Yn yr astudiaeth achos hon, mae Huw Eifion Evans, Cydlynydd Ysgolion Iach Conwy, yn dangos sut gall ffeithluniau gyfleu cipolygon yn effeithiol o ddata’r Rhwydwaith i gynulleidfa ehangach. Trwy ddefnyddio’r offer gweledol hyn, caiff canfyddiadau allweddol eu rhannu gyda dysgwyr, staff, rhieni/gofalwyr a llywodraethwyr ysgol, gan feithrin dealltwriaeth ddyfnach o iechyd a lles ar draws cymuned yr ysgol.
Cyflwyniad i Ddefnyddio Ffeithluniau Data’r Rhwydwaith
Mae tîm Conwy wedi creu ffeithluniau i helpu ysgolion uwchradd i gyflwyno data o Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith mewn ffordd hygyrch a diddorol i bawb yng nghymuned yr ysgol.
Trwy ddefnyddio ffeithluniau a phecynnau sleidiau (casgliad o sleidiau a ddefnyddir i gefnogi cyflwyniad, fel MS PowerPoint), caiff data cymhleth ei weddnewid yn fformatau sy’n apelgar yn weledol ac yn hawdd eu deall. Trwy hyn, mae’n symlach i ystod ehangach o randdeiliaid ddirnad cipolygon allweddol a nodi tueddiadau yn iechyd a lles dysgwyr.
Defnyddio Data’r Rhwydwaith: Cipolygon Manwl i Iechyd a Lles Myfyrwyr
Mae Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith yn cynnig trosolwg cynhwysfawr o iechyd a lles myfyrwyr, gan gwmpasu pynciau sy’n cynnwys gweithgarwch corfforol, cwsg, cyfryngau cymdeithasol a defnyddio sylweddau. Mae ysgolion o’r farn bod eu hadroddiadau, a addasir yn unigol, yn hynod addysgiadol, gan roi data manwl a chyfoethog sy’n cynnig cipolygon gwerthfawr.
Mae ysgolion yn gwerthfawrogi ehangder a dyfnder eu data gan y Rhwydwaith yn fawr. Er bod timau iechyd a lles ysgolion yn canolbwyntio i ddechrau ar ddeall hyd a lled llawn y canfyddiadau, maent yn cydnabod hefyd y cyfle i amlygu negeseuon allweddol a chyflwyno’r data mewn ffyrdd sy’n gwneud y mwyaf o effaith y Rhwydwaith ar draws ysgolion.
Gwneud Cyfathrebu’n Haws gyda Ffeithluniau a Phecynnau Sleidiau
Mae ffeithluniau’r Rhwydwaith, ynghyd â phecyn sleidiau (e.e. MS PowerPoint), yn helpu ysgolion i gyfleu data allweddol yn effeithiol mewn gwasanaethau, cyfarfodydd, gwersi ac ar draws amgylchedd yr ysgol. Mae hyn yn sicrhau bod cipolygon pwysig yn cael eu rhannu’n glir ac yn ddifyr, gan ei gwneud hi’n haws i bawb ddeall a gweithredu ar yr hyn a welant.
Buddion Defnyddio Ffeithluniau
Ers cyflwyno ffeithluniau yn ysgolion uwchradd Conwy, mae’r ymgysylltiad â data’r Rhwydwaith wedi cynyddu’n sylweddol.
O ganlyniad i’r ffeithluniau a’r pecyn sleidiau, mae’n haws ymhél â’r data, gan danio chwilfrydedd a sgwrs ymhlith staff a dysgwyr. Mae’r ymgysylltiad hwn yn hybu dealltwriaeth ysgol gyfan o iechyd a lles dysgwyr.
Yn ogystal, mae’r ffeithluniau wedi annog ysgolion i barhau i gymryd rhan yn Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith, gan gydnabod gwerth y data i gipolygon i iechyd a lles ar draws yr ysgol.
Sut Creom ni’r Ffeithluniau
Trwy gael ein harwain gan egwyddorion dylunio da sy’n canolbwyntio ar eglurder, symlrwydd ac ymarferoldeb, roeddem yn anelu at arddull lân a hygyrch. Defnyddiom ffontiau uchel eu cyferbynnedd a chymysgedd o siartiau, eiconau a graffiau i wneud y data’n hawdd ei ddeall ac yn apelgar yn weledol i bawb.
Dewisom siartiau cylch ac eiconau gan eu bod yn cyflwyno ystadegau yn glir ac yn ddiddorol. Helpodd adborth gan arweinwyr iechyd a lles mewn ysgolion i ni fireinio’r dyluniad i sicrhau ei fod yn berthnasol ac yn hawdd ei ddefnyddio. Hefyd, cynhwysom logo a brandio pob ysgol fel bod y deunydd yn teimlo’n gyfarwydd ac i feithrin ymdeimlad o berchnogaeth.
Mae llawer o offer dylunio hawdd eu defnyddio, rhad ac am ddim, ar gael i greu ffeithluniau, fel:
Adobe Color: Offeryn i greu cynlluniau lliw.
Canva: Platfform dylunio graffeg hawdd ei ddefnyddio.
Flat Icon: Adnodd eiconau am ddim.
Google Slides: Offeryn cyflwyno y gellir ei ddefnyddio i ddylunio ffeithluniau.
Sut mae Ysgolion yn Defnyddio Ffeithluniau
Mae ysgolion uwchradd Conwy wedi defnyddio’r ffeithluniau yn greadigol mewn ffyrdd gwahanol:
Llywio’r Cwricwlwm newydd i Gymru: Datblygiad a chynlluniau gwersi.
Gwreiddio data’r Rhwydwaith: Yn Fframwaith Dull yr Ysgol Gyfan ar gyfer Iechyd Meddwl a Lles.
Cefnogi Cynghorau Dysgwyr: Darparu data gwerthfawr ar gyfer trafodaethau a mentrau.
Arddangos o gwmpas yr ysgol: Mewn ardaloedd allweddol fel ystafelloedd staff, hysbysfyrddau a choridorau.
Cyflwyniadau: I lywodraethwyr ysgol ac yn ystod gwasanaethau dysgwyr.
Rhannu gyda Rhieni/Gofalwyr: Trwy’r cyfryngau cymdeithasol a chylchlythyron.
Ystyriaethau allweddol i’w cofio wrth ddefnyddio ffeithluniau
Dyfnder yr Ymgysylltiad: Ni ddylai ysgolion ddibynnu ar ffeithluniau yn unig, dylent archwilio’r set ddata lawn i gael dealltwriaeth gyflawn o’u tirlun iechyd a lles. Mae defnyddio ffeithluniau fel mynedfa i ddata’r Rhwydwaith yn helpu cymuned gyfan yr ysgol i adnabod eu pwysigrwydd, gan annog archwilio’r set ddata gyflawn ymhellach.
Cyd-gynhyrchu â Dysgwyr: Gall cynnwys dysgwyr wrth greu ffeithluniau eu grymuso i gymryd perchnogaeth ar y wybodaeth sy’n cael ei rhannu. Mae cyfranogiad gweithgar yn helpu dysgwyr i ddeall pynciau iechyd a lles yn well, gan eu hannog nhw i feddwl yn feirniadol am y data. Hefyd, mae’n gwneud yn siŵr bod y ffeithlun yn berthnasol ac yn cysylltu â dysgwyr eraill.
Casgliad
Mae defnyddio ffeithluniau wedi cynyddu diddordeb yn nata’r Rhwydwaith a’r ddealltwriaeth ohono yn fawr ar draws cymuned yr ysgol. Mae’r prosiect hwn yn dangos pa mor effeithiol y gall offer dysgu gweledol fod wrth gael pawb i gymryd rhan.
Wrth edrych tua’r dyfodol, bydd Conwy yn gwneud mwy o ddefnydd ar ffeithluniau i helpu athrawon a dysgwyr i ddefnyddio data mewn ffyrdd diddorol. Maen nhw hefyd yn archwilio offer digidol newydd i wella dysgu, gwaith tîm, meddwl yn greadigol a chreadigrwydd. Trwy offer o’r fath, mae’n haws cael at wybodaeth ac mae’n fwy defnyddiol i bawb yn yr ysgol a thu hwnt.
Darllenwch flog i’r Rhwydwaith a ysgrifennwyd gan Huw Eifion Evans, Ffeithluniau: Gwneud Data yn Hygyrch ac yn Ddiddorol i Gynulleidfaoedd Ehangach