Yn nhirlun addysg heddiw, mae iechyd a lles dysgwyr yn bwysicach nag erioed. Dyma Maria Boffey, Rheolwr Cyfnewid Gwybodaeth a Materion Allanol y Rhwydwaith, yn pwysleisio sut mae ateb Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr a Holiadur Amgylchedd yr Ysgol, y Rhwydwaith yn rhoi cipolygon amhrisiadwy i ysgolion sydd nid yn unig yn gwella’u harferion mewnol, ond hefyd yn cyfrannu at ddealltwriaeth ehangach o iechyd a lles ar draws Cymru. Yn y blog hwn, mae Maria yn archwilio buddion sylweddol arolygon y Rhwydwaith i ysgolion a sut gallant drawsnewid yr amgylchedd addysgol er gwell.
Datgloi Dirnadaeth ar gyfer Iechyd a Lles
Trwy gymryd rhan yn arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr a Holiadur Amgylchedd yr Ysgol y Rhwydwaith, mae ysgolion cynradd nid yn unig yn gwella’u harferion mewnol, ond hefyd yn cyfrannu at ddealtlwriaeth ehangach o iechyd a lles mewn addysg. Mae’r dull deuol hwn yn meithrin amgylchedd iachach, mwy cefnogol i bob dysgwr.
Y buddion allweddol i ysgolion sy’n cymryd rhan yn arolwg y Rhwydwaith yw:
1. Dealltwriaeth Gynhwysfawr o Anghenion Dysgwyr
- Cipolygon cyfannol: Trwy gasglu data o’r ddau arolwg, gall eich ysgol ennill golwg gynhwysfawr ar iechyd a lles eich dysgwyr, ac amgylchedd cyffredinol yr ysgol. Mae hyn yn eich helpu i nodi meysydd penodol sydd angen sylw.
Yn ogystal, gall tîm y Rhwydwaith ddadansoddi’r berthynas rhwng polisïau/ymarfer yr ysgol a deilliannau dysgwyr yn anhysbys, a rhannu’r hyn a ddysgwn am ddulliau effeithiol posibl gydag ysgolion er mwyn datblygu digwyddiadau cyfnewid gwybodaeth, fel ein cyfres gweminarau.
2. Gwneud Penderfyniadau Gwybodus
- Polisïau wedi’u gyrru gan ddata: Mae’r cipolygon a geir o’r arolygon hyn yn galluogi eich ysgol i wneud penderfyniadau gwybodus am fentrau iechyd a lles, gan sicrhau bod polisïau wedi’u teilwra i anghenion gwirioneddol eich dysgwyr.
3. Ymgysylltu’n Well â Dysgwyr
- Grymuso: Gall cynnwys dysgwyr ym mhroses yr arolwg eu grymuso, gan wneud iddynt deimlo o bwys a’u bod yn cael eu clywed, gan arwain at fwy o ymgysylltu â gweithgareddau a mentrau eich ysgol.
4. Gwell Deilliannau Iechyd
- Ymyriadau Targedig: Gall y data helpu eich ysgol i weithredu rhaglenni iechyd a lles targedig sy’n mynd i’r afael â materion penodol, fel iechyd meddwl, maeth a gweithgarwch corfforol – gan wella dysgwyr a lles yn y pen draw.
5. Meincnodi a Chymharu
- Safonau Cenedlaethol: Gallwch gymharu canlyniadau eich ysgol â data cenedlaethol, gan ganiatáu i chi feincnodi eich perfformiad a nodi arferion gorau mewn ysgolion eraill.
6. Cefnogaeth ar gyfer Arolygiadau ac Atebolrwydd
Tystiolaeth ar gyfer Arolygiadau Estyn: Mae llenwi’r ddau arolwg yn cynnig tystiolaeth werthfawr ar gyfer arolygiad eich ysgol, gan ddangos ymrwymiad i iechyd a lles dysgwyr. At hynny, mae partneriaeth y Rhwydwaith ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn galluogi eich data o’r Rhwydwaith i gael ei wreiddio fel rhan o ysgol sy’n hybu iechyd.
7. Cynllunio a Datblygu Hirdymor
- Arferion Cynaliadwy: Gall y data a gasglwyd lywio strategaethau hirdymor ar gyfer gwella polisïau ac arferion eich ysgol, gan sicrhau bod iechyd a lles yn aros yn flaenoriaeth yng nghynlluniau datblygu eich ysgol.
Yn fyr, gall ysgolion cynradd cofrestredig sy’n llenwi’r Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr ac Arolwg Amgylchedd yr Ysgol y Rhwydwaith ddatgloi amrywiaeth o fuddion sy’n ychwanegu at eu hamgylchedd addysgol a chefnogi datblygiad eu dysgwyr.
Darllenwch fwy am Holiadur Amgylchedd yr Ysgol ac ymunwch â ni i gael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles mewn addysg!
Ymunwch â’r Drafodaeth!
Byddem wrth eich bodd yn clywed eich barn! Rhannwch eich cipolygon, eich profiadau neu eich arferion arloesol sy’n gysylltiedig â mentrau iechyd a lles yn eich ysgol. Boed yn hanes llwyddiant, yn ddull unigryw, neu’n heriau a wyneboch, gall eich cyfraniad ysbrydoli pobl eraill a meithrin cymuned gydweithredol.
Os byddai ysgrifennu post fel gwestai o ddiddordeb i chi, e-bostiwch Maria Boffey. Gyda’n gilydd, gallwn greu deialog sy’n hyrwyddo amgylcheddau dysgu hapusach ac iachach i bob dysgwr!