Adroddiadau Iechyd a Lles Myfyrwyr Unigol
Mae’r ysgolion sy’n ymuno â’r Rhwydwaith yn cael Adroddiad Iechyd a Lles Myfyrwyr ungiol bob dwy flynedd. Mae hwn yn seilieig ar ymat-ebion dysgwyr i Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr electronig y mae ysgolion yn ei gyflawni. Mae’r adroddiadau hyn yn darparu data i’r ysgolion sy’n aelodau ar bynciau iechyd emosiynol a chorfforol allweddol, â data cenedlaethol er mwyn cym-haru. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Bwyta’n iach a gweithgarwch corfforol
- Iechyd a lles meddyliol ac emosiynol
- Ysmygu a’r defnydd o alcohol, a sylweddau er-aill
- Rhyw a pherthnasoedd
Mae’r adroddiadau’n cynnwys testun ategol gyd-ag ymagweddau ysgol gyfan awgrymedig, can-fyddiadau ymchwil cyfredol, a dolenni i asiant-aethau cenedlaethol cefnogol. Mae Staff Cynllun-iau Ysgolion Iach ledled Cymru yn awyddus i gynorthwyo ysgolion gydag unrhyw weithred-iadau sy’n codi yn sgil eu data.
Mae’r ysgolion sy’n aelodau presennol yn gweld gwerth y data hwn ar gyfer:
- Hunanasesu lles
- Ymgysylltu holl aelodau cymuned yr ysgol ag anghenion iechyd eu dysgwyr.
- Cynllunio a chyfoethogi’r cwricwlwm, er eng-hraifft, mewn addysg bersonol a chymdeithas-ol, addysg gorfforol a gwyddoniaeth
- Hysbysu mentrau Ysgolion Iach
Gall y data yn yr adroddiadau ategu data arall y mae’r ysgol yn ei gasglu e.e. presenoldeb, cyrh aeddiad.
Cylchlythyrau a Gweminarau Tymhorol
I sicrhau cyswllt rheolaidd a chyfleu canfyddiadau ymchwil perthnasol ar iechyd a lles, cynhyrchir cylchlythyr a gweminar yn dymhorol.
Caiff gwem-inarau eu darlledu ar brynhawn diwrnodau’r wythnos, ar ôl y diwrnod ysgol, ac maent yn cyn-nwys cyflwyniad gan ymchwilydd, a chyfle i gyn-nal trafodaeth agored i ddilyn. Mae gweminarau diweddar wedi cynnwys:
- Pwysigrwydd Perthnasoedd i Iechyd Staff a Myfyrwyr
- Cyfansoddiad ysgol, diwylliant ysgol ac anghydraddoldebau ym maes iechyd pobl ifanc
- Brecwast Da, Graddau Da?
Mae’r cylchlythyr yn cynnwys gwybodaeth am ddigwyddiadau a gweminarau’r Rhwydwaith sydd ar ddod, cyfleoedd i gymryd rhan mewn ym-chwil, profiadau ysgolion o ran defnyddio’u data myfyrwyr, a chanfyddiadau ymchwil iechyd mewn ysgolion mewn briffiau ymchwil hawdd eu deall.