
Mae astudiaeth ddiweddar, yn defnyddio data’r Rhwydwaith, wedi datgelu tuedd bryderus ymhlith dysgwyr uwchradd yng Nghymru. Mae’n datgelu fod amgyffredion am bwysau gwaith ysgol wedi dyblu dros y ddau ddegawd diwethaf. Mae cysylltiad agos rhwng y cynnydd hwn mewn straen academaidd â chynnydd mewn problemau emosiynol ymhlith pobl ifanc, gan godi pryderon iechyd cyhoeddus a lles.
I ddarllen mwy am yr astudiaeth hon, cliciwch yma. (Cyfnodolyn: Cyhoeddwyd yn JCPP Advances.)
Fe wnaeth yr astudiaeth, a gynhaliwyd gan ymchwilwyr yng Nghanolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc ym Mhrifysgol Caerdydd a DECIPHer, ddadansoddi data’r Rhwydwaith gan dros 300,000 o ddysgwyr uwchradd rhwng 2002 a 2021 a data o astudiaeth Ymchwil Iechyd mewn Plant Oed Ysgol (HBSC).
Datgelodd y dadansoddiad cynhwysfawr fod nifer y dysgwyr sy’n rhoi gwybod am bwysau gwaith ysgol dwys wedi bron i ddyblu ers 2009, gyda 26% yn teimlo pwysau sylweddol yn 2021. Mae effaith ar ddysgwyr benywaidd hŷn, yn arbennig.
Dywedodd Dr. Jessica Armitage, y prif ymchwilydd:
‘Mae’n bryderus gweld cynifer o bobl ifanc yng Nghymru sy’n cael eu llethu gan amgyffredion am bwysau gwaith ysgol, yn enwedig merched. Mae’n rhaid i ni ymchwilio ymhellach i pam mae’r pwysau hyn yn cynyddu. Mae deall y rhesymau sylfaenol dros y pwysau hyn yn hanfodol ar gyfer datblygu ymyriadau effeithiol i gefnogi pobl ifanc.
‘Mae’n rhaid i ymchwil yn y dyfodol archwilio ar frys p’un a yw newidiadau yn yr amgyffredion am bwysau gwaith ysgol o ganlyniad i fwy o bwysau mewn amgylchedd yr ysgol, newid mewn disgwyliadau, neu heriau eraill. Mae’r ddealltwriaeth hon yn hanfodol i atal cynnydd pellach mewn pwysau gwaith ysgol a phroblemau iechyd meddwl pobl ifanc’.
Darllenwch flog y Rhwydwaith am yr astudiaeth hon.