Categori: Flog
Mae’n bleser gennym adrodd bod dros hanner ein hysgolion cynradd cofrestredig SHRN wedi cwblhau’r Holiadur Amgylchedd yr Ysgol. Mae’r gamp hon yn adlewyrchu eich ymrwymiad i wella iechyd a lles eich dysgwyr.
Trwy lenwi Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr ac Arolwg Amgylchedd yr Ysgol y Rhwydwaith, mae ysgolion cynradd nid yn unig yn ychwanegu at eu harferion mewnol, maent hefyd yn cyfrannu at ddealltwriaeth ehangach o iechyd a lles mewn addysg. Mae’r dull deuol hyn yn meithrin amgylchedd iachach, mwy cefnogol, i bob dysgwr.
Diolch i bob ysgol am gymryd rhan ac am eich ymrwymiad i greu amgylchedd dysgu cadarnhaol. Gyda’n gilydd, rydym ni’n gwneud gwahaniaeth!
Yn achos ysgolion cynradd cofrestredig sydd heb lenwi Arolwg Amgylchedd yr Ysgol ac Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith eto, dyma’ch atgoffa am rai o fuddion allweddol gwneud hynny:
1. Dealltwriaeth Gynhwysfawr o Anghenion Dysgwyr
- Cipolygon cyfannol: Trwy gasglu data o’r ddau arolwg, gall eich ysgol ennill golwg gynhwysfawr ar iechyd a lles eich dysgwyr, ac amgylchedd cyffredinol yr ysgol. Mae hyn yn eich helpu i nodi meysydd penodol sydd angen sylw.
Hefyd, gall tîm y Rhwydwaith ddadansoddi’r berthynas rhwng polisïau/ymarfer yr ysgol a deilliannau dysgwyr yn anhysbys, a rhannu’r hyn a ddysgwn am ddulliau effeithiol posibl gydag ysgolion er mwyn datblygu digwyddiadau cyfnewid gwybodaeth, fel ein cyfres gweminarau.
2. Gwneud Penderfyniadau Gwybodus
- Polisïau wedi’u gyrru gan ddata: Mae’r cipolygon a geir o’r arolygon hyn yn galluogi eich ysgol i wneud penderfyniadau gwybodus am fentrau iechyd a lles, gan sicrhau bod polisïau wedi’u teilwra i anghenion gwirioneddol eich dysgwyr.
3. Ymgysylltu’n Well â Dysgwyr
- Grymuso: Gall cynnwys dysgwyr ym mhroses yr arolwg eu grymuso, gan wneud iddynt deimlo o bwys a’u bod yn cael eu clywed, gan arwain at fwy o ymgysylltu â gweithgareddau a mentrau eich ysgol.
4. Gwell Deilliannau Iechyd
- Ymyriadau Targedig: Gall y data helpu eich ysgol i weithredu rhaglenni iechyd a lles targedig sy’n mynd i’r afael â materion penodol, fel iechyd meddwl, maeth a gweithgarwch corfforol – gan wella dysgwyr a lles yn y pen draw.
5. Meincnodi a Chymharu
- Safonau Cenedlaethol: Gallwch gymharu canlyniadau eich ysgol â data cenedlaethol, gan ganiatáu i chi feincnodi eich perfformiad a nodi arferion gorau mewn ysgolion eraill.
6. Cefnogaeth ar gyfer Arolygiadau ac Atebolrwydd
Tystiolaeth ar gyfer Arolygiadau Estyn: Mae llenwi’r ddau arolwg yn cynnig tystiolaeth werthfawr ar gyfer arolygiad eich ysgol, gan ddangos ymrwymiad i iechyd a lles dysgwyr. At hynny, mae partneriaeth y Rhwydwaith ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn galluogi eich data o’r Rhwydwaith i gael ei wreiddio fel rhan o ysgol sy’n hybu iechyd.
7. Cynllunio a Datblygu Hirdymor
- Arferion Cynaliadwy: Gall y data a gasglwyd lywio strategaethau hirdymor ar gyfer gwella polisïau ac arferion eich ysgol, gan sicrhau bod iechyd a lles yn aros yn flaenoriaeth yng nghynlluniau datblygu eich ysgol.
Yn fyr, gall ysgolion cynradd cofrestredig sy’n llenwi’r Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr ac Arolwg Amgylchedd yr Ysgol y Rhwydwaith ddatgloi amrywiaeth o fuddion sy’n ychwanegu at eu hamgylchedd addysgol a chefnogi datblygiad eu dysgwyr.
Darllenwch fwy am Holiadur Amgylchedd yr Ysgol [MB1]
Yn nhirlun addysg heddiw, mae iechyd a lles dysgwyr yn bwysicach nag erioed. Dyma Maria Boffey, Rheolwr Cyfnewid Gwybodaeth a Materion Allanol y Rhwydwaith, yn pwysleisio sut mae ateb Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr a Holiadur Amgylchedd yr Ysgol, y Rhwydwaith yn rhoi cipolygon amhrisiadwy i ysgolion sydd nid yn unig yn gwella’u harferion mewnol, ond hefyd yn cyfrannu at ddealltwriaeth ehangach o iechyd a lles ar draws Cymru. Yn y blog hwn, mae Maria yn archwilio buddion sylweddol arolygon y Rhwydwaith i ysgolion a sut gallant drawsnewid yr amgylchedd addysgol er gwell.
Datgloi Dirnadaeth ar gyfer Iechyd a Lles
Trwy gymryd rhan yn arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr a Holiadur Amgylchedd yr Ysgol y Rhwydwaith, mae ysgolion cynradd nid yn unig yn gwella’u harferion mewnol, ond hefyd yn cyfrannu at ddealtlwriaeth ehangach o iechyd a lles mewn addysg. Mae’r dull deuol hwn yn meithrin amgylchedd iachach, mwy cefnogol i bob dysgwr.
Y buddion allweddol i ysgolion sy’n cymryd rhan yn arolwg y Rhwydwaith yw:
1. Dealltwriaeth Gynhwysfawr o Anghenion Dysgwyr
- Cipolygon cyfannol: Trwy gasglu data o’r ddau arolwg, gall eich ysgol ennill golwg gynhwysfawr ar iechyd a lles eich dysgwyr, ac amgylchedd cyffredinol yr ysgol. Mae hyn yn eich helpu i nodi meysydd penodol sydd angen sylw.
Yn ogystal, gall tîm y Rhwydwaith ddadansoddi’r berthynas rhwng polisïau/ymarfer yr ysgol a deilliannau dysgwyr yn anhysbys, a rhannu’r hyn a ddysgwn am ddulliau effeithiol posibl gydag ysgolion er mwyn datblygu digwyddiadau cyfnewid gwybodaeth, fel ein cyfres gweminarau.
2. Gwneud Penderfyniadau Gwybodus
- Polisïau wedi’u gyrru gan ddata: Mae’r cipolygon a geir o’r arolygon hyn yn galluogi eich ysgol i wneud penderfyniadau gwybodus am fentrau iechyd a lles, gan sicrhau bod polisïau wedi’u teilwra i anghenion gwirioneddol eich dysgwyr.
3. Ymgysylltu’n Well â Dysgwyr
- Grymuso: Gall cynnwys dysgwyr ym mhroses yr arolwg eu grymuso, gan wneud iddynt deimlo o bwys a’u bod yn cael eu clywed, gan arwain at fwy o ymgysylltu â gweithgareddau a mentrau eich ysgol.
4. Gwell Deilliannau Iechyd
- Ymyriadau Targedig: Gall y data helpu eich ysgol i weithredu rhaglenni iechyd a lles targedig sy’n mynd i’r afael â materion penodol, fel iechyd meddwl, maeth a gweithgarwch corfforol – gan wella dysgwyr a lles yn y pen draw.
5. Meincnodi a Chymharu
- Safonau Cenedlaethol: Gallwch gymharu canlyniadau eich ysgol â data cenedlaethol, gan ganiatáu i chi feincnodi eich perfformiad a nodi arferion gorau mewn ysgolion eraill.
6. Cefnogaeth ar gyfer Arolygiadau ac Atebolrwydd
Tystiolaeth ar gyfer Arolygiadau Estyn: Mae llenwi’r ddau arolwg yn cynnig tystiolaeth werthfawr ar gyfer arolygiad eich ysgol, gan ddangos ymrwymiad i iechyd a lles dysgwyr. At hynny, mae partneriaeth y Rhwydwaith ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn galluogi eich data o’r Rhwydwaith i gael ei wreiddio fel rhan o ysgol sy’n hybu iechyd.
7. Cynllunio a Datblygu Hirdymor
- Arferion Cynaliadwy: Gall y data a gasglwyd lywio strategaethau hirdymor ar gyfer gwella polisïau ac arferion eich ysgol, gan sicrhau bod iechyd a lles yn aros yn flaenoriaeth yng nghynlluniau datblygu eich ysgol.
Yn fyr, gall ysgolion cynradd cofrestredig sy’n llenwi’r Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr ac Arolwg Amgylchedd yr Ysgol y Rhwydwaith ddatgloi amrywiaeth o fuddion sy’n ychwanegu at eu hamgylchedd addysgol a chefnogi datblygiad eu dysgwyr.
Darllenwch fwy am Holiadur Amgylchedd yr Ysgol ac ymunwch â ni i gael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles mewn addysg!
Ymunwch â’r Drafodaeth!
Byddem wrth eich bodd yn clywed eich barn! Rhannwch eich cipolygon, eich profiadau neu eich arferion arloesol sy’n gysylltiedig â mentrau iechyd a lles yn eich ysgol. Boed yn hanes llwyddiant, yn ddull unigryw, neu’n heriau a wyneboch, gall eich cyfraniad ysbrydoli pobl eraill a meithrin cymuned gydweithredol.
Os byddai ysgrifennu post fel gwestai o ddiddordeb i chi, e-bostiwch Maria Boffey. Gyda’n gilydd, gallwn greu deialog sy’n hyrwyddo amgylcheddau dysgu hapusach ac iachach i bob dysgwr!
Pam ddylai ysgolion cynradd gofrestru i gymryd rhan yng nghasgliad data 2024 y Rhwydwaith?
Mae’r Rhwydwaith wedi dod yn rhan unigryw ac amhrisiadwy o’r seilwaith iechyd a lles addysg yng Nghymru. Mae ein partneriaeth strategol gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac integreiddio â Rhwydwaith Ysgolion Cymru sy’n Hybu Iechyd a Lles (WNHWPS), ynghyd â buddsoddiad sylweddol a pharhaus gan Lywodraeth Cymru, wedi galluogi’r Rhwydwaith i dyfu’n rhwydwaith cenedlaethol o ymchwil a gwerthuso.
Mae mwy na tri deg o bolisïau a strategaethau Llywodraeth Cymru yn enwi bod y Rhwydwaith yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno a gwerthuso agendâu ac ymyriadau polisi iechyd a lles. Mae’r rhain yn cynnwys y Dull Ysgol Gyfan ar gyfer Iechyd a Llesiant Meddyliol (2021) ac Adroddiad Iach a Hapus (2019) Estyn.
I ddysgu rhagor am fuddion niferus y Rhwydwaith, darllenwch ein llyfryn gwybodaeth i ysgolion cynradd a’n llyfryn llwyddiant ysgolion ac effaith.
A yw’r data sy’n cael ei gasglu gan arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith yn anhysbys?
Ydyw. Nid yw’r arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr yn casglu data personol adnabyddadwy. Mae’r rhwydwaith yn cynnwys dynodwyr anuniongyrchol fel Oedran, Rhywedd, Blwyddyn enedigol, Ethnigrwydd a lleoliad daearyddol, ond byddai’n anodd tu hwnt defnyddio’r data hwn i ddarganfod pwy yw rhywun a gymerodd ran yn yr arolwg o blith y miloedd o blant a phobl ifanc sy’n cymryd rhan.
Pam mae data anhysbys y Rhwydwaith mor bwysig?
Wrth archwilio anghenion iechyd a lles eich ysgol, mae’n bwysig treulio amser yn ystyried anghenion eich cymuned ysgol gyfan. Mae’r dull hwn yn sicrhau bod polisi ac ymarfer yn cefnogi ac yn meithrin dysgwyr, staff a chymuned ehangach yr ysgol. Bydd y dull hwn hefyd yn helpu i adeiladu cyfalaf cymdeithasol ar draws yr ysgol.
Mae data anhysbys arolwg y Rhwydwaith yn amddiffyn preifatrwydd, gan rymuso ysgolion cynradd i wella iechyd a lles eu dysgwyr.
Mae’r Rhwydwaith a’i ddata anhysbys wedi dod yn rhan unigryw ac amhrisiadwy o’r seilwaith iechyd a lles addysg yng Nghymru ac, at hynny, nid yw’n costio ceiniog i ysgolion cynradd ac uwchradd.
Beth yw buddion penodol casglu a defnyddio data anhysbys y Rhwydwaith?
Mae llawer o fuddion, gan gynnwys…
Gellir cadw data’r Rhwydwaith bob blwyddyn a bydd ganddo werth parhaus at ddibenion ymchwil.
Enghraifft o hyn fyddai defnyddio’r data i helpu deall newid dros gyfnod yn iechyd a lles plant a phobl ifanc trwy gyfuno data anhysbys blaenorol a dilynol arolwg y Rhwydwaith. Trwy ddadansoddi tueddiadau a phatrymau, gall ysgolion nodi meysydd o bryder, teilwra cymorth yn unol â hynny a gwerthuso’u cynnydd.
Gellir meincnodi canfyddiadau Arolwg y Rhwydwaith yn erbyn canfyddiadau cenedlaethol i ddarparu cyd-destun ehangach a chymhariaeth i ganfyddiadau lefel ysgol. .
Mae ein data’n chwarae rhan allweddol mewn cynllunio cenedlaethol, rhanbarthol a lleol, ynghyd â dylanwadu ar ymchwil a pholisïau’r Deyrnas Unedig gyfan a rhyngwladol.
Gellir rhannu data Lefel Ysgol y Rhwydwaith gyda staff addysg, dysgwyr, llywodraethwyr ysgol, rhieni/gofalwyr, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Estyn i sicrhau bod pawb yn gallu cymryd rhan yn y trafodaethau am iechyd a lles plant a phobl ifanc
Mae’n helpu i ddatblygu diwylliant ysgol o ymyrryd a newid. Hefyd, mae’n cynrychioli dull pwysig i ddysgwyr allu dylanwadu ar weledigaeth a darpariaeth gwasanaethau ac ymarfer sy’n effeithio ar eu hiechyd, eu lles, eu cyrhaeddiad a’u cyfleoedd mewn bywyd yn y dyfodol.
O’i ddefnyddio ar y cyd â Holiadur Amgylchedd yr
Ysgol, mae data’r Rhwydwaith yn darparu tystiolaeth ddefnyddiol ar gyfer adnabod angen a gosod blaenoriaethau iechyd a lles i ategu gwelliant ysgolion.
Mae Holiadur Amgylchedd yr Ysgol yn caniatáu am ymchwilio i berthnasoedd rhwng polisïau ysgolion (e.e. arweinyddiaeth yr ysgol; ethos yr ysgol; yr amgylchedd; dysgu’r Cwricwlwm; ymgysylltu â’r teulu a’r gymuned) a’u hymarfer, a deilliannau iechyd myfyrwyr. O’i ddefnyddio ar y cyd ag Arolwg Ymchwil Iechyd Ysgolion y Rhwydwaith, mae’n rhoi cyfle unigryw i ysgolion asesu iechyd a lles dysgwyr yng nghyd-destun polisïau ac ymarfer eu hysgol. Hefyd, mae’n cwmpasu amrywiaeth o bynciau iechyd emosiynol a chorfforol i adlewyrchu Dull Ysgol Gyfan ar gyfer Iechyd a Lles a’r Cwricwlwm i Gymru.
Mae anhysbysrwydd data’r Rhwydwaith yn helpu ysgolion i werthuso’n wrthrychol, gan gynnig fframwaith ar gyfer cymhwyso cyffredinol.
Mae arolygon eraill nad ydynt yn anhysbys yn dewis ac yn mesur mesurau lles penodol fel emosiwn cadarnhaol, gan nodi pwy yw dysgwyr ar yr un pryd. Gall meintioli profiadau goddrychol o’r fath fod yn heriol, gan ei gwneud hi’n anodd dewis graddfeydd ymateb priodol ac asesu cynnydd ysgol gyfan yn gywir. Yn ogystal, o ganlyniad i ddiffyg anhysbysrwydd, gall dysgwyr weithiau osgoi rhoi atebion gonest i’r arolwg neu gymryd rhan mewn casglu data.
Mae anonymeiddio yn cyfyngu ar risgiau diogelu data ac
mae’n galluogi gwybodaeth i gael ei ryddhau i sefydliadau eraill, neu i gymunedau iechyd ac addysg ehangach ar draws Cymru
Yn gyffredinol, mae’n haws datgelu gwybodaeth anhysbys na data personol gan fod llai o gyfyngiadau cyfreithiol yn berthnasol. Hefyd, mae’n haws defnyddio gwybodaeth anhysbys mewn ffyrdd newydd a gwahanol, gan nad yw’r rheolau diogelu data yn berthnasol i ddata sydd wedi’i anonymeiddio’n gywir. Gellir rhannu canlyniadau o’r data yn eang mewn adroddiadau i ysgolion, awdurdodau lleol, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Estyn, consortia a Llywodraeth Cymru, a’u cyhoeddi mewn cyfnodolion gwyddonol, hefyd. Gellir eu defnyddio hefyd i gefnogi rhaglenni gwaith mewn clystyrau ysgolion.
Yn olaf, unrhyw negeseuon i’r ysgolion cynradd hynny sy’n ystyried cofrestru i gymryd rhan yng nghasgliad data 2024 y Rhwydwaith mewn ysgolion cynradd?
Mae cofrestru ar gyfer casgliad data 2024 y Rhwydwaith mewn ysgolion cynradd yn cau ar 19 Gorffennaf, felly byddwn ni’n annog pawb sydd heb gofrestru eto i wneud hynny’n gyflym fel na fyddant yn colli allan ar y buddion unigryw sydd gan y Rhwydwaith i’w cynnig.