
A minnau’n aelod o dîm ymchwil yr astudiaeth o’r enw Newid dros gyfnod mewn amgyffredion am bwysau gwaith ysgol a chysylltiadau â phroblemau emosiynol ymhlith pobl ifanc 11–16 oed: Astudiaeth drawstoriadol ailadroddol yng Nghymru, y DU., roeddwn i’n ymwneud ag archwilio mater o bwys: y cynnyd mawr mewn problemau emosiynol ymhlith pobl ifanc yng Nghymru. Mae’r duedd bryderus hon wedi gadael nifer ohonom ni’n meddwl tybed pam mae’n digwydd, ac eto bach iawn o astudiaethau sy’n ymchwilio i’r achosion wrth wraidd hyn. Dyma pam mae ein hymchwil yn amserol ac yn hanfodol. Trwy fanteisio ar ddata’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (Y Rhwydwaith), datgelom dueddiadau mewn problemau emosiynol ac amgyffredion am bwysau gwaith ysgol, gan daflu goleuni ar yr heriau y mae pobl ifanc heddiw yn eu hwynebu.
Oeddech chi’n gwybod bod un o bob pedwar dysgwr yng Nghymru wedi dweud eu bod wedi profi pwysau gwaith ysgol sylweddol yn 2021?

Dyma un o ganfyddiadau allweddol ein hastudiaeth, a ddefnyddiodd ddata uwchradd yn rhychwantu 2002 tan 2021. Nod yr astudiaeth oedd archwilio tueddiadau mewn amgyffredion am bwysau gwaith ysgol a phroblemau emosiynol yng Nghymru dros y cyfnod hwn, ac i bennu a allai newidiadau mewn pwysau gwaith ysgol esbonio’r cynnydd mewn problemau emosiynol.
Cyn cynnal yr astudiaeth hon, siaradais ag aelodau ein Grŵp Cynghori Ieuenctid yng Nghanolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc – Prifysgol Caerdydd ym Mhrifysgol Caerdydd. Rhannont bryderon am faint o waith ysgol ac arholiadau sydd ganddynt, a sut roeddent yn teimlo dan bwysau i ragori er mwyn cael lle mewn prifysgol. Fe wnaeth siarad â’r bobl ifanc amlygu pa mor bwysig yw hi i ddeall a mynd i’r afael â’r pwysau hyn sy’n gysylltiedig â’r ysgol.
Ers 2009, mae nifer y dysgwyr yng Nghymru sy’n adrodd am bwysau gwaith ysgol wedi bron i ddyblu, gydag oddeutu 26% yn teimlo llawer o bwysau yn 2021. Merched hŷn oedd yn adrodd am y pwysau hyn yn fwyaf cyffredin, ac roedd yn esbonio rhywfaint o’r cynnydd mewn problemau emosiynol ymhlith pobl ifanc. Mae’r canfyddiadau hyn yn amlygu pryder pwysig o ran iechyd cyhoeddus. Mae pobl ifanc yng Nghymru yn profi lefelau cynyddol o bwysau gwaith ysgol, sy’n gysylltiedig yn gyson â lefelau uwch o broblemau emosiynol.

Mae’n hanfodol ein bod ni nawr yn treiddio’n ddyfnach i’r rheswm pam. Pam mae pobl ifanc dan bwysau cynyddol?
Defnyddiodd yr astudiaeth ddata uwchradd o astudiaeth Ymddygiad Iechyd mewn Plant Oed Ysgol a data arolygon y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion. Fe wnaeth yr arolygon hyn gynnwys samplau cynrychioliadol yn genedlaethol o ddisgyblion uwchradd yng Nghymru, rhwng 2002 a 2021, yn cwmpasu data gan 300,000 o unigolion. Fe wnaeth cyfran y bobl ifanc yng Nghymru sy’n amgyffred llawer o bwysau gwaith ysgol gynyddu rhwng 2009 a 2021, gan adlewyrchu cynnydd tebyg mewn problemau emosiynol. Mae deall pam mae pobl ifanc yn profi mwy o bwysau yn hanfodol i iechyd cyhoeddus a gall lywio ymyriadau i helpu pobl ifanc i ymdopi â gofynion academaidd a chymdeithas.
Dylai astudiaethau yn y dyfodol ymchwilio i b’un a yw newidiadau mewn amgyffredion o bwysau gwaith ysgol yn adlewyrchu amgylcheddau ysgol lle mae mwy o bwysau, newidiadau yn nisgwyliadau pobl ifanc neu gymdeithas, neu heriau eraill sy’n effeithio ar allu pobl ifanc i ymdopi. Mae’r ddealltwriaeth hon yn allweddol i atal cynnydd pellach mewn pwysau gwaith ysgol ac iechyd meddwl a lles pobl ifanc.
Mae ein hastudiaeth yn codi pryderon pwysig am y pwysau y mae pobl ifanc yng Nghymru yn eu hwynebu. Gallai’r cynnydd cyffredinol mewn pwysau gwaith ysgol fod wedi cyfrannu at y cynnydd mewn problemau emosiynol, yn enwedig ymhlith merched. Mae deall y rhesymau wrth wraidd y pwysau hyn yn hanfodol i atal cynnydd pellach a mynd i’r afael â phroblemau iechyd meddwl a lles. Hefyd, gall fod angen newid diwylliannol ehangach tuag at reoli gofynion academaidd i ategu datblygiad iach cenedlaethau’r dyfodol.
I gloi, mae ein hastudiaeth yn amlygu pryder cynyddol: y lefelau cynyddol o amgyffredion am bwysau gwaith ysgol ymhlith pobl ifanc yng Nghymru a’u cysylltiad â’r cynnydd mewn problemau emosiynol. Mae’r duedd hon yn pwysleisio angen dybryd am ymchwil pellach i ddeall yr achosion wrth ei gwraidd ac i ddatblygu ymyriadau effeithiol. Trwy fynd i’r afael â’r pwysau hyn, gallwn helpu pobl ifanc i reoli galwadau academaidd a chymdeithasol yn fwy effeithiol, gan gefnogi eu hiechyd meddwl a’u lles yn well yn y pen draw.
Diolch am roi o’ch amser i ddarllen am ein hymchwil. Trwy ddeall a mynd i’r afael â’r pwysau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu heddiw, gallwn weithio tuag at greu amgylchedd iachach a mwy cefnogol i genedlaethau’r dyfodol o blant a phobl ifanc.
Beth yw’r prif resymau wrth wraidd y cynnydd mewn pwysau gwaith ysgol ymhlith pobl ifanc heddiw, yn eich tyb chi?
A oes gennych syniadau neu awgrymiadau am ymchwil yn y dyfodol i’r pwnc hwn? Pa agweddau sydd angen mwy o sylw, yn eich tyb chi?

Mae eich barn a’ch profiadau yn amhrisiadwy. Rhannwch nhw gyda ni trwy e-bostio shrn@cardiff.ac.uk

Darllenwch fwy am yr astudiaeth hon

Gwybodaeth am yr Awdur
Dr Jess Armitage
Rwy’n Gydymaith Ymchwil yng Nghanolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc. Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar y newidiadau mewn iechyd meddwl plant a’r glasoed yn y boblogaeth. O ddiddordeb arbennig i mi y mae tueddiadau dros gyfnod a deall y ffactorau a all fod wedi cyfrannu at y cynnydd diweddar mewn iselder a gorbryder. Hefyd, mae gennyf ddiddordeb mewn gwydnwch a rhagfynegyddion iechyd meddwl a lles cadarnhaol ac, yn y gorffennol, rwyf wedi gwneud ymchwil i wydnwch yn sgil erledigaeth gan gymheiriaid. Darllenwch fwy…