Sut y gall y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion gefnogi dull ysgol gyfan o hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol
Mae’n fraint gennym glywed gan dri Athro o Brifysgol Caerdydd, sydd ag arbenigedd mewn iechyd a lles ysgolion:
Yr Athro Simon Murphy, Cyfarwyddwr y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) ac Arweinydd y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN)
Ac iechyd meddwl pobl ifanc:
Yr Athro Stephan Collishaw, Cadeirydd Personol yr Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol
Yr Athro Frances Rice, Athro Seicopatholeg Datblygiadol
Mae eu cyflwyniadau yn rhoi sylw i’r canlynol:
• Y cyd-destun polisi ac ymchwil yng Nghymru a rôl y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion
• Cefndir y mesurau iechyd meddwl a lles a gynhwysir yn yr Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr a sut i ddehongli data a gyflwynwyd eleni
• Goblygiadau ymarferol iechyd meddwl disgyblion i ysgolion
• Y ffordd orau i ysgolion gefnogi iechyd meddwl disgyblion
Cynlluniwyd hwn fel gweminar, fodd bynnag, oherwydd cyfyngiadau gwaith yn ymwneud â Covid-19, recordiwyd y tri chyflwyniad ar wahân.
Mae hyn wedi arwain at rai materion technegol, felly er mwyn egluro’r cyflwyniadau llafar, rydym hefyd wedi darparu trawsgrifiadau ysgrifenedig o’r hyn y dywedwyd ei fod yn cyd-fynd â phob sleid. Gobeithiwn y bydd hyn yn helpu (pan ddaw’r cyfle, bydd y tîm yn dod â’r cyflwyniadau at ei gilydd fel un gwebinar).
Sylwch ein bod ar hyn o bryd yn aros am gyfieithiad ar gyfer y cyflwyniad. Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra a achosir
Os hoffech weld y cyflwyniadau yn Saesneg, cliciwch yma
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch neges e-bost at shrn@cardiff.ac.uk. Mae tîm SHRN yn awyddus i barhau i gefnogi ysgolion ac eraill yn ystod y cyfnod hwn.