SHRN 2024: Canllawiau Athrawon ar gyfer ysgolion cynradd

Diolch am gymryd rhan yng nghasgliad data SHRN eleni.

Mae’r dudalen hon yn cynnwys yr holl wybodaeth y bydd ei hangen arnoch i gynnal yr arolygon yn eich ysgol.

Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr:

  • Lawrlwythwch eich canllaw athrawon yma. Mae hwn yn cynnwys trosolwg o’r broses casglu data ac yn cynnwys dolen prawf fel y gallwch wirio bod yr arolwg yn gydnaws â’ch systemau TG.
  • Lawrlwythwch gopi o’r arolwg myfyrwyr (ar gyfer athrawon) yma. Mae’r fersiwn hon wedi’i hanodi ac mae’n cynnwys sgript ragarweiniol y mae’n rhaid ei darllen i’ch dosbarth cyn iddynt ddechrau’r arolwg.
  • Lawrlwythwch y daflen wybodaeth i rieni yma. Rhaid dosbarthu hwn i rieni o leiaf bythefnos cyn i chi weinyddu’r arolwg. Defnyddiwch o leiaf ddau ddull gwahanol o gyfathrebu. Cadwch olwg ar unrhyw rieni sy’n dewis eithrio gan y bydd angen i chi roi’r rhain i mewn i’ch dangosfyrddau casglu data.
  • Lawrlwythwch gopi o’r arolwg myfyrwyr (i rieni) yma. Dim ond mewn man rheoledig sy’n hygyrch i rieni grwpiau blwyddyn 3-6 y dylid ei rannu.

Holiadur Amgylchedd yr Ysgol (SEQ):

Mae’r SEQ i’w gwblhau unwaith gan aelod o’r uwch dîm arwain (neu gynrychiolydd penodedig).

O’i ddefnyddio ar y cyd â’r arolwg myfyrwyr, mae’n creu set ddata gynhwysfawr unigryw i archwilio’r cysylltiadau rhwng polisïau/arferion ysgol (e.e. arweinyddiaeth ysgol; ethos yr ysgol; amgylchedd yr ysgol; dysgu cwricwlwm; ymgysylltu â theuluoedd a’r gymuned) a chanlyniadau iechyd a lles dysgwyr.

  • Lawrlwythwch gopi o’r SEQ yma. Rydym yn eich annog yn gryf i lenwi copi caled ac yna mewnbynnu eich atebion gan ddefnyddio dolen SEQ eich ysgol. Yna gallwch arbed eich copi caled at ddibenion archwilio a gwerthuso.

Dolenni Arolwg:

Ar gyfer unrhyw faterion technegol yn ymwneud â derbyn neu gyrchu unrhyw un o’ch dolenni arolwg neu ddangosfwrdd, cysylltwch â’n darparwr arolwg Ipsos: Shrn@ipsosresearch.com.

Ar gyfer unrhyw ymholiadau ymchwil, neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni yn SHRN: primaryshrn@cardiff.ac.uk.

Adrodd:

Bydd eich adroddiad data lefel ysgol yn cael ei anfon ar ôl y Pasg – dyddiad i’w gadarnhau. Mae rhyddhau data yn dibynnu ar ysgolion yn cyflwyno’r holl wybodaeth ar eu dangosfyrddau a’r amser sydd ei angen ar gyfer gweithgareddau glanhau data.

Yn y flwyddyn newydd, byddwn yn cadarnhau pryd y gallwch ddisgwyl eich adroddiadau data.

Gallwch weld copi o adroddiad enghreifftiol a grëwyd gennym ar gyfer ein cyfnod peilot, yma. Sylwch, dim ond yn Saesneg y mae’r templed ar gael. Bydd eich Adroddiad Data Ysgol yn ddwyieithog.