
Mewn cyfnod pan mae iechyd meddwl a lles corfforol pobl ifanc yn aml dan y chwyddwydr, mae’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion mewn safle blaenllaw o ran darparu data cadarn, y gellir gweithredu arno, i ysgolion a llunwyr polisi i gynorthwyo â rhoi datrysiadau wedi’u llywio gan dystiolaeth ar waith.
Yn y Blog hwn, mae’r Dr. Nick Page, Cymrawd Ymchwil DECIPHer, ac Uwch Ddadansoddwyr ar gyfer y Rhwydwaith, yn rhoi cipolwg i’r data a gasglwn a sut mae’n helpu i lunio dyfodol iachach i’r genhedlaeth nesaf.
Ers 2013, mae Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith mewn ysgolion uwchradd wedi bod yn gonglfaen o ran deall a gwella iechyd a lles y glasoed yng Nghymru.
Mae’r Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr, a gyflwynir bob dwy flynedd i sampl genedlaethol fawr o bobl ifanc 11- 16 oed, yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys iechyd meddwl a lles, gweithgarwch corfforol a maeth, defnyddio sylweddau, iechyd rhywiol a perthnasoedd cymdeithasol.
Mae ein gwaith wedi bod yn hynod arwyddocaol wrth helpu i sefydlu a gwreiddio model cenedlaethol ar gyfer casglu data a defnyddio gwybodaeth mewn ysgolion, sy’n darparu tystiolaeth hanfodol i lywio polisïau, rhaglenni ac ymyriadau iechyd cyhoeddus ac iechyd ysgolion sy’n anelu at wella bywyd plant a phobl ifanc. Mae dros 90% o ysgolion uwchradd a gynhelir yn cymryd rhan yn rheolaidd yn yr Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr, gyda chyfraddau ymateb y myfyrwyr yn cynyddu’n raddol o 65% yn 2017 i 75% yn 2023. Mae hyn gyfwerth â thros 100,000 o bobl ifanc 11-16 oed yn cymryd rhan ym mhob cylch yr arolwg.
Yn ein harolwg diweddaraf, gwelwyd y nifer uchaf eto yn cymryd rhan, gyda 129,761 o bobl ifanc 11-16 oed o 201 ysgol yn cyfranogi. Mae’r sampl genedlaethol fawr yn sicrhau bod profiadau ac anghenion amrywiol amrywiaeth eang o fyfyrwyr yn cael eu cynrychioli (gan gynnwys rhywedd a lleiafrifoedd ethnig, gofalwyr ifanc a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal), gan hybu tegwch iechyd a rhoi cyfleoedd gwerthfawr i ddeall ymddygiadau iechyd yn well ymhlith grwpiau sydd yn y lleiafrif.
Mae data o’r Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr yn helpu i gynhyrchu sawl ffurf ar dystiolaeth, gan gynnwys:
- Ymchwil epidemiolegol
- Monitro a gwerthuso polisi
- Cysylltedd data
Er enghraifft, yn ddiweddar, mae ein data wedi helpu i archwilio tueddiadau mewn problemau emosiynol pobl ifanc yng Nghymru yn y blynyddoedd cyn pandemig COVID-19, gan ddarganfod cynnydd sylweddol rhwng 2013 a 2019 na ellid ei esbonio gan newidiadau mewn bwlio neu gyfeillgarwch. Hefyd, mae data’r arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr wedi cael ei ddefnyddio i werthuso’r effeithiau ar fepio gan bobl ifanc yn sgil cyflwyno rheoliadau’r UE, ac mae ymatebion i’r arolwg gan fyfyrwyr a gydsyniodd wedi cael eu cysylltu’n llwyddiannus â chofnodion iechyd arferol i archwilio cysylltiadau rhwng bwlio a hunan-niwed.
Bob pedair blynedd, mae’r Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr yn gwreiddio cwestiynau o’r astudiaeth ryngwladol, Ymddygiad Iechyd mewn Plant Oed Ysgol (HBSC) – astudiaeth hirhoedlog o iechyd y glasoed a gefnogir gan Sefydliad Iechyd y Byd, a ddechreuodd yn y 1980au – gan alluogi croes-gymariaethau â data o 50 wledydd ar draws Ewrop a Gogledd America.
Mewn astudiaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar, dangosodd data gan 35 o wledydd HBSC, gan gynnwys Cymru, fod cwynion iechyd corfforol (e.e. pen tost, stumog ddrwg) a chwynion iechyd meddwl (e.e. gorbryder, pigogrwydd) pobl ifanc yn uwch o lawer na’r disgwyl yn dilyn y pandemig, ar sail tueddiadau blaenorol.
I gynyddu gwelededd data’r Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr o fewn y gymuned ymchwil academaidd, rydym wedi cyhoeddi proffil adnodd data o’r Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr am ddim yn yr International Journal of Epidemiology. Diben y proffil adnodd data hwn yw darparu gwybodaeth fel y gall ymchwilwyr ddeall cwmpas data’r Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr a sut i gael ato a gwneud y defnydd gorau ohono.

Yn 2024, cymerodd y Rhwydwaith gam sylweddol ymlaen trwy ehangu’r Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr i gynnwys ysgolion cynradd yng Nghymru. Mae’r ehangu hwn wedi caniatáu i ni gasglu data amhrisiadwy ar iechyd a lles plant iau, 7-11 oed, am y tro cyntaf. Nod y fenter yw cynnig cipolygon cynnar i arferion a heriau iechyd plant, gan hwyluso ymyrraeth a chymorth cynt o fewn y system addysg. Mae’r set ddata newydd hon yn ategu ein hymchwil presennol ac mae’n cynnig golwg fwy cynhwysfawr ar iechyd pobl ifanc ar draws grwpiau oedran gwahanol.
Gan edrych tua’r dyfodol, rydym yn edrych ymlaen yn fawr at adeiladu ar ein seilwaith data presennol trwy gylch pellach o gasglu data yn 2025, a fydd yn caniatáu i ni barhau i gynhyrchu tystiolaeth ymchwil o ansawdd uchel er mwyn ategu gwelliant iechyd ysgolion yng Nghymru a’r tu hwnt.
Rhannwch eich Cipolygon Academaidd: Ydych chi wedi defnyddio data’r Rhwydwaith yn eich gwaith academaidd? Rhannwch eich canfyddiadau a’ch cipolygon yn y sylwadau isod. Gall eich cyfraniadau helpu i lywio mentrau ac ymyriadau iechyd yn y dyfodol, gan feithrin dyfodol iachach i blant a phobl ifanc.
Helpwch roi’r gair ar led! Rhannwch y postiad hwn gyda’ch ffrindiau a’ch cydweithwyr i godi ymwybyddiaeth o iechyd a lles plant a phobl ifanc a gwerth data’r Rhwydwaith.
Gwybodaeth am yr Awdur
Rwy’n Gymrawd Ymchwil yn y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer), Prifysgol Caerdydd. A minnau’n arweinydd y rhaglen ar gyfer dadansoddi ac allbynnau yn y Rhwydwaith, mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar ddatblygu iechyd poblogaeth y glasoed trwy ddadansoddiadau eilaidd o ddata meinitiol.
Mae fy ymchwil wedi archwilio newidiadau dros gyfnod mewn ysmygu a defnyddio canabis gan bobl ifanc, ymchwilio i effeithiau byrdymor cyflwyno rheoliadau e-sigaréts ar fepio gan bobl ifanc, ac archwilio tueddiadau posibl wrth gyfuno cysylltedd data arferol ag arolygon cenedlaethol o blant oed uwchradd. Fy nod yw cynhyrchu tystiolaeth o ansawdd uchel sy’n llywio polisïau ac ymyriadau iechyd cyhoeddus, gan gyfrannu yn y pen draw at gymunedau iachach.