Eich Canllaw i Arolwg Iechyd a Lles Ysgolion y Rhwydwaith a Holiadur Amgylchedd yr Ysgol y Rhwydwaith.
Croeso i’n canllaw ar Arolwg Iechyd a Lles Ysgolion y Rhwydwaith a Holiadur Amgylchedd yr Ysgol y Rhwydwaith.
Nod y dudalen hon yw ateb cwestiynau mwyaf cyffredin ysgolion, gan gynnig atebion clir a chryno i’ch helpu i ddeall pwysigrwydd a buddion cymryd rhan yng nghasgliad data’r Rhwydwaith.
Mynnwch gip ar yr adrannau isod i ddysgu rhagor am sut gall y Rhwydwaith gefnogi rhaglen iechyd a lles eich ysgol!
Beth yw Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith a Holiadur Amgylchedd yr Ysgol y Rhwydwaith?
Mae Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith yn cael ei gynnal gan y Rhwydwaith. Mae’n darparu adroddiad lefel ysgol pwrpasol, o safon uchel, i bob ysgol bob dwy flynedd, sy’n cynnwys data hygyrch, o safon uchel, ar iechyd a lles eu dysgwyr. Mae hyn yn galluogi ysgolion i nodi anghenion iechyd penodol o fewn poblogaeth y dysgwyr, gan ddatblygu a theilwra cynlluniau datblygu ac ymyriadau eu hysgol yn unol â hynny. Ar raddfa ehangach, mae data’r arolwg yn darparu dangosyddion cenedlaethol a rhanbarthol i ategu polisïau ac ymarfer cenedlaethol, gan gyfrannu at welliant cyffredinol iechyd a lles myfyrwyr ar draws Cymru.
Am wybodaeth fwy cynhwysfawr, darllenwch ein ffeithlen.
Mae Arolwg Amgylchedd yr Ysgol y Rhwydwaith yn cael ei ateb gan aelod o Dîm Arwain yr Ysgol bob dwy flynedd, ar yr un pryd â chynnal Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith. Mae’n caniatáu am ymchwilio i’r berthynas rhwng polisïau ac ymarfer ysgolion (e.e. arweinyddiaeth ysgol; ethos yr ysgol; amgylchedd yr ysgol; dysgu’r cwricwlwm; ymgysylltu â theuluoedd a’r gymuned) a deilliannau iechyd dysgwyr. O’i ddefnyddio ar y cyd ag Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith, mae’n cynnig cyfle unigryw i ysgolion asesu iechyd a lles dysgwyr yng nghyd-destun polisïau ac ymarfer eu hysgol nhw.
Darganfyddwch rym Holiadur Amgylchedd yr Ysgol: Archwiliwch ein ffeithlen a’n blog.
Pam ddylai ein hysgol gymryd rhan yng nghasgliad data Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith a Holiadur Amgylchedd yr Ysgol y Rhwydwaith?
Mae cymryd rhan yn Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith yn cynnig buddion niferus i’ch ysgol. Mae’r Rhwydwaith yn cynnig y canlynol i chi:
Data craff: Trwy fanteisio ar y data cynhwysfawr hwn, gall eich ysgol ennill cipolygon gwerthfawr i amrywiol agweddau ar iechyd dysgwyr, nodi tueddiadau a rhoi ymyriadau targedig ar waith. Mae’r dull hwn, sydd wedi’i yrru gan ddata, yn sicrhau bod penderfyniadau nid yn unig yn rhai gwybodus, ond wedi’u teilwra hefyd i anghenion penodol eich dysgwyr, gan feithrin amgylchedd dysgu iachach a mwy cefnogol yn y pen draw.
Penderfyniadau gwybodus: Bydd defnyddio’r data yn eich helpu i wneud penderfyniadau mwy gwybodus, seiliedig ar dystiolaeth, am eich mentrau iechyd a lles, gan sicrhau eu bod wedi’u teilwra i anghenion penodol eich dysgwyr.
Meincnodi: Mae’r gallu i gymharu eich data â chyfartaleddau ysgolion yn genedlaethol yn cynnig cyd-destun ehangach i’ch data
Cefnogaeth ac adnoddau: Gall aelodau ein rhwydwaith gael at gymorth ac adnoddau i helpu gweithredu strategaethau iechyd a lles mwy effeithiol.
Cyfleoedd i gefnogi Ymgysylltiad Myfyrwyr: Cynnwys dysgwyr yn y broses, gan roi llais iddynt wrth lywio’r polisïau iechyd a lles sy’n effeithio arnyn nhw.
Cyfle i gymryd rhan mewn ymdrech Gymru gyfan i wella iechyd a lles trwy gyfrannu at ddangosyddion cenedlaethol a rhanbarthol.
Mae’r Rhwydwaith yn chwarae rhan arwyddocaol yn y gwaith o ddatblygu a chyflwyno Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles Cwricwlwm i Gymru, ynghyd â chynllunio, cyflwyno, monitro a gwerthuso’r Dull Ysgol Gyfan ar gyfer Iechyd Meddwl a Llesiant. Mae ysgolion sy’n defnyddio eu data ar ddysgwyr a’r amgylchedd fel tystiolaeth o ymarfer gwybodus wedi cael eu canmol yn rheolaidd gan Estyn.
Mynnwch ysbrydoliaeth: Darllenwch ein llyfryn gwybodaeth.
Pam ddylai ein hysgol ymuno â’r Rhwydwaith, a bod yn rhan o’r rhwydwaith cenedlaethol hwn?
Mae ymuno â’r Rhwydwaith yn cynnig cyfoeth o fanteision i ysgolion. O fanteisio ar adnoddau cynhwysfawr a gwella deilliannau iechyd a lles dysgwyr, i wneud penderfyniadau gwybodus a datblygiad proffesiynol, mae aelodaeth o’r Rhwydwaith yn grymuso ysgolion i greu amgylcheddau dysgu iachach. Yn ogystal, mae ysgolion yn elwa o gyfleoedd cydweithredu a rhwydweithio, ynghyd â’r gallu i ddylanwadu ar bolisïau iechyd ar raddfa ehangach.
Dyma olwg fanylach ar sut gall aelodaeth o’r Rhwydwaith wneud gwahaniaeth arwyddocaol a chodi potensial eich ysgol:
Cyfleoedd i gefnogi Ymgysylltiad Myfyrwyr: Cynnwys dysgwyr yn y broses, gan roi llais iddynt wrth lunio’r polisïau iechyd a lles sy’n effeithio arnynt.
Y gallu i gael at offer ac adnoddau cynhwysfawr: Fel aelodau o’r Rhwydwaith, mae ysgolion prif ffrwd yng Nghymru yn manteisio ar amrywiaeth eang o adnoddau sydd wedi’u cefnogi gan astudiaethau gwyddonol i wella iechyd a lles ysgolion.
Porwch ein llyfryn effaith a’n tudalen blogiau i sicrhau cipolygon ac ysbrydoliaeth werthfawr.
Tanysgrifiwch i e-newyddion misol y Rhwydwaith heddiw a grymuso eich ysgol gyda’r wybodaeth a’r adnoddau sydd eu hangen i lwyddo!
Gwell deilliannau iechyd a lles myfyrwyr: Trwy weithredu mentrau effeithiol wedi’u gyrru gan ddata, gall ysgolion weld gostyngiad yn nifer yr absenoldebau a gwelliannau mewn iechyd a lles.
Cyfleoedd datblygu proffesiynol: Mae athrawon yn elwa o hyfforddiant a chyfleoedd dysgu i wella’u sgiliau, gan gynnwys gweithdai a gweminarau, gan eu helpu i wybod am y tueddiadau a’r arfer gorau diweddaraf.
Mynnwch gipolwg ar ein gweminarau a mynd â’ch datblygiad proffesiynol i’r lefel nesaf.
Cysylltu a chydweithio: Mae bod yn rhan o’r Rhwydwaith yn galluogi ysgolion i gysylltu ag ysgolion eraill a sefydliadau iechyd a lles. Mae’r cydweithredu hwn yn meithrin rhannu syniadau, adnoddau a strategaethau llwyddiannus ar gyfer hybu iechyd a lles.
Dylanwadu ar bolisïau iechyd a lles: Mae ein partneriaeth strategol ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac integreiddio â Rhwydwaith Ysgolion Cymru sy’n Hybu Iechyd a Lles (WNHWPS), ochr yn ochr â buddsoddiad sylweddol, parhaus, gan Lywodraeth Cymru, wedi galluogi’r Rhwydwaith i dyfu’n rhwydwaith cenedlaethol o ymchwil a gwerthuso.
Mae dros 30 o bolisïau a strategaethau Llywodraeth Cymru yn enwi’r Rhwydwaith yn gysylltiedig â darparu cymorth i gyflwyno a gwerthuso agendau ac ymyriadau polisi iechyd a lles. Mae’r rhain yn cynnwys y Dull Ysgol Gyfan ar gyfer Iechyd Meddwl a Llesiant (2021) ac Adroddiad Iach a Hapus (2019) Estyn.
Ymgysylltu gwell â’r gymuned: Gall ysgolion ddefnyddio data’r Rhwydwaith i ymgysylltu â’u cymuned, gan feithrin partneriaethau â sefydliadau iechyd lle, dysgwyr a theuluoedd. Mae hyn yn cryfhau’r rhwydwaith cymorth i ddysgwyr ac mae’n hybu diwylliant o iechyd a lles yn y gymuned.
Amgylchedd ysgol cadarnhaol: Gall aelodaeth o’r Rhwydwaith gyfrannu at greu amgylchedd ysgol cadarnhaol sy’n blaenoriaethu iechyd a lles, gyda chefnogaeth data a thystiolaeth.
Helpu dysgwyr i wneud dewisiadau iach trwy gydol eu bywyd: Trwy gymryd rhan yn y Rhwydwaith, gall ysgolion ddefnyddio’u data i ddarparu dysgwyr â gwybodaeth a sgiliau hanfodol i wneud dewisiadau iechyd a lles gwybodus trwy gydol eu bywyd. Mae’r ffocws hwn yn helpu i feithrin cenhedlaeth o unigolion sy’n ymwybodol o iechyd.
Cydnabyddiaeth a hygrededd: Mae’r Rhwydwaith yn bartneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd, Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru a chydnabyddir ei fod yn arweinydd cenedlaethol a rhyngwladol yn ei faes. Mae bod yn aelod o’r Rhwydwaith yn ychwanegu at hygrededd ysgol fel sefydliad sy’n hybu iechyd a lles.
Darllenwch am yr ysgolion sydd wedi defnyddio’u data o’r Rhwydwaith i ddathlu eu cryfderau a gweithio ar eu heriau.
Mae nifer y disgyblion yn ein dosbarthiadau yn fach iawn – a ydym ni’n gallu cymryd rhan yn arolwg y Rhwydwaith?
Ydych, wrth gwrs! Gallwn grwpio canlyniadau eich ysgol gydag ysgolion bach eraill o statws economaidd gymdeithasol tebyg (ar sail bandiau hawl i brydau ysgol am ddim) a llunio adroddiad ar sail y data hwn. Mae’r dull hwn hefyd yn cynnig budd ychwanegol i ysgolion, sef cydweithredu ymhellach, gan archwilio syniadau a mentrau newydd y bydd pawb sy’n cymryd rhan yn elwa ohonynt.
Yn ogystal, hyd yn oed mewn dosbarthiadau bach, mae arolwg y Rhwydwaith yn sicrhau anhysbysrwydd llym i ddiogelu preifatrwydd dysgwyr. Mae’r ffordd o gasglu data yn golygu ei bod hi’n anodd olrhain ymatebion yn ôl i unigolion, ac rydym yn adrodd ar yr holl ganlyniadau ar ffurf wedi’i chydgrynhoi. Mae hyn yn caniatáu i ysgolion bach ennill cipolygon gwerthfawr i iechyd a lles eu myfyrwyr heb beryglu preifatrwydd, gan alluogi cymorth teilwredig ac ymyriadau effeithiol.
Cysylltwch â ni os yw hyn yn rhywbeth yr hoffech ei wneud.
A all yr Arolwg fod yn fyrrach i ddysgwyr ysgolion cynradd?
Lluniwyd arolwg y Rhwydwaith ar gyfer ysgolion cynradd yn ofalus i fod o hyd penodol er mwyn darparu ar gyfer y grŵp iau a faint o amser maen nhw’n talu sylw, a sicrhau ei fod yn casglu data cynhwysfawr, dibynadwy.
Lluniwyd ein harolwg ysgolion cynradd i helpu sicrhau bod dysgwyr iau yn gallu ei ateb heb iddo eu llethu a heb iddynt golli ffocws. Mae hyn hefyd yn ei gwneud hi’n haws i athrawon weinyddu’r arolwg o fewn cyfnod dosbarth nodweddiadol, gan leihau tarfu ar y diwrnod ysgol ond casglu data gwerthfawr am iechyd a lles disgyblion ar yr un pryd.
Nid yw’n ymddangos bod rhai o gwestiynau’r Arolwg, fel cwestiynau am Gyfoeth a Thueddiadau’r Aelwyd, yn berthnasol i iechyd a lles. Pam ydych chi’n gofyn y rheiny?
Yn nodweddiadol, mae arolygon iechyd a lles plant a phobl ifanc, fel Arolwg Iechyd a Lles y Rhwydwaith i Ysgolion, yn cynnwys cwestiynau am eitemau’r aelwyd, fel peiriannau golchi llestri, i asesu amodau byw a statws economaidd gymdeithasol. Rydym ni’n defnyddio mesurau safonol i nodi patrymau a’r gydberthynas rhwng ffactorau economaidd gymdeithasol a deilliannau iechyd, sy’n bwysig i ddeall tueddiadau iechyd a lles y cyhoedd ac amlygu dulliau effeithiol. Yn ei dro, mae hyn yn llywio polisïau ac argymhellion iechyd cyhoeddus.
Yn olaf, mae’r data sy’n cael ei gasglu gan y Rhwydwaith yn cael ei wneud yn anhysbys. Mae hyn yn golygu nad yw’r arolwg, er ei fod yn casglu dynodwyr fel rhywedd, grŵp blwyddyn ysgol ac ethnigrwydd, yn casglu gwybodaeth a all ddatgelu’n uniongyrchol pwy yw’r unigolion sy’n cymryd rhan. Mae’r dull hwn yn helpu i ddiogelu preifatrwydd y rhai sy’n cymryd rhan yn yr arolwg.
C7: Pam na allwn ni gael ein Hadroddiad Lefel Ysgol gan y Rhwydwaith yn syth ar ôl i’r Arolwg gau?
Mae’r data meincnodi cenedlaethol y mae ysgolion yn ei gael yn hanfodol ar gyfer deall sut mae metrigau iechyd a lles eich ysgol yn cymharu â’r darlun cenedlaethol ehangach. I gynhyrchu’r meincnodau hyn, mae angen i ni aros hyd nes bydd pob ysgol sy’n cymryd rhan wedi ateb eu harolwg. Mae angen y data hwn i gyfrifo cyfartaleddau cenedlaethol sy’n adlewyrchu profiad cyfunol yr holl ysgolion sy’n cymryd rhan.
Yn ogystal, anfonir y data yn uniongyrchol at Ipsos, ein contractwr ar gyfer yr arolwg, i’w lanhau’n drylwyr, cynhyrchu adroddiadau a gwirio ansawdd y set ddata gyfan. Mae’r broses ofalus hon yn sicrhau bod yr adborth a ddarperir wedi’i seilio ar y data mwyaf dibynadwy a chynhwysfawr sydd ar gael.
Rydym ni’n gwerthfawrogi eich amynedd a’ch dealltwriaeth wrth i ni weithio i roi’r adroddiad mwyaf cywir ac ystyrlon posibl i chi. Bwriedir rhyddhau Adroddiadau’r Rhwydwaith i Ysgolion Cynradd ar ôl Pasg 2025.
Sut gall ysgolion gynorthwyo dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), dysgwyr sy’n siarad Saesneg fel Iaith Ychwanegol (SIY), neu ddysgwyr sydd ag oedran darllen neu ddealltwriaeth iau i ateb Arolwg y Rhwydwaith?
Yma yn y rhwydwaith, rydym ni am i bob dysgwr gael y cymorth y mae ei angen arnynt fel y gallant gymryd rhan yn Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith.
Dylai ysgolion roi cymorth fel y gwnânt, fel arfer. Nhw sy’n adnabod eu dysgwyr orau ac maent yn arbenigwyr ar roi’r cymorth angenrheidiol. Dyma awgrym o rai strategaethau:
Defnyddio trefniadau hygyrchedd presennol: I ddysgwyr ag anghenion ychwanegol, gall ysgolion ddefnyddio mesurau hygyrchedd presennol fel amser ychwanegol, seibiannau rheolaidd a chymorth gan staff pwrpasol.
Paratoi dysgwyr: Gall athrawon drafod diben yr arolwg a natur y cwestiynau ymlaen llaw i helpu dysgwyr i ddeall beth i’w ddisgwyl.
Egluro strwythur cwestiynau: Yn achos cwestiynau sydd ag atebion amlddewis, gallai cyfeirio’n ôl at strwythur y cwestiwn fod yn ddefnyddiol, yn enwedig os yw’n cynnwys amserau (e.e. o fewn yr wythnos ddiwethaf, heddiw), i helpu dysgwyr i ddewis eu hymatebion.
Blaen-gynllunio: Sicrhewch fod cymorth ar gael trwy ddarllen y testun i unigolion, gan esbonio geiriau a chysyniadau, darparu seibiannau, neu ateb ychydig o’r arolwg ar y tro.
Cynnal preifatrwydd: Wrth gynnig preifatrwydd, mae’n bwysig cynnig preifatrwydd i ddysgwyr pan fyddant yn dewis eu hatebion. Gall hyn fod mor syml ag edrych i ffwrdd tra bydd y plentyn yn teipio’i ateb.
A yw eich ysgol yn barod i ymuno â’r Rhwydwaith?
Gobeithio ein bod ni wedi ateb eich cwestiynau ac amlygu buddion cymryd rhan yng nghasgliad data’r Rhwydwaith i’ch ysgol. Trwy ymuno â’r Rhwydwaith, bydd eich ysgol yn rhan o rwydwaith cenedlaethol pwrpasol ar gyfer gwella iechyd a lles myfyrwyr.
Os oes gennych gwestiynau pellach neu os oes angen help arnoch, mae croeso i chi gysylltu â ni ar shrn@cardiff.ac.uk.
Gyda’n gilydd, gallwn effeithio’n gadarnhaol ar iechyd a lles dysgwyr ledled Cymru.
Ydych chi’n barod i wneud gwahaniaeth gyda’r Rhwydwaith?
- Darganfyddwch ein llwyddiannau ac astudiaethau achos ysgolion.
- Darllenwch ein llyfryn gwybodaeth i ysgolion.
- Darllenwch ein cwestiynau cyffredin i rieni a gofalwyr.
- Gwyliwch ein hanimeiddiad byr.
- Archwiliwch ein ffeithlenni ac, i gael cipolygon pellach, darllenwch ein Blog .