Wrth i’r Athro Simon Murphy baratoi i roi’r gorau i swydd Cyfarwyddwr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion arôl 12 o flynyddoedd trawsnewidiol, mae’n myfyrio ar y daith o adeiladu rhwydwaith arloesol sydd wedi dod yn fodel byd-eang. Yn Myfyrdodau gan y Cyfarwyddwr: Deuddeg Mlynedd o’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, mae’n rhannu ei feddyliau am waddol y Rhwydwaith, y partneriaethau a ddiffiniodd ei lwyddiant, a’i obeithion at ddyfodol y Rhwydwaith. Ymunwch â ni i ddathlu ei arweinyddiaeth nodedig a’r bennod nesaf i’r Rhwydwaith…
Pan ddechreuodd y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (y Rhwydwaith) yn 2013, roedd yn arbrawf uchelgeisiol â’i wreiddiau mewn gobaith a gweledigaeth. Heddiw, mae wedi dod yn fodel byd-eang i rwydweithiau ymchwil iechyd mewn ysgolion, ac yn rhan hanfodol o dirlun ymchwil, polisi ac ymarfer Cymru.
Wrth i mi roi’r gorau i fy rôl fel Cyfarwyddwr y Rhwydwaith ar ôl 12 mlynedd ryfeddol, dyma fyfyrio ar ein taith anhygoel. Hefyd, mae’n gyfle i gynnig fy nymuniadau gorau i’m cydweithwyr, a fydd yn dwyn gwaddol y Rhwydwaith yn ei flaen a’i lywio i’w bennod nesaf.

Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion: Rhwydwaith Unigryw a Gwerthfawr
Yn 2013, ganed y Rhwydwaith o syniad arloesol – sef creu rhwydwaith ymchwil iechyd cenedlaethol cyntaf y byd mewn ysgolion. Heddiw, mae’n rhan hanfodol o dirlun ymchwil, polisi ac ymarfer Cymru. I randdeiliaid cenedlaethol a rhanbarthol, mae’r Rhwydwaith yn cynnig dangosyddion anhepgor i amgyffred anghenion iechyd ein poblogaeth. I ysgolion, mae’n gonglfaen cynllunio gweithredu ynghylch iechyd a monitro cynnydd. I ymchwilwyr, mae’n set ddata unigryw – porth tuag at archwilio cysylltiad iechyd, lles, polisi ac ymarfer.
Yn ganolog i’r Rhwydwaith bob amser fu partneriaeth, sef cyd-gynhyrchu a throsi gwybodaeth yn effaith yn y byd go iawn.

O Astudiaeth Beilot Partneriaeth i Lwyddiant Arloesol
Y bartneriaeth sylfaenol hon a wnaeth y gwaith paratoi ar gyfer yr hyn oedd i ddod: sef rhwydwaith cenedlaethol a fyddai’n newid ymchwil iechyd mewn ysgolion yng Nghymru a’r tu hwnt.
Sut cyflawnon ni gymaint mewn ychydig dros ddegawd? Mae fy ateb yn syml: partneriaethau.
Dechreuodd y Rhwydwaith gyda syniad. A allem ni ddefnyddio’r dysgu o rwydweithiau ymchwil glinigol a oedd wedi trawsnewid ymchwil feddygol a’i gymhwyso i leoliad yr ysgol? Byddai ateb y cwestiwn hwnnw’n gofyn am gydweithrediadau ystyrlon. Felly, yn 2013, sicrhaom grant gan y Cyngor Ymchwil Feddygol i beilota’r syniad a gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r holl ysgolion oedd yn cymryd rhan yn astudiaeth Ymddygiad Iechyd mewn Plant Ysgol HBSC y flwyddyn honno. Roedd y canlyniadau’n ysgubol – mandad clir i symud ymlaen â’r rhwydwaith.
Cynyddu’r Raddfa a Chynnal Effaith

Dros y chwe blynedd nesaf, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, cyflawnom gyfranogiad llawn gan bob ysgol uwchradd a gynhelir yng Nghymru. Heddiw, mae’r Rhwydwaith yn seilwaith cadarn ar gyfer casglu data ac adrodd arno. Mae’n bodloni anghenion data iechyd a lles ar draws lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, gyda 70% o ddysgwyr ysgolion uwchradd yn cymryd rhan yn ein harolygon.
Sylfaen y cynnydd hwn oedd arweiniad amhrisiadwy ein grŵp cynghori o randdeiliaid, yn cynrychioli lleisiau o’r lefel genedlaethol i’r lefel leol.
Y Rhwydwaith Heddiw: Rhwydwaith Cenedlaethol gydag Effaith Fyd-eang
Mae’r Rhwydwaith bellach wedi’i gwreiddio ar draws y system bolisi ac ymarfer. Mae partneriaethau ag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn sicrhau bod ein data’n cael eu hintegreiddio â Rhwydwaith Ysgolion Cymru sy’n Hybu Iechyd a Lles (WNHWPS) a thrwy’r Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus ac, erbyn hyn, mae gennym fwrdd gweithredu ar y cyd rhwng y Rhwydwaith/Ysgolion sy’n Hybu Iechyd. Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys:

Dylanwadu ar bolisi:
Mae data’r Rhwydwaith yn llywio dros 30 o bolisïau a strategaethau cenedlaethol, gan amrywio o ganllawiau iechyd meddwl statudol, addysg chydberthynas a rhywioldeb, cysylltu cymunedau i fynd i’r afael ag ynysu cymdeithasol ac unigedd, diwygio’r cwricwlwm addysg, gweithgarwch corfforol a chynlluniau cyflawni rheoli tybaco.

Integreiddio Data:
Trwy ein partneriaeth ag arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae data’r Rhwydwaith yn cefnogi cynllunio iechyd a lles yn wybodus, wedi’i yrru gan ddata, ar lefelau cenedlaethol a rhanbarthol. Mae data’r Rhwydwaith yn hwyluso cynllunio gweithredu targedig sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau iechyd ar draws Cymru, gan sicrhau bod gwybodaeth ddibynadwy ar gael i lunwyr polisi a rhanddeiliaid rhanbarthol.

Gwella Ysgolion:
Mae ysgolion yn defnyddio data’r Rhwydwaith i hunanwerthuso iechyd a lles a gyrru gwelliannau mewn ysgolion. Mae Estyn hyd yn oed wedi cydnabod bod y Rhwydwaith yn ffynhonnell ddata hanfodol ar gyfer arolygiadau ysgolion. Mae sylw sylweddol arolwg y Rhwydwaith yn galluogi monitro iechyd, addysg a phrofiad ysgol is-grwpiau bach a/neu fregus o’r boblogaeth, er enghraifft plant sy’n derbyn gofal, gofalwyr ifanc, a phobl ifanc o dras sipsiwn a theithwyr.

‘Ysgolion Parod at Ymchwil’:
A chanddo rwydwaith o ysgolion sy’n barod at ymchwil, mae’r Rhwydwaith yn cyd-gynhyrchu ac yn gwerthuso ymyriadau ysgol gyfan. Ar hyn o bryd, mae hyn yn ategu portffolio ymchwil sy’n werth dros £35 miliwn.

Gweithgareddau Meithrin Gallu:
Mae gweithgareddau meithrin gallu, gan gynnwys briffiau ymchwil, gweminarau, astudiaethau achos a digwyddiadau, yn hwyluso’r gallu i droi tystiolaeth yn bolisi ac ymarfer. Mae ymgynghoriadau rheolaidd â rhanddeiliaid ac addysgwyr yn sicrhau bod allbynnau’r rhwydwaith yn parhau’n berthnasol ac yn drawsnewidiol.

Cysylltedd Data Hydredol:
Mae cysylltedd data hydredol ar waith erbyn hyn, gan olygu bod modd deall penderfynyddion iechyd corfforol ac iechyd meddwl a’u heffaith ar gyrhaeddiad, a’u defnydd gan y gwasanaeth iechyd, yn well.

Cyfnewid Gwybodaeth:
Mae’r Rhwydwaith yn blaenoriaethu cyfnewid gwybodaeth trwy friffiau ymchwil, gweminarau rhyngweithiol ac adnoddau teilwredig. Mae’r ymdrechion hyn yn sicrhau bod cipolygon data yn hygyrch ac y gellir gweithredu arnynt, gan bontio ymchwil, polisi ac ymarfer.
Y tu hwnt i Gymru – ar draws y DU ac yn rhyngwladol

Mae’r Rhwydwaith wedi gwneud ei farc ar draws y DU ac yn fyd-eang, hefyd.
- Rydym wedi chwarae rhan annatod yn natblygiad SHINE, sef rhwydwaith partner yn yr Alban, SHRN yn ne-orllewin Lloegr, rhwydwaith Bee-Well Manceinion Fwyaf ac, ar hyn o bryd, rydym yn gweithio gyda Chanolfan Ymchwil Biomeddygol Iechyd NIHR Rhydychen ar rwydwaith ymchwil mewn ysgolion ar gyfer iechyd meddwl.
- Fe wnaeth Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) wahodd y Rhwydwaith i gyfrannu at gynllunio rhwydwaith iechyd peilot mewn ysgolion ledled Ewrop yn 2018-2019. Fe wnaeth model y Rhwydwaith lywio galwad gan WHO i ddatblygu rhwydweithiau peilot ar gyfer ymarfer data dan arweiniad ysgolion yn India, Ghana, Jamaica, a Morocco. Rydym ni wedi gweithio gyda Llywodraeth Namibia i sefydlu’r Rhwydwaith mewn ysgolion yn Affrica ac rydym wrthi’n trafod â phartneriaid yn Uganda a Saudi Arabia ar hyn o bryd.

Diolch Olaf ac Edrych Tua’r Dyfodol
Wrth fyfyrio ar ein cyflawniadau, daw’r ail allwedd i’n llwyddiant yn glir – gwaith tîm.
Er fy mod wedi arwain y Rhwydwaith o’r cychwyn, diolch i dîm y Rhwydwaith y mae ei lwyddiant. Felly, hoffwn estyn fy niolch iddyn nhw. I’r rhai a oedd yno ar ddechrau’r daith hon ac i’r rhai a fydd yno nawr i fynd â’r rhwydwaith yn ei flaen. Gadawaf y rhwydwaith yn nwylo mwy na galluog Dr Kelly Morgan. Rwy’ wedi gweithio gyda hi ers dros ddeng mlynedd ac rydym wedi cyflawni pethau mawr. Mae wedi bod yn Ddirprwy Gyfarwyddwr amhrisiadwy i’r Rhwydwaith a bydd felly nawr yn Gyfarwyddwr.
Yn olaf, i’r ysgolion – eich timau arwain, athrawon, rhieni a gofalwyr ac, yn arbennig, i’r dysgwyr – diolch. Mae eich brwdfrydedd a’ch ymrwymiad wedi bod wrth galon llwyddiant y Rhwydwaith. Gyda’n gilydd, rydym wedi creu rhywbeth rhyfeddol ac edrychaf ymlaen yn frwd at weld beth sydd gan y dyfodol i’w gynnig.
Fy ngobaith yw y bydd y Rhwydwaith yn parhau i dyfu, addasu ac ysbrydoli eraill i hyrwyddo iechyd a lles plant a phobl ifanc ledled y byd.
Cofion gorau, yr Athro Simon Murphy, Cyn-gyfarwyddwr, Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion.
Ymdrech ar y cyd fu llwyddiant y Rhwydwaith erioed. Wrth i ni gamu i’r bennod nesaf, gadewch i ni barhau i feithrin partneriaethau, gyrru arloesedd a hyrwyddo iechyd a lles pobl ifanc ledled Cymru a’r byd. Cadwch mewn cysylltiad ac ymunwch â ni ar y daith gyffrous hon.

Tanysgrifiwch i’n e-grynhoad i gael y newyddion diweddaraf a bod yn rhan o daith barhaus y Rhwydwaith i wella iechyd a lles mewn ysgolion yn fyd-eang.