Wrth i’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion groesawu Dr. Kelly Morgan yn Gyfarwyddwr Newydd arno, yn y blog hwn, mae Kelly yn myfyrio ar lwyddiannau’r gorffennol ac yn amlinellu cynlluniau i ehangu partneriaethau ysgolion, ymgysylltu ag ysgolion cynradd a lansio dangosfwrdd lefel ysgol.

Ysgrifennwyd gan Dr Kelly Morgan
Mae’n anrhydedd i mi gamu i rôl Cyfarwyddwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, yn dilyn fy nghyfnod fel Dirprwy Gyfarwyddwr. Yn gyntaf, hoffwn gydnabod arweinyddiaeth ragorol fy rhagflaenydd, yr Athro Simon Murphy. Roedd ei ymrwymiad a’i weledigaeth yn hanfodol bwysig wrth sefydlu’r Rhwydwaith fel rhwydwaith o’r radd flaenaf. I’n holl bartneriaid – o arweinwyr ysgol ac addysgwyr i gydweithwyr polisi ac ymarfer – hoffwn eich sicrhau chi nad oes newid i sylfeini’r Rhwydwaith. Bydd ein hymrwymiad i gydweithredu, darparu data o ansawdd uchel a chyd-gynhyrchu gwaith sy’n cael effaith, gydag ysgolion yn parhau i fod yn ganolog i’n cenhadaeth. Mae darparu adborth ystyrlon, amserol a hygyrch sy’n gyrru gweithredoedd wedi’u llywio gan dystiolaeth i wella iechyd a lles dysgwyr yn parhau’n flaenoriaeth i ni.
Ein Gweledigaeth wrth Symud Ymlaen

Mae fy ngweledigaeth ar gyfer y Rhwydwaith wedi’i seilio ar barhad ac uchelgais feiddgar. Fy nod yw dwysáu ein partneriaethau ag ysgolion, tra’n cryfhau ein heffaith trwy offer ymarferol, ymgysylltu’n estynedig ag ysgolion cynradd a chydweithredu’n agosach â sefydliadau allweddol, fel Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Arweinydd ag Arbenigedd a Gweledigaeth
A minnau’n Uwch Gydymaith Ymchwil yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasolac yn gyn Ddirprwy Gyfarwyddwr y Rhwydwaith, mae gennyf gyfoeth o wybodaeth mewn ymchwil i iechyd cyhoeddus, gan gyd-gynhyrchu a gwerthuso ymyriadau sy’n cefnogi iechyd a lles plant a phobl ifanc. Mae fy sgiliau a’m profiad ym maes cysylltedd data yn helpu’r Rhwydwaith i ymchwilio i’r systemau a’r ffactorau cymdeithasol ehangach sy’n effeithio ar ddeilliannau dysgwyr. Yn ddiweddar, rwy’ wedi cymryd yr awenau wrth ehangu’r Rhwydwaith i ysgolion cynradd, gan sicrhau ein bod yn cynnwys safbwyntiau plant iau i lywio ymdrechion atal cynnar. Hefyd, rwy’n angerddol am hyrwyddo gweithgarwch corfforol a chwaraeon fel agweddau anhepgor ar ffordd iach o fyw – maes sy’n parhau i ysbrydoli fy ngwaith a’m ymrwymiad i wella iechyd a lles dysgwyr ar draws Cymru.
Gorffennol Balch a Dyfodol Uchelgeisiol
Wrth fyfyrio ar daith y Rhwydwaith hyd yn hyn, caf fy atgoffa am y cydweithrediadau anhygoel sydd wedi gyrru ein llwyddiant. Er enghraifft, mae ein partneriaeth ag ysgolion wedi arwain at welliannau pendant yn iechyd a lles dysgwyr. Adeg arbennig o gofiadwy oedd gwrando ar ymarferwyr addysg yn disgrifio sut mae grwpiau llais y dysgwr wedi defnyddio adroddiad eu hysgol gan y Rhwydwaith i yrru gweithredoedd fel hybu cwsg iachach, gan gynnwys cyflwyno sesiynau addysg i rieni a gofalwyr, sy’n dangos grym gweithredu ar y cyd ac ymarfer wedi’i lywio gan dystiolaeth.
Wrth i ni ddechrau ar y bennod newydd hon, bydd ein ffocws yn gadarn o hyd: sef cyfuno arloesi a chydweithredu i greu newid ystyrlon. Cyn hir, bydd y Rhwydwaith yn lansio dangosfwrdd lefel ysgol arloesol i ysgolion uwchradd, gan gynnig cipolygon wedi’u haddasu’n bwrpasol i’w grymuso i ddeall a gwella deilliannau iechyd a lles eu dysgwyr.
Rwy’n arbennig o falch o weithio ochr yn ochr â thîm mor dalentog a dawnus yn y Rhwydwaith. Mae eu harbenigedd, eu creadigrwydd a’u hymrwymiad diysgog wrth galon llwyddiant y rhwydwaith. Mae eu cyfoeth o wybodaeth a phrofiad yn sicrhau bod y Rhwydwaith yn arwain arloesi o ran iechyd ysgolion. Wrth inni fynd yn ein blaen, rwyf yr un mor ymrwymedig i barhau i feithrin partneriaethau a chydweithrediadau cadarn ar draws y rhwydwaith ehangach – gydag arweinwyr ysgolion, llunwyr polisi ac ymarferwyr. Trwy’r partneriaethau dibynadwy hyn y gallwn barhau i dyfu, arloesi a gwneud newidiadau ystyrlon i iechyd a lles plant a phobl ifanc.
Diolch am eich cefnogaeth barhaus – edrychaf ymlaen at weithio gyda chi yn y bennod nesaf hon.
Cofion cynnes,
Dr. Kelly Morgan, Cyfarwyddwr, y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion
Wrth i ni ddechrau ar y bennod newydd gyffrous hon, rwy’n estyn croeso cynnes i’n holl bartneriaid gydweithredu’n weithgar â’r Rhwydwaith. P’un ai drwy rannu eich gwybodaeth, cymryd rhan yn ein digwyddiadau a’n gweminarau, neu trwy fanteisio ar ein hadnoddau, mae eich ymglymiad yn hanfodol i’n llwyddiant ein gilydd. Gyda’n gilydd, gallwn yrru datrysiadau arloesol a gwelliannau sy’n para i ysgolion a dysgwyr ar draws Cymru.

Tanysgrifiwch i’n e-grynhoad i gael y newyddion diweddaraf a bod yn rhan o daith barhaus y Rhwydwaith i wella iechyd a lles mewn ysgolion yn fyd-eang.