
Mae partner y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, sef Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn ceisio adborth ar safonau newydd ar gyfer ymagwedd ysgol gyfan at iechyd a lles yn ysgolion Cymru. Bydd y safonau hyn yn disodli Dyfarniad Ansawdd Cenedlaethol 2009 ac yn canolbwyntio ar elfennau craidd yn hytrach na phynciau iechyd penodol, gan alluogi ysgolion i osod eu blaenoriaethau iechyd eu hunain a hybu gwelliant parhaus.
Mae’r safonau arfaethedig yn cwmpasu saith maes: Arweinyddiaeth, Deall Angen, Cymryd Rhan, y Gweithlu, Diwylliant yr Ysgol, Y Cwricwlwm a Gwasanaethau Cymorth. Mae pob safon yn cynnwys disgrifiadau manwl o arferion angenrheidiol.
Mae’r Rhwydwaith wedi’i wreiddio yn yr ymagwedd ysgol gyfan at iechyd a lles yng Nghymru trwy ddarparu data hanfodol ac arferion yn seiliedig ar dystiolaeth. Mae’r Rhwydwaith yn cynnal arolygon cynhwysfawr i gasglu data ar iechyd a lles dysgwyr, sy’n helpu ysgolion i nodi anghenion penodol a meysydd i’w gwella. Mae adroddiadau adborth a meincnodau cenedlaethol yn ategu’r dull hwn sydd wedi’i yrru gan ddata, gan roi arweiniad i ysgolion wrth hunanwerthuso a chynllunio gweithredu.
Yn ogystal, trwy gynnig adnoddau a hwyluso gwelliant parhaus, mae’r Rhwydwaith yn sicrhau bod ysgolion yn gallu rhoi mentrau iechyd a lles ar waith yn effeithiol a’u cynnal.
