Cipolygon ac Argymhellion o Astudiaeth Lles mewn Ysgolion a Cholegau (WiSC)
Fe wnaeth ein hastudiaeth ddiweddar yn 2023/24 ymhél â phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, ynghyd â staff mewn ysgolion uwchradd a cholegau AB ar draws Cymru. Wrth sôn am brofiad o fod mewn gofal, cyfeiriwn at y rhai sydd mewn gofal maeth, gofal preswyl, sy’n byw gyda ffrindiau neu deulu (gofal gan berthynas), neu’r rhai sydd wedi cael eu mabwysiadu. Fe wnaeth yr astudiaeth gynnwys adolygu ymatebion i arolwg a gasglwyd yn 2017/18 fel rhan o’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (y Rhwydwaith), i ddeall darpariaeth iechyd meddwl ysgolion gan ddefnyddio Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith a Holiadur Amgylchedd yr Ysgol y Rhwydwaith. Hefyd, cynhwysom wybodaeth gan ofalwyr a staff mewn gwasanaethau iechyd meddwl a gofal cymdeithasol. Dyma grynodeb o’u safbwyntiau am anghenion a chymorth lles mewn ysgolion a cholegau.
Canfyddiadau allweddol
Anghenion Lles Dysgwyr mewn Ysgolion Uwchradd: Datgelodd arolwg y Rhwydwaith fod lles plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn waeth na’u cymheiriaid, gyda’r lefelau lles isaf ymhlith y rhai mewn gofal preswyl. Nododd ein cyfweliadau gyfnodau hollbwysig o fwy o angen, er enghraifft yn ystod pontio o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd, cyfnodau arholi a’r cyfnod hyd at wyliau’r ysgol.
Anghenion Lles Myfyrwyr mewn Colegau AB: Fe wnaeth pontio i’r coleg greu heriau ychwanegol o ran lles, gan gynnwys gwneud ffrindiau newydd, pryderon ymarferol am arian a theithio, dewis y cwrs cywir a cholli cefnogaeth yr ysgol. Yn y coleg, wynebodd myfyrwyr bwysau i gyflawni’n dda yn academaidd a phryderon am symud tuag at fyw’n annibynnol.
Cefnogaeth mewn Ysgolion Uwchradd: Mabwysiadodd ysgolion ddull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan ganolbwyntio ar anghenion dysgwyr unigol. Yn aml, roedd amgylchedd yr ysgol yn wasanaeth cymorth, gyda dysgwyr yn amlygu hoff wersi a chlybiau. Roedd cyfeillgarwch yn chwarae rhan hollbwysig yn eu lles. Serch hynny, roedd bylchau amlwg yn y cymorth i fyfyrwyr wedi’u mabwysiadu.
Cymorth mewn colegau AB: Fe wnaeth cymorth yn ystod y pontio o’r ysgol i’r coleg gynnwys cyngor gyrfaol ac ymweliadau â cholegau yn ystod amseroedd tawelach. Ar ôl pontio, darparodd timau bugeiliol gymorth teilwredig, yn enwedig i fyfyrwyr sy’n symud i fyw’n annibynnol. Fodd bynnag, prin o hyd oedd cymorth i fyfyrwyr wedi’u mabwysiadu.
Argymhellion WiSC
I bob sefydliad sy’n cefnogi plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal:
- Sicrhau bod plant, pobl ifanc a gofalwyr yn ganolog i ddeall anghenion ac i newidiadau a datblygiadau yn y dyfodol.
- Cryfhau partneriaethau rhwng addysg, iechyd meddwl a gofal cymdeithasol.
- Mynd i’r afael ag anghenion penodol plant a phobl ifanc sydd wedi’u mabwysiadu.
- Cefnogi iechyd meddwl a lles staff ysgolion a cholegau.
Ysgolion
- Annog perthnasoedd da rhwng dysgwyr a staff.
- Helpu i feithrin a chynnal cyfeillgarwch cryf ymhlith dysgwyr.
- Darparu cymorth teilwredig i anghenion unigol pob plentyn a pherson ifanc.
Colegau:
- Sicrhau bod oedolyn cyson ar gael i gefnogi’r bobl ifanc wrth iddynt bontio i’r coleg, gan efallai ymestyn rôl y Cynghorydd Personol a chynnig cymorth mwy cynhwysfawr o un ffynhonnell.
- Hwyluso cydweithrediad gydol y flwyddyn rhwng ysgolion a cholegau i helpu gyda phontio.