Mae’r Rhwydwaith, a sefydlwyd yn 2013, yn fenter gydweithredol sy’n anelu at wella iechyd a lles plant a phobl ifanc ar draws Cymru. Trwy ddwyn ysgolion, ymchwilwyr academaidd, llunwyr polisi ac ymarferwyr o feysydd iechyd, addysg a gofal cymdeithasol ynghyd, rydym yn hyrwyddo dulliau seiliedig ar dystiolaeth o wella iechyd a lles mewn ysgolion.
Rydym yn pontio’r bwlch rhwng ymchwil ac ymarfer, gan rymuso ysgolion i ddefnyddio strategaethau profedig sy’n hybu iechyd a lles eu dysgwyr. Mae ein dull cydweithredol yn sicrhau bod cipolygon ymchwil yn llywio polisïau ac ymarfer yn uniongyrchol, gan greu amgylchedd iachach i bob dysgwr. Gan mai ni yw’r rhwydwaith cenedlaethol cyntaf o’i fath, rydym yn arwain y ffordd wrth droi ymchwil i iechyd mewn ysgolion yn weithredu ymarferol. Diolch i’n hymdrechion arloesol, rydym yn rhan hanfodol o’r tirlun addysg, iechyd a lles yng Nghymru.
Polisi ac Ymarfer
Mae ein partneriaeth strategol gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac integreiddio â Rhwydwaith Ysgolion Cymru sy’n Hybu Iechyd a Lles (WNHWPS) wedi bod yn hollbwysig i’n twf. Gyda chefnogaeth gref gan Lywodraeth Cymru, mae’r Rhwydwaith wedi dod yn arweinydd cenedlaethol o ran ymchwil a gwerthuso.
Rydym yn chwarae rhan allweddol mewn amrywiol bolisïau a strategaethau iechyd a lles cenedlaethol allweddol, gan ddarparu data gwerthfawr sy’n llywio arferion iechyd ysgolion ac yn cefnogi lles dysgwyr ar draws Cymru. Dyfynnwyd ein data mewn dros 30 o bolisïau a strategaethau cenedlaethol, gan gynnwys y Dull Ysgol Gyfan ar gyfer Iechyd Meddwl a Llesiant (2021) ac Adroddiad Iach a Hapus Estyn (2019). Mae hyn yn amlygu ein heffaith arwyddocaol ar bolisïau iechyd yng Nghymru