Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi bod ein sefydliad yn symud o Twitter / X i Bluesky a LinkedIn ar gyfer ein diweddariadau ac i ymgysylltu ar y cyfryngau cymdeithasol. Bydd hyn yn ein galluogi i gysylltu’n well â’n cymuned, rhannu cynnwys mwy manwl, a chael sgyrsiau ystyrlon.
Gallwch chi ein dilyn ni ar Bluesky @shrnwales.bsky.social ac ar LinkedIn ‘The School Health Research Network’. Ar y platfformau hyn, byddwn ni’n parhau i rannu’r newyddion diweddaraf a gwybodaeth am y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion. Rydyn ni’n edrych ymlaen at ymgysylltu â chi mewn ffyrdd newydd a chyffrous.
Rydyn ni’n eich annog i’n dilyn ni ar Bluesky a LinkedIn i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein cynnwys.
I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch Swyddog Cyfathrebu Digidol a Digwyddiadau y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion, Rory Chapman: ChapmanR6@caerdydd.ac.uk.
Mae’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn ffarwelio’n dwymgalon â’r Athro Simon Murphy, sy’n ymddeol ar ôl 12 mlynedd o arweinyddiaeth, gan drawsnewid y Rhwydwaith yn fodel byd-eang ar gyfer ymchwil iechyd mewn ysgolion.
O dan ei arweinyddiaeth, mae’r Rhwydwaith wedi dylanwadu ar dros 30 o bolisïau cenedlaethol, gan lywio ymchwil a gweithredu ar iechyd a lles mewn ysgolion yng Nghymru a thu hwnt.
Mae cyflawniadau’r Rhwydwaith yn ymestyn ymhell y tu hwnt i Gymru. Mae’r Rhwydwaith wedi chwarae rhan allweddol mewn lansio mentrau partner ar draws y DU, gan gynnwys SHINE yn yr Alban a rhwydweithiau ymchwil mewn ysgolion yn rhanbarthol yn Lloegr. Yn rhyngwladol, mae model y Rhwydwaith wedi llywio prosiectau ymchwil peilot yn Namibia a Saudi Arabia, gan atgyfnerthu ei effaith fyd-eang.
Bellach, mae’r Rhwydwaith yn dechrau pennod newydd, gyffrous o dan arweinyddiaeth Dr Kelly Morgan, sydd wedi bod yn Ddirprwy Gyfarwyddwr ers sawl blwyddyn. Yn ei blog, ‘Edrych tua’r Dyfodol: Gweledigaeth Gyffredin ar gyfer Pennod Nesaf y Rhwydwaith,’ mae hi’n mynegi ei hymrwymiad dwys i genhadaeth a gwerthoedd y Rhwydwaith: ‘Bydd ein hymrwymiad i gydweithredu, darparu data o ansawdd uchel, a chyd-gynhyrchu gwaith sy’n cael effaith gydag ysgolion yn parhau’n ganolog i’n cenhadaeth’.
Bydd arbenigedd Dr Morgan mewn ymchwil iechyd cyhoeddus yn canolbwyntio ar ymyriadau iechyd a lles mewn ysgolion a chysylltedd data. Mae hi wedi arwain ar ehangu’r Rhwydwaith i ysgolion cynradd, gan amlygu lleisiau dysgwyr iau yn y Rhwydwaith. Wrth symud ymlaen, bydd hi’n goruchwylio:
Lansio dangosfwrdd lefel ysgol blaengar ar gyfer ysgolion uwchradd, gan ddarparu gwybodaeth wedi’i haddasu’n bwrpasol i rymuso addysgwyr.
Cryfhau partneriaethau rhwng ysgolion, llunwyr polisi ac ymchwilwyr i yrru gwelliannau seiliedig ar dystiolaeth mewn iechyd a lles dysgwyr.
Cydweithrediadau byd-eang parhaus, gan adeiladu ar effaith ryngwladol y Rhwydwaith i ehangu mentrau iechyd mewn ysgolion yn fyd-eang.
Mae’r Rhwydwaith yn parhau i ymrwymo i’w genhadaeth, sef gyrru gwelliannau seiliedig ar dystiolaeth, wedi’u llywio gan ymchwil, mewn iechyd a lles mewn ysgolion. Wrth drosglwyddo’r arweiniad yn alluog, mae’r Rhwydwaith yn barod am dwf ac effaith bellach.
Rydym yn falch o gyhoeddi bod diweddariad i Ddangosfwrdd Data’r Rhwydwaith ar Iechyd a Lles Ysgolion Uwchradd yn lansio ar 8 Mai!
Bydd y cyhoeddiad diweddaraf hwn yn cyflwyno bron i 30 pwnc newydd,gan gynnig cipolygon newydd i iechyd a lles dysgwyr uwchradd yng Nghymru, ar lefel ranbarthol a chenedlaethol, gyda chanlyniadau o arolwg 2023 y Rhwydwaith.
Dyma rai o’r pynciau newydd sydd wedi’u cynnwys yn y diweddariad hwn:
Data ar fepio – Deall pa mor gyffredin yw’r defnydd o e-sigaréts ymhlith pobl ifanc.
Defnydd problemus o’r cyfryngau cymdeithasol – Archwilio ymddygiad ar-lein myfyrwyr yng Nghymru.
Gamblo – Bwrw golwg ar batrymau penodol o fewn grwpiau oedran penodol a rhyweddau.
Ymunwch â’n Gweminar ar 8 Mai!
I gyd-fynd â’r lansiad, bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru’n cynnal gweminar sy’n agored i bawb. Bydd y sesiwn hon yn cwmpasu:
Trosolwg manwl o’r data newydd a’r newidiadau i’r dangosfwrdd
Ein cynlluniau at y dyfodol i ddatblygu’r dangosfwrdd ymhellach
Cyfle i ofyn cwestiynau i gydweithwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion
I gofrestru ar gyfer y gweminar hwn, cliciwch ar y ddolen hon. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi ar 8 Mai.
Mae astudiaeth ddiweddar, yn defnyddio data’r Rhwydwaith, wedi datgelu tuedd bryderus ymhlith dysgwyr uwchradd yng Nghymru. Mae’n datgelu fod amgyffredion am bwysau gwaith ysgol wedi dyblu dros y ddau ddegawd diwethaf. Mae cysylltiad agos rhwng y cynnydd hwn mewn straen academaidd â chynnydd mewn problemau emosiynol ymhlith pobl ifanc, gan godi pryderon iechyd cyhoeddus a lles.
I ddarllen mwy am yr astudiaeth hon, cliciwch yma. (Cyfnodolyn: Cyhoeddwyd yn JCPP Advances.)
Datgelodd y dadansoddiad cynhwysfawr fod nifer y dysgwyr sy’n rhoi gwybod am bwysau gwaith ysgol dwys wedi bron i ddyblu ers 2009, gyda 26% yn teimlo pwysau sylweddol yn 2021. Mae effaith ar ddysgwyr benywaidd hŷn, yn arbennig.
‘Mae’n bryderus gweld cynifer o bobl ifanc yng Nghymru sy’n cael eu llethu gan amgyffredion am bwysau gwaith ysgol, yn enwedig merched. Mae’n rhaid i ni ymchwilio ymhellach i pam mae’r pwysau hyn yn cynyddu. Mae deall y rhesymau sylfaenol dros y pwysau hyn yn hanfodol ar gyfer datblygu ymyriadau effeithiol i gefnogi pobl ifanc.
‘Mae’n rhaid i ymchwil yn y dyfodol archwilio ar frys p’un a yw newidiadau yn yr amgyffredion am bwysau gwaith ysgol o ganlyniad i fwy o bwysau mewn amgylchedd yr ysgol, newid mewn disgwyliadau, neu heriau eraill. Mae’r ddealltwriaeth hon yn hanfodol i atal cynnydd pellach mewn pwysau gwaith ysgol a phroblemau iechyd meddwl pobl ifanc’.
Fe wnaeth erthygl ddiweddar mewn cyfnodolyn, a ddefnyddiodd ddata o Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion ac a gyhoeddwyd yn y Journal of Adolescent Health, archwilio cwynion iechyd meddwl ac iechyd corfforol pobl ifanc yn eu harddegau cyn dechrau pandemig COVID-19 a dwy flynedd yn ddiweddarach.
Dadansoddodd yr astudiaeth ddata gan 792,606 o bobl ifanc 11, 13 a 15 oed ar draws 35 o wledydd (gan gynnwys Cymru), fel rhan o astudiaeth ryngwladol Ymddygiad Iechyd mewn Plant Oed Ysgol (HBSC). Gan ddefnyddio pedair ton o ddata HBSC rhwng 2010 a 2022, canfu’r astudiaeth fod nifer yr adroddiadau am gwynion iechyd meddwl ac iechyd corfforol gan bobl ifanc yn eu harddegau, yn draws genedlaethol yn 2022, yn uwch o lawer na’r hyn y byddid wedi’i ddisgwyl ar sail tueddiadau cyn y pandemig, yn enwedig ymhlith merched yn eu harddegau.
Canfyddiadau Allweddol:
Gwahaniaethau rhwng y rhywiau: Adroddodd bechgyn a merched lefelau uwch o lawer o broblemau iechyd meddwl yn 2022 (e.e. teimlo’n isel, yn nerfus, yn biwis, a chael trafferth cysgu), o gymharu â thueddiadau yn y gorffennol rhwng 2010 a 2018. Yn achos problemau iechyd corfforol (e.e. teimlo’n benysgafn, cur pen, stumog ddrwg a chefn tost), gwelwyd cynnydd bach ond arwyddocaol ymhlith merched yn unig.
Gwahaniaethau demograffig-gymdeithasol: Ehangodd anghydraddoldebau sydd eisoes yn bodoli yn ôl oedran rhwng 2018 a 2022, gyda phobl ifanc 13 a 15 oed yn adrodd mwy o gwynion na rhai 11 oed. I’r gwrthwyneb, roedd y gwahaniaethau rhwng grwpiau economaidd-gymdeithasol a welwyd cyn y pandemig o ran problemau iechyd corfforol wedi lleihau: roedd hyn o ganlyniad i fwy o gynnydd yn yr adroddiadau am broblemau iechyd corfforol gan bobl ifanc o deuluoedd mwy cyfoethog o gymharu â theuluoedd llai cyfoethog.
Effaith Strwythur Teuluol: Adroddodd pobl ifanc sy’n byw mewn cartref ag un rhiant lefelau uwch o lawer o broblemau iechyd meddwl ac iechyd corfforol o gymharu â phobl ifanc sy’n byw gyda’r ddau riant, ac roedd y bwlch hwn yn ehangu rhwng 2018 a 2022.
Meddai un o gyd-awduron yr erthygl, Dr Nick Page (Cymrawd Ymchwil ac arweinydd dadansoddol y Rhwydwaith):
Mae ein hastudiaeth, sy’n manteisio ar ddata o 35 o wledydd, yn amlygu sut oedd newidiadau i iechyd meddwl ac iechyd corfforol pobl ifanc yn waeth o lawer na’r disgwyl yn dilyn y pandemig COVID-19, yn enwedig ymhlith merched a’r rheiny sy’n byw mewn cartref ag un rhiant. O ystyried bod iechyd meddwl pobl ifanc yn dirywio cyn y pandemig, mae’r dystiolaeth ryngwladol hon yn cefnogi’r naratif bod COVID wedi gwaethygu argyfwng a oedd eisoes yn bodoli, y mae angen mynd i’r afael ag ef ar frys.
Mae partner y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, sef Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn ceisio adborth ar safonau newydd ar gyfer ymagwedd ysgol gyfan at iechyd a lles yn ysgolion Cymru. Bydd y safonau hyn yn disodli Dyfarniad Ansawdd Cenedlaethol 2009 ac yn canolbwyntio ar elfennau craidd yn hytrach na phynciau iechyd penodol, gan alluogi ysgolion i osod eu blaenoriaethau iechyd eu hunain a hybu gwelliant parhaus.
Mae’r safonau arfaethedig yn cwmpasu saith maes: Arweinyddiaeth, Deall Angen, Cymryd Rhan, y Gweithlu, Diwylliant yr Ysgol, Y Cwricwlwm a Gwasanaethau Cymorth. Mae pob safon yn cynnwys disgrifiadau manwl o arferion angenrheidiol.
Mae’r Rhwydwaith wedi’i wreiddio yn yr ymagwedd ysgol gyfan at iechyd a lles yng Nghymru trwy ddarparu data hanfodol ac arferion yn seiliedig ar dystiolaeth. Mae’r Rhwydwaith yn cynnal arolygon cynhwysfawr i gasglu data ar iechyd a lles dysgwyr, sy’n helpu ysgolion i nodi anghenion penodol a meysydd i’w gwella. Mae adroddiadau adborth a meincnodau cenedlaethol yn ategu’r dull hwn sydd wedi’i yrru gan ddata, gan roi arweiniad i ysgolion wrth hunanwerthuso a chynllunio gweithredu.
Yn ogystal, trwy gynnig adnoddau a hwyluso gwelliant parhaus, mae’r Rhwydwaith yn sicrhau bod ysgolion yn gallu rhoi mentrau iechyd a lles ar waith yn effeithiol a’u cynnal.
Dros y pedwar mis diwethaf, mae arolwg y Rhwydwaith wedi’i gyflwyno i bob ysgol gynradd yng Nghymru.
Mae cefnogaeth benigamp ysgolion cynradd yng Nghymru wedi creu argraff fawr arnom, ynghyd â’u gwaith caled i wneud yn siŵr ein bod wedi clywed gan gynifer o ddysgwyr â phosibl. Fe wnaeth dros 600 o ysgolion gymryd rhan.
Rwy’ wrth fy modd bod cynifer o ysgolion cynradd wedi cymryd rhan yn arolwg 2024, gan alluogi’r Rhwydwaith i gefnogi ymdrechion gwella iechyd cyhoeddus ledled Cymru trwy ddarparu data y gellir gweithredu arno, am iechyd a lles dysgwyr.
Un o gryfderau allweddol data’r Rhwydwaith yw ei fod yn darparu tystiolaeth ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, gan alluogi ysgolion i nodi anghenion iechyd a lles dysgwyr a thargedu camau gweithredu priodol.
Mae’r Rhwydwaith yn cyflawni effeithiau yn y byd go iawn, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gam nesaf ein gwaith gyda’n gilydd, pan fydd canfyddiadau arolwg hydref 2024 yn cael eu rhyddhau yng ngwanwyn 2025.
Meddai’r Athro Simon Murphy, Simon Murphy, Athro Ymyriadau Cymdeithasol ac Iechyd, Cyfarwyddwr DECIPHer a’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion
Mae’n bleser gennyn ni gyhoeddi lansiad Adroddiad Holiadur Amgylchedd Ysgolion (SEQ) y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion (SHRN) 2023. Mae’r adroddiad hwn yn cynnig cipolwg gwerthfawr i sut mae polisïau ysgolion—megis arweinyddiaeth, ethos, ac ymgysylltu â’r gymuned—yn effeithio ar iechyd a lles disgyblion.
Mae’n bleser gennyn ni gyhoeddi lansiad Adroddiad Holiadur Amgylchedd Ysgolion (SEQ) y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion (SHRN) 2023. Mae’r adroddiad hwn yn cynnig cipolwg gwerthfawr i sut mae polisïau ysgolion—megis arweinyddiaeth, ethos, ac ymgysylltu â’r gymuned—yn effeithio ar iechyd a lles disgyblion.