
Arddangos Lles Emosiynol a Meddyliol
I ategu Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith mewn Ysgolion Cynradd, fe wnaeth tîm y Rhwydwaith arddangos gweithgareddau lles emosiynol a meddyliol mewn digwyddiadau a gynhaliwyd yn ddiweddar gan Dîm Ysgolion Iach Caerdydd a’r Fro WNHWPS. Rhoddodd y digwyddiadau hyn lwyfan i ysgolion drafod eu harferion ac archwilio Fframwaith Llywodraeth Cymru ar sefydlu dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol.’ Fe wnaeth mynychwyr, gan gynnwys Barnardo’s, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, yr NSPCC, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, rannu cipolygon a phrofiadau. Trwy gydol y digwyddiadau, cyfeiriodd ysgolion at y cipolygon gwerthfawr, wedi’u gyrru gan ddata, a gafwyd o adroddiadau’r ysgol gan y Rhwydwaith, gan ddefnyddio data i amlygu meysydd allweddol i’w datblygu. Mae dull y Rhwydwaith, wedi’i yrru gan ddata, wedi dod yn arf hanfodol i ysgolion wrth hunanwerthuso’r Dull Ysgol gyfan. Yn ogystal, cymerodd y cyfranogwyr ran mewn gweithgaredd gelfyddydol ryngweithiol, yn canolbwyntio ar les emosiynol a meddyliol.
Cipolygon wedi’u gyrru gan ddata

Trwy gydol y digwyddiad, cyfeiriodd llawer o ysgolion at y cipolygon gwerthfawr a gawsant o adroddiad a data’r Rhwydwaith ar lefel ysgol. Trwy ddadansoddi eu data pwrpasol, mae’r ysgolion hyn wedi gallu nodi meysydd datblygu allweddol ar gyfer iechyd a lles dysgwyr. Mae dull y Rhwydwaith, wedi’i yrru gan ddata, wedi dod yn arf hanfodol i ysgolion wrth iddynt hunanwerthuso’r Dull Ysgol Gyfan.
Gweithgareddau difyr
Yn ogystal â chyflwyniadau gan ysgolion, cawsom ein gwahodd hefyd i gael i’r cyfranogwyr – yn ddysgwyr ac yn athrawon – gymryd rhan mewn gweithgaredd ryngweithiol oedd yn uniongyrchol gysylltiedig â themâu canolog lles emosiynol a meddyliol. A ninnau eisiau cynnig rhywbeth difyr, creadigol a chofiadwy, troesom at ddulliau ymchwil yn seiliedig ar y celfyddydau.
Dulliau Creadigol ar Waith
Mae gan Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd draddodiad cryf o ddefnyddio dulliau creadigol a dulliau seiliedig ar y celfyddydau i helpu pobl i archwilio a chyfleu pynciau cymhleth a heriol. Mae’r rhain yn cynnwys profiadau plant sy’n derbyn gofal (Mannay et al. 2023), profiadau pobl ifanc o rywedd a rhywioldeb (Timperley 2024), a pherthnasoedd cymdeithasol a rhamantus ar-lein (Marston 2023).

Pan fydd pynciau’n anodd eu trafod, neu pan fydd ganddynt briodweddau ymgorfforedig ac emosiynol cryf, gall gweithgareddau creadigol – fel gwneud cerddi a’u torri’n ddarnau, adeiladu gyda chlai, gweithgareddau ‘blwch tywod’ a phaentio – helpu pobl i fynegi eu teimladau mewn ffordd nad yw geiriau weithiau’n gallu gwneud.
Er nad oeddem yn gwneud ymchwil ffurfiol yn y digwyddiad, teimlom y gallai’r dulliau creadigol hyn helpu’r plant a’r oedolion a oedd yn bresennol i ystyried eu profiadau eu hunain o les emosiynol a meddyliol yn ofalus – ac i gysylltu Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith mewn Ysgolion Cynradd â’u profiadau bywyd a’u cyd-destunau gwaith nhw.
Gweithgaredd ‘Wyred Bodies’
A ninnau’n gwybod mai dim ond amser byr fyddai gennym i ymgysylltu â’r mynychwyr, penderfynom ddefnyddio gweithgaredd o’r enw ‘Wyred Bodies’, a ymddangosodd yn adnodd cynradd AGENDA mewn cydweithrediad â Chomisiynydd Plant Cymru, NSPCC Cymru, a Chymorth i Fenywod Cymru.
Mae’r gweithgaredd hwn yn gwahodd cyfranogwyr i greu ffigurau bach trwy ddefnyddio glanhawyr pibell, weiars crefftau, neu edafedd wedi’i gwyro, y gellir eu siapio mewn ystumiau gwahanol. Yna, caiff cyfranogwyr eu gwahodd i ‘ddyfalu’r teimlad’ sy’n cael ei fynegi gan ystumiau eu ffigurau ei gilydd. Mae’r broses yn gwahodd cyfranogwyr i gwestiynu p’un a yw ein teimladau bob amser yn weladwy – a phan fyddant yn weladwy, a allai ein teimladau edrych yn debyg i deimladau pobl eraill, neu’n wahanol i’w teimladau.
Ymgysylltu Llwyddiannus
Er mawr boddhad i ni, roedd y gweithgaredd yn llwyddiant ysgubol! Erbyn diwedd y dydd, roedd stondin y Rhwydwaith yn gyfor o ffigurau bach lliwgar gwahanol eu siâp, eu maint a’u hystum. Dychwelodd y plant i gasglu eu creadigaethau a mynd â nhw gartref. Fe wnaeth un dysgwr hyd yn oed ddweud cymaint roedd hi wedi mwynhau’r gweithgaredd a gofyn i’w hathro a allen nhw ei wneud eto yn yr ysgol!
Casgliad
Er nad oedd gennym lawer o amser i blymio i fanylion y gweithgaredd gyda phawb a alwodd heibio, ein gobaith oedd y byddai trafod Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith mewn Ysgolion Cynradd mewn lleoliad mor ddifyr a chefnogol – tra’n gwneud a gosod ystum y ffigurau bach llawn mynegiant – yn annog mynychwyr o bob oedran i ystyried pwysigrwydd cefnogi lles emosiynol a meddyliol, gan amlygu hefyd sut gall emosiynau fod yn amrywiol ac yn anodd eu cipio’n llawn mewn un ffurf neu fynegiant yn unig.

Cymerwch ran a gwnewch wahaniaeth! Darllenwch ein blogiau diweddaraf i ddarganfod ffyrdd blaengar o gefnogi lles emosiynol a meddyliol mewn ysgolion.

Gwybodaeth am yr Awduron

Dr. Max R Ashton, Cynorthwyydd Ymchwil
Ymunais â DECIPHer yn Ebrill 2024, fel cynorthwyydd ymchwil yn cefnogi gweithgareddau’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion. Mae fy hanes fel myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd (BSc Gwyddorau Dynol a Chymdeithasol, MSc Dulliau Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol, PhD) yn hir, gan ddechrau yn 2016. Mae fy nghefndir academaidd yn ymgorffori Seicoleg ac Addysg gymdeithasol gritigol, gyda ffocws ymchwil penodol ar addysg cydberthynas a rhywioldeb (ACRh). Fe wnaeth ymchwil fy noethuriaeth ymgorffori dulliau ansoddol amrywiol mewn ymagwedd ddamcaniaethol ‘ôl-ansoddol’ newydd, i archwilio profiadau athrawon a disgyblion Cymru o ddarpariaeth ACRh wrth gyflwyno’r Cwricwlwm cenedlaethol i Gymru. Mae fy niddordebau ymchwil yn cynnwys rhywedd a rhywioldeb, gan ddamcaniaethu ar gymhlethdod mewn sefydliadau, ac archwilio’r prosesau o drosi polisi yn ymarfer mewn addysg.
Charlotte Wooders, Rheolwr Ymgysylltu

Mae Charlotte yn gyfrifol am ddarparu gweithgareddau cyfnewid gwybodaeth ac ymgysylltu, gan ddwyn tîm y Rhwydwaith, partneriaethau sy’n defnyddio ein hymchwil a chymunedau ehangach ynghyd i rannu syniadau, tystiolaeth ac arbenigedd. Hefyd, mae’n gweithio gydag ysgolion a phartneriaid ar draws Cymru, i arddangos effaith data’r Rhwydwaith, yn y modd y mae’n creu gwahaniaeth gwirioneddol a chadarnhaol i iechyd a lles plant a phobl ifanc. Bu Charlotte yn gweithio’n flaenorol yn y trydydd sector, gan gyflwyno rhaglenni rhanbarthol a chenedlaethol a mentrau cyd-gynhyrchu i gefnogi a gwella ymarfer a deilliannau polisi i blant, pobl ifanc a theuluoedd agored i niwed. Yn y gorffennol, mae hi hefyd wedi cyfrannu at nifer o gyhoeddiadau ac astudiaethau ymchwil DECIPHer a CASCADE, gan gefnogi gweithgareddau ymgysylltu â rhanddeiliaid a chyfnewid gwybodaeth.