Amdanom ni

 

Mae’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion yn dod ag ysgolion uwchradd ac ymchwilwyr academaidd, gwneuthurwyr polisi ac ymarferwyr o’r meysydd iechyd, addysg a gofal cymdeithasol at ei gilydd i wella iechyd a lles pobl ifanc mewn lleoliad ysgol. Mae’n bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ymchwil Canser y DU a Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru. Caiff ei harwain gan Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) ym Mhrifysgol Caerdydd.

 

Ei nod yw gwella iechyd a lles pobl ifanc trwy:

  • Ddarparu data iechyd a lles cadarn i randdeiliaid ysgol, rhanbarthol a chenedlaethol;
  • Gweithio gyda gwneuthurwyr polisi ac ymarferwyr o’r meysydd iechyd, addysg a gofal cymdeithasol i gyflawni ar y cyd, ymchwil iechyd a lles o ansawdd uchel mewn ysgolion yng Nghymru;
  • Helpu ysgolion, a’r rheiny sy’n cynorthwyo ysg-olion, i ddeall tystiolaeth ymchwil iechyd, a sut gellir ei defnyddio mewn ysgolion.

Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion (SHRN) yw’r rhwydwaith cenedlaethol mwyaf o’i fath yn y byd. Mae’n dod â’r holl ysgolion uwchradd, prif ffrwd a gynhelir yng Nghymru at ei gilydd, gydag ymchwilwyr academaidd, gwneuthurwyr polisi ac ymarferwyr o faes iechyd, addysg a gofal cymdeithasol i hyrwyddo dull ar sail tystiolaeth o wella iechyd a llesiant pobl ifanc yn lleoliad yr ysgol.

Mae ysgolion y rhwydwaith yn cwblhau Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr electronig dwyieithog bob dwy flynedd. Mae’r arolwg yn seiliedig ar Arolwg cydweithredol Ymddygiad Iechyd Plant Oedran Ysgol (HBSC) Sefydliad Iechyd y Byd, i ganiatáu Integreiddio’r ddau arolwg bob pedair blynedd, ac mae’n cyd-fynd â Holiadur Amgylchedd yr Ysgol, sy’n caniatáu ymchwilio i berthnasoedd rhwng polisïau ac arferion ysgol, ac iechyd myfyrwyr. Caiff cwestiynau eu datblygu mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid allweddol mewn ysgolion, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae’r arolygon yn darparu seilwaith hyblyg ac ymatebol i gasglu data ar arfer mewn ysgolion, materion sy’n berthnasol i bolisi sy’n dod i’r amlwg, a darparu seilwaith cost effeithiol i gynnal arolygon mewn ysgolion, astudiaethau ymchwil ac arbrofion naturiol o bolisïau newydd.

 

Cynhyrchwyd y ffilm hon, yn Gymraeg ac yn Saesneg, o ganlyniad i fenter Cymdeithas Frenhinol Iechyd y Cyhoedd. Mae’n dangos buddion y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion i’w holl aelodau – ysgolion uwchradd, gwneuthurwyr polisïau ac ymchwilwyr yng Nghymru. Fe wnaeth Ysgol Brynteg, Pen-y-bont ar Ogwr, ac Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg, Bro Morgannwg, ill dwy yn ysgol y Rhwydwaith, gynorthwyo’r ffilmio.