Llwyddiant ac effeithiau ysgolion

Dros Ddegawd o Ragoriaeth – Ein Llwyddiannau a’n Heffaith.

Rydym wedi arwain y ffordd wrth alluogi troi tystiolaeth ymchwil i iechyd a lles mewn ysgolion yn ymarfer.

Rydym yn gweithio gydag ysgolion i sicrhau bod ganddynt y wybodaeth a’r gefnogaeth i wneud gwahaniaeth go iawn i iechyd a lles eu dysgwyr.

Mae ysgolion ar draws Cymru wedi gwreiddio’r Rhwydwaith yng nghynllun datblygu eu hysgol ac maent wedi rhoi amrywiaeth o fentrau gwella ar waith.

Mae’r rhain yn cynnwys: 

  • Gwella’r cwricwlwm ABCh trwy gynnig dull targedig ar gyfer bodloni anghenion dysgwyr.
  • Ehangu gweithgareddau allgyrsiol i wella gweithgarwch corfforol.
  • Gwella gwerth maethol y ddarpariaeth bwyd a diod.
  • Cryfhau cysylltedd ysgolion.
  • a llawer mwy!

Rydym yn hynod falch o’r gwaith rydym ni’n ei wneud, a’n cyflawniadau.

Darllenwch am yr ysgolion sydd wedi defnyddio’u data ar gyfer y Rhwydwaith i ddathlu eu cryfderau a gweithio ar eu heriau.

Dathlu’r Gwahaniaeth Wnewch Chi

Students Learning

Gallai eich stori gefnogi ein prosiectau a’n datblygiad.


Os ydych chi’n falch o’r gwahaniaeth rydych chi wedi’i wneud i iechyd a lles eich dysgwyr trwy ddefnyddio’r Rhwydwaith, byddai ein Rheolwr Cyfnewid Gwybodaeth a Materion Allanol wrth ei bodd yn clywed gennych. Boffeym1@cardiff.ac.uk

Darllenwch ein llyfryn i ysgolion cynradd…