
Rydym yn falch o gyhoeddi bod diweddariad i Ddangosfwrdd Data’r Rhwydwaith ar Iechyd a Lles Ysgolion Uwchradd yn lansio ar 8 Mai!
Bydd y cyhoeddiad diweddaraf hwn yn cyflwyno bron i 30 pwnc newydd, gan gynnig cipolygon newydd i iechyd a lles dysgwyr uwchradd yng Nghymru, ar lefel ranbarthol a chenedlaethol, gyda chanlyniadau o arolwg 2023 y Rhwydwaith.
Dyma rai o’r pynciau newydd sydd wedi’u cynnwys yn y diweddariad hwn:
- Data ar fepio – Deall pa mor gyffredin yw’r defnydd o e-sigaréts ymhlith pobl ifanc.
- Defnydd problemus o’r cyfryngau cymdeithasol – Archwilio ymddygiad ar-lein myfyrwyr yng Nghymru.
- Gamblo – Bwrw golwg ar batrymau penodol o fewn grwpiau oedran penodol a rhyweddau.

Ymunwch â’n Gweminar ar 8 Mai!
I gyd-fynd â’r lansiad, bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru’n cynnal gweminar sy’n agored i bawb. Bydd y sesiwn hon yn cwmpasu:
- Trosolwg manwl o’r data newydd a’r newidiadau i’r dangosfwrdd
- Ein cynlluniau at y dyfodol i ddatblygu’r dangosfwrdd ymhellach
- Cyfle i ofyn cwestiynau i gydweithwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion

I gofrestru ar gyfer y gweminar hwn, cliciwch ar y ddolen hon. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi ar 8 Mai.
