffrwd; gwella sut y cesglir data gydag offer fel Dangosfwrdd Data Ysgolion y Rhwydwaith; troi ymchwil yn bolisïau ymarferol; sicrhau cefnogaeth a thwf parhaus a gweithio gyda phartneriaid rhyngwladol i rannu arferion gorau.