Fe wnaeth erthygl ddiweddar mewn cyfnodolyn, a ddefnyddiodd ddata o Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion ac a gyhoeddwyd yn y Journal of Adolescent Health, archwilio cwynion iechyd meddwl ac iechyd corfforol pobl ifanc yn eu harddegau cyn dechrau pandemig COVID-19 a dwy flynedd yn ddiweddarach.
Dadansoddodd yr astudiaeth ddata gan 792,606 o bobl ifanc 11, 13 a 15 oed ar draws 35 o wledydd (gan gynnwys Cymru), fel rhan o astudiaeth ryngwladol Ymddygiad Iechyd mewn Plant Oed Ysgol (HBSC). Gan ddefnyddio pedair ton o ddata HBSC rhwng 2010 a 2022, canfu’r astudiaeth fod nifer yr adroddiadau am gwynion iechyd meddwl ac iechyd corfforol gan bobl ifanc yn eu harddegau, yn draws genedlaethol yn 2022, yn uwch o lawer na’r hyn y byddid wedi’i ddisgwyl ar sail tueddiadau cyn y pandemig, yn enwedig ymhlith merched yn eu harddegau.

Canfyddiadau Allweddol:
- Gwahaniaethau rhwng y rhywiau: Adroddodd bechgyn a merched lefelau uwch o lawer o broblemau iechyd meddwl yn 2022 (e.e. teimlo’n isel, yn nerfus, yn biwis, a chael trafferth cysgu), o gymharu â thueddiadau yn y gorffennol rhwng 2010 a 2018. Yn achos problemau iechyd corfforol (e.e. teimlo’n benysgafn, cur pen, stumog ddrwg a chefn tost), gwelwyd cynnydd bach ond arwyddocaol ymhlith merched yn unig.
- Gwahaniaethau demograffig-gymdeithasol: Ehangodd anghydraddoldebau sydd eisoes yn bodoli yn ôl oedran rhwng 2018 a 2022, gyda phobl ifanc 13 a 15 oed yn adrodd mwy o gwynion na rhai 11 oed. I’r gwrthwyneb, roedd y gwahaniaethau rhwng grwpiau economaidd-gymdeithasol a welwyd cyn y pandemig o ran problemau iechyd corfforol wedi lleihau: roedd hyn o ganlyniad i fwy o gynnydd yn yr adroddiadau am broblemau iechyd corfforol gan bobl ifanc o deuluoedd mwy cyfoethog o gymharu â theuluoedd llai cyfoethog.
- Effaith Strwythur Teuluol: Adroddodd pobl ifanc sy’n byw mewn cartref ag un rhiant lefelau uwch o lawer o broblemau iechyd meddwl ac iechyd corfforol o gymharu â phobl ifanc sy’n byw gyda’r ddau riant, ac roedd y bwlch hwn yn ehangu rhwng 2018 a 2022.
Meddai un o gyd-awduron yr erthygl, Dr Nick Page (Cymrawd Ymchwil ac arweinydd dadansoddol y Rhwydwaith):
Mae ein hastudiaeth, sy’n manteisio ar ddata o 35 o wledydd, yn amlygu sut oedd newidiadau i iechyd meddwl ac iechyd corfforol pobl ifanc yn waeth o lawer na’r disgwyl yn dilyn y pandemig COVID-19, yn enwedig ymhlith merched a’r rheiny sy’n byw mewn cartref ag un rhiant. O ystyried bod iechyd meddwl pobl ifanc yn dirywio cyn y pandemig, mae’r dystiolaeth ryngwladol hon yn cefnogi’r naratif bod COVID wedi gwaethygu argyfwng a oedd eisoes yn bodoli, y mae angen mynd i’r afael ag ef ar frys.

Darllenwch ganfyddiadau a chipolygon manylach o’r astudiaeth hon yn y Journal of Adolescent Health.