Awdur: SHRN
Yn y byd sydd ohoni, sy’n gyfoethog o ran gwybodaeth, mae ffeithluniau’n adnodd grymus ar gyfer gweddnewid data cymhleth yn ddarluniau diddorol sy’n taro deuddeg gyda chynulleidfaoedd amrywiol, gan wneud data yn fwy hygyrch. Yn y blog hwn, mae Huw Eifion Evans, Cydlynydd Ysgolion Iach Conwy, yn rhannu ei Ddeg Awgrym Gorau ar gyfer defnyddio ffeithluniau i ddod â chipolygon o ddata’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn fyw.
P’un a ydych chi’n anelu at gyfleu canfyddiadau allweddol i ddysgwyr, staff, rhieni/gofalwyr neu lywodraethwyr ysgol, gall y syniadau hyn helpu i sicrhau bod data’r Rhwydwaith yn cael effaith ac yn hawdd ei ddeall.
Difyrru a Hysbysu: 10 Awgrym am Ffeithluniau Dynamig gan y Rhwydwaith
1. Llai, ond Gwell
Diffiniwch amcan clir i’ch ffeithlun a chyfyngu eich cynnwys i hyn. Er bod ychwanegu mwy o liwiau, testun a manylion yn demtasiwn, gall gormod o wybodaeth wneud i’r dyluniad edrych yn flêr a chuddio’ch neges graidd.
2. Creu Trefn Glir a Chyson
Trefnwch wybodaeth yn rhesymegol, gan rannu data yn adrannau i osgoi llethu’r sawl sy’n edrych arno. Gall strwythur grid neu golofnau sicrhau ei bod hi’n hawdd edrych dros y dyluniad.
3. Cofleidio Hierarchaeth Weledol
Defnyddiwch ffontiau, lliwiau a meintiau gwrthgyferbyniol i dynnu sylw at y rhannau pwysicaf o’r ffeithlun. Mae canrannau mewn print bras, eiconau neu amlygu ffigurau yn helpu i bwysleisio canfyddiadau allweddol.
4. Dewis y Data Perthnasol
Dewiswch bwyntiau data a fydd yn taro deuddeg gyda’ch cynulleidfa. Er enghraifft, os ydych chi’n mynd i’r afael â deilliannau iechyd meddwl, amlygwch ystadegau allweddol sy’n cyd-fynd â’r pwnc hwn.
5. Blaenoriaethu Lliwiau a Ffontiau Hygyrch
Sicrhewch fod eich ffeithlun yn gynhwysol trwy ddewis ffontiau y gallwch eu darllen a lliwiau â chyferbynnedd uchel. Mae hyn yn gwella hygyrchedd i unigolion ag amhariad ar y golwg ac yn peri bod y dyluniad yn apelio i bawb sy’n edrych arno. Anelwch at ffont sydd â maint hawdd ei ddarllen, hyd yn oed ar sgriniau llai.
6. Defnyddio Eiconau a Delweddau yn Effeithiol
Cynhwyswch eiconau, darluniadau neu graffigwaith syml i gynrychioli categorïau data. Gall darluniadau ei gwneud hi’n haws uniaethu â chynnwys a’i gofio, yn enwedig i gynulleidfa iau a all ffafrio darluniadau yn hytrach na gwybodaeth gyda llawer o destun. Er enghraifft, mae’n haws uniaethu â data cysylltiedig ag iechyd pan fydd eicon calon yn amlygu’r wybodaeth.
7. Testun Cryno
Cyfyngwch destun i ddisgrifiadau neu ymadroddion byr i gadw’r ffocws ar y darluniadau. Defnyddiwch bwyntiau bwled neu frawddegau byr yn lle paragraffau hir. Mae hyn yn cadw’r ffocws ar ddarluniadau ac, felly mae’n haws deall y wybodaeth. Anelwch at eglurder yn eich disgrifiadau. Defnyddiwch y gweithredol ac iaith ddifyr i gynnal diddordeb. Mae defnyddio ymadroddion fel “Darganfyddwch sut …” neu “Dysgwch pam …” yn gallu denu sylw’ch darllenwyr.
8. Arbrofi â Graffiau a Siartiau
Ystyriwch wahanol arddulliau siart – siartiau bar, siartiau cylch neu graffiau – ar sail y math o ddata. Rhoi prawf ar amrywiol fformatau fydd yn cyfleu stori eich data orau.
9. Cynnwys Galwad Clir i Weithredu
Rhowch arweiniad ar beth allant ei wneud gyda’r wybodaeth i’r sawl sy’n edrych arni. P’un a yw hynny’n ymuno â thrafodaeth, cefnogi menter ysgol, neu fyfyrio ar y canfyddiadau, gall galwad i weithredu olygu bod mwy o allu i weithredu ar eich data.
10. Gwahodd Adborth ac Annog Rhannu
Gwahoddwch eich cynulleidfa i ymddiddori yn y ffeithlun a’i rannu, gan groesawu eu hadborth. Gall hyn arwain at gipolygon newydd a chryfhau eu cysylltiad â’r data a nodau’r ysgol. Hyrwyddwch ddata’r Rhwydwaith trwy gynnwys botymau cyfryngau cymdeithasol neu godau QR sy’n ei gwneud hi’n hawdd i’r sawl sy’n edrych arno rannu’r ffeithlun gyda’u rhwydweithiau. Gall annog rhannu ymestyn eich cyrhaeddiad a’ch effaith.
Creu Ffeithlun yn Hawdd: Offer ac Adnoddau Defnyddiol
Adobe Colour
Canva
Flat Icon
QR Monkey
(Sylwch – hoffwn egluro nad yw cyfeiriadau at y feddalwedd uchod yn gymeradwyaeth. Yn hytrach, rwy’n rhannu eitemau rwy’ wedi’u defnyddio’n bersonol ac sydd wedi bod yn effeithiol. Fy amcan yw cynnig cipolygon dilys ar sail fy mhrofiadau fy hun).
I gloi
Trwy ddilyn y syniadau hyn, gall data’r Rhwydwaith gael ei weddnewid ymhellach yn gipolygon gwerthfawr sy’n cefnogi iechyd a lles ar draws cymunedau ysgolion a chynulleidfaoedd ehangach. Mae ffeithluniau yn fwy na dim ond cynrychioliadau gweledol o ddata’r Rhwydwaith; maen nhw’n ffordd rymus o adrodd stori sy’n gallu pontio’r bwlch rhwng gwybodaeth gymhleth a dealltwriaeth y cyhoedd. Wrth i chi ddechrau ar eich taith creu ffeithlun, mae’n bwysig cadw’ch cynulleidfa mewn cof wrth wneud eich penderfyniadau dylunio.
A ydych chi wedi creu ffeithluniau ar gyfer eich data chi gan y Rhwydwaith? A ydyn nhw’n gwneud gwahaniaeth yn y ffordd y mae dysgwyr a chymuned ehangach yr ysgol yn ymwneud â’r data? Byddem wrth ein bod yn darganfod rhagor!
Rhannwch eich profiadau trwy e-bostio Rheolwr Ymgysylltu’r Rhwydwaith, Charlotte Wooders.
Mae gweithgarwch corfforol ymhlith disgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru wedi cynyddu, gan wrthdroi dirywiad a ddechreuodd yn 2017. Mae bellach yn debyg i lefelau cyn y pandemig, yn ôl data newydd ar ddisgyblion yng Nghymru o ganlyniadau arolwg iechyd a llesiant y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion (SHRN) a ryddhawyd heddiw.
Mae’r arolwg SHRN sy’n canolbwyntio ar Gymru yn un o’r arolygon mwyaf o ddisgyblion ysgol yn y DU. Bob dwy flynedd mae’n gofyn cwestiynau ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys llesiant meddyliol, defnyddio sylweddau a bywyd ysgol. Cafodd yr arolwg diweddaraf ei gwblhau gan bron 130,000 o ddysgwyr ym mlynyddoedd 7 i 11, mewn 200 o ysgolion uwchradd a gynhelir ledled Cymru.
Mae SHRN yn gydweithrediad rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru, Prifysgol Caerdydd a Llywodraeth Cymru. Mae’r canlyniadau wedi’u cynnwys fel rhan o ddiweddariad newydd i’r Dangosfwrdd Iechyd a Lles Plant Ysgolion Uwchradd , sef offeryn hawdd ei ddefnyddio sy’n galluogi defnyddwyr fel ysgolion, y llywodraeth ac awdurdodau lleol i edrych ar ffigurau o arolygon SHRN dros amser. Mae’r dangosfwrdd yn galluogi defnyddwyr i archwilio’r data yn ôl rhanbarthau gwahanol, oedrannau, rhywedd a chyfoeth teulu, gan roi cyfle i nodi tueddiadau ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru.
Roedd bron chwarter y bechgyn (23 y cant) wedi bodloni canllaw cenedlaethol y Prif Swyddogion Meddygol ar gyfer o leiaf 60 munud o weithgarwch corfforol bob dydd, sef cynnydd o gymharu â 21 y cant yn 2019 a 2021. Ymhlith merched, roedd 14 y cant yn bodloni’r canllawiau presennol, ac er bod hyn yn isel, mae wedi gwella o gymharu â 12 y cant yn 2021.
Roedd yr arolwg hefyd yn edrych ar brofiadau pobl ifanc o fwlio. Dywedodd bron 38 y cant o bobl ifanc eu bod wedi cael eu bwlio yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, sef cynnydd o gymharu â 32 y cant yn 2021. Mae’r canlyniadau yn uwch nag erioed o’r blaen yn yr arolwg gyda mwy na 40 y cant o ferched yn cael eu bwlio o gymharu â thros 30 y cant o fechgyn.
Canfyddiadau eraill:
Datgelodd y ffigurau hefyd wahaniaeth sylweddol rhwng y disgyblion hynaf a’r ieuengaf, gan fod bron un o bob pedwar o blant 11 oed (23 y cant) yn bodloni’r canllawiau gweithgarwch corfforol o gymharu â llai nag un o bob wyth o blant 16 oed (13 y cant). Felly, mae angen rhoi sylw penodol i annog mwy o weithgarwch corfforol ymhlith pobl ifanc (yn enwedig merched) wrth iddynt symud drwy eu harddegau.
Yn ogystal, cynyddodd y canlyniadau ar gyfer myfyrwyr sy’n ymarfer corff y tu allan i’r ysgol. Fodd bynnag, roedd gwahaniaeth sylweddol yn y canlyniadau yn ôl cyfoeth teulu; roedd bron hanner (45 y cant) y plant o deuluoedd mwy cefnog yn ymarfer corff yn egnïol y tu allan i’r ysgol bedair gwaith yr wythnos o gymharu â thraean yn unig o blant (32 y cant) o deuluoedd tlotach.
Bu gostyngiad yn nifer y bobl ifanc sy’n gallu dibynnu ar eu ffrindiau am gymorth pan fydd pethau’n mynd o chwith. Dim ond 60 y cant o bobl ifanc yn yr arolwg ddywedodd eu bod yn gallu dibynnu ar eu ffrindiau, gostyngiad o flwyddyn i flwyddyn o gymharu â 67 y cant yn 2017. Mae’r duedd hon yn arbennig o amlwg yn y grwpiau oedran hŷn, ac ymhlith bechgyn.
Dywedodd Lorna Bennett, Ymgynghorydd Gwella Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae’n galonogol iawn gweld y cynnydd cyffredinol mewn gweithgarwch corfforol ymhlith pobl ifanc oed ysgol uwchradd. Rydym yn gwybod bod gan weithgarwch corfforol fanteision sylweddol ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol, felly mae’n wych gweld bod pobl ifanc yn gwrthdroi’r dirywiad a welsom ers 2017. Mae’r data yn dangos bod pobl ifanc yn fwy egnïol yn yr ysgol a’r tu allan iddi, ac mae’n braf gweld hynny.
“Fodd bynnag, er bod croeso i’r cynnydd mewn cyfraddau gweithgarwch corfforol ac ymarfer corff, mae’n amlwg bod nifer y bobl sy’n bodloni’r canllawiau ar gyfer gweithgarwch corfforol yn parhau i fod yn isel, ac mae’n bwysig ein bod yn parhau i weithio i sicrhau bod gweithgarwch corfforol yn dod yn rhan o fywydau mwy o bobl ifanc yng Nghymru.
“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda phartneriaid cenedlaethol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru, a Cyfoeth Naturiol Cymru, i ddatblygu’r Dull Ysgol Gyfan Bywiog Bob Dydd o ran Gweithgarwch Corfforol. Nod hyn yw gwella cyfleoedd ar gyfer gweithgarwch corfforol yn ystod y diwrnod ysgol ac o’i amgylch, gan ganolbwyntio ar feysydd fel gwersi egnïol, datblygu addysg gorfforol a theithio llesol.
“Yn ogystal, mae’n peri pryder gweld bwlch amddifadedd rhwng yr ardaloedd mwyaf a lleiaf cefnog, a byddem yn gobeithio gweld hyn yn lleihau mewn arolygon yn y dyfodol.”
“Mae’n frawychus bod cyfraddau bwlio yn cynyddu ym mhob grŵp ac mewn bwlio wyneb yn wyneb ac mewn seiberfwlio. Mae’n amlwg bod grŵp sylweddol o bobl ifanc yn gorfod ymdrin â chael eu bwlio, ac rydym yn gwybod y gall hynny effeithio ar iechyd meddwl. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gydag ysgolion yng Nghymru i ymgorffori’r Dull Ysgol Gyfan o ran Llesiant Emosiynol a Meddyliol, sydd wedi’i gynllunio i helpu ysgolion i gefnogi iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc, gan gynnwys atal bwlio a mynd i’r afael ag ef”.
ASTUDIAETH ACHOS
Gan ddefnyddio data SHRN, nododd Ysgol Uwchradd Willows yng Nghaerdydd gyfle i gynyddu gweithgarwch corfforol ymhlith eu myfyrwyr a gwnaethant weithredu rhaglen barhaus o gyfoethogi bob pythefnos ar gyfer yr ysgol gyfan. Drwy weithio gyda phartneriaid lleol, busnesau, a’r myfyrwyr, mae’r ysgol bellach yn cynnig mwy na 50 o weithgareddau gwahanol ar draws amrywiaeth enfawr o feysydd ac mae wedi gweld cynnydd mewn presenoldeb yn yr ysgol, mwy o fyfyrwyr yn gwneud gweithgarwch corfforol a gwell sgiliau gweithgarwch corfforol ymhlith disgyblion.
Meddai Chris Norman, Pennaeth Ysgol Uwchradd Willows:
“Drwy ddatblygu’r rhaglen gyfoethogi rydym wedi rhoi cyfle i’n dysgwyr fod yn llai eisteddog a mabwysiadu ffordd fwy egnïol o fyw. Mae’r amrywiaeth o weithgareddau rydym yn eu cynnig wedi rhoi cyfle iddynt roi cynnig ar amrywiaeth o ffyrdd gwahanol o ymarfer corff ac ymgorffori gweithgarwch corfforol yn eu bywydau bob dydd, ac mae hyn wedi sefydlu angerdd a diddordebau newydd yn ogystal â manteision iechyd corfforol a meddyliol.
“Rydym wedi darparu sesiynau fel dringo creigiau, MMA a hunanamddiffyn, sgiliau syrcas, nofio, hyfforddiant milwrol a beicio, ymhlith llawer o fathau eraill o weithgareddau. Mae’r sesiynau cyfoethogi hefyd yn cael eu mwynhau gan staff, sydd wedi nodi eu bod wedi meithrin gwell perthnasoedd gyda dysgwyr sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol drwy’r ysgol.”
Meddai Dr Kelly Morgan, dirprwy gyfarwyddwr SHRN ym Mhrifysgol Caerdydd, sy’n goruchwylio casglu data:
“Mae SHRN bellach yn ei 11eg flwyddyn ac mae’n cynnwys pob ysgol uwchradd yng Nghymru, gan ofyn cwestiynau ar amrywiaeth o feysydd sy’n bwysig i bobl ifanc. Ein nod yw darparu data cadarn ac eang fel bod gan y rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn y sector iechyd ac addysg yr offer i ddatblygu atebion diriaethol a pharhaol. Rydym yn ddiolchgar i’r holl ysgolion a myfyrwyr sydd wedi cymryd rhan.”
Meddai Zoe Strawbridge, dadansoddwr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae gweithio ar y cyd ag SHRN a Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyfle gwych i ddatblygu dangosfwrdd rhyngweithiol, gan roi dealltwriaeth fanwl i ni o wahaniaethau rhanbarthol iechyd a llesiant pobl ifanc yng Nghymru. Edrychwn ymlaen at ddatblygu’r offeryn hwn a rhannu’r canlyniadau ar bynciau pellach dros y flwyddyn i ddod.”
Mae’r dangosfwrdd ar gael yma: